Archifau

Categorïau

free counters

Croeso

Croeso i wefan Pencader a’r Cylch

Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth am ein cymuned yn cynnwys y pentrefi Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel-ar-Arth, New Inn a Phencader.

Pencader a’r cylch yw ardal Cyngor Cymuned Llanfihangel-ar-Arth. Mae e wedi ei leoli yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Afon Teifi yw’r ffin ogleddol a’r ffin ddeheuol yw ychydig i’r de o Nant Alltwalis. I’r dwyrain mae coedwig Brechfa ac i’r gorllewin Nant Gwyddil. Ar draws y ffin i’r gogledd-ddwyrain mae Mynydd Llanllwni. Mae’r ardal yn cynnwys tir ffermio, coedydd bach, bryniau sy’n codi i fwy na 350 metr uwchlaw lefel y môr, afonydd a nentydd. Mae mwyafrif y tir yn draenio i’r gogledd i Afon Teifi ond mae ardal Alltwalis i’r de o’r cefn deuddwr ac mae Nant Alltwalis yn llifo i Afon Tywi.

Prif economi’r ardal yw amaethyddiaeth ond hefyd mae nifer o fusnesau bach. Mae rhai preswylwyr yn teithio i weithio yn y trefi cyfagos e.e. Caerfyrddin neu Lanbedr Pont Steffan. Mae’r ardal yn cynnwys 6 phentref sef Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel-ar-Arth, New Inn a Phencader. Mae mwyafrif y poblogaeth yn medru Cymraeg ac mae gan yr ardal hanes cyfoethog. Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n gweld ein gwefan o ddiddordeb, ac os oes gennych unrhyw sylwadau, defnyddiwch y ffurflen ar-lein ar y dudalen Cysylltwch â Ni.

 

<!–:en–>GARDEN & CRAFT SHOW 2017 WINNERS<!–:–><!–:cy–>SIOE ARDD A CHREFFT 2017<!–:–>
SIOE ARDD A CHREFFT 2017 ENILLWYR
Posted 9 diwrnod ago

Cynhaliwyd y Sioe Hwyl Gardd a Chrefftau a’r Sadwrn Medi 9ed yn y Pafiliwn. Er gwaethaf y cawodydd trymion fe ddaeth 37 cystadleudd ynghyd gyda 202 o ymgeision - cynnydd…

<!–:en–>Spring Clean Up 2017<!–:–><!–:cy–>Glanhau Gwanwyn 2017<!–:–>
Glanhau’r Hydref 2017
Posted 16 diwrnod ago

Cynhelir “Glanhau pentref” yr Hydref ddydd Sadwrn 14 Hydref, i ddechrau am 10.00 y bore o'r Pafiliwn. Gellir cael ffyn casglu, bagiau, menig, tabardau ac ati yn y Pafiliwn a’u…

Glanhau’r Hydref 2017
<!–:en–>FUN GARDEN AND CRAFT SHOW<!–:–><!–:cy–>SIOE HWYL ARDD A CHREFFT<!–:–>
SIOE HWYL ARDD A CHREFFT
Posted 21 diwrnod ago

GRŴP ADFYWIAD PENCADER A’R CYLCH
 *********************

SIOE HWYL ARDD A CHREFFT
*********************
PAVILION
PENCADER
*********************

DYDD SADWRN 9 MEDI 2017
*********************
Tâl mynediad: - 40c yr eitem, 20c i blant, yn daladwy ar y dydd
 Drysau ar agor i’r cyhoedd…

<!–:en–>WI Centenary<!–:–><!–:cy–>WI Canmlwyddiant<!–:–>
Sefydliad y Merched
Posted 21 diwrnod ago

Mae aelodau Sefydliad Y merched yn parhau i fwynhau cyfarfodydd a gweithgareddau diddorol. Ym mis Mehefin, croesawyd Carys Davies, cyfreithwraig o James, Jones,ei Fab a Francis, Llandysul.

Siaradodd Carys am ei…

<!–:en–>Regeneration Group meeting<!–:–><!–:cy–>Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch<!–:–>
Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch
Posted 21 diwrnod ago

Allech chi ein cefnogi ni?
Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.
Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun Hydref 16eg…

<!–:en–>Family Centre news<!–:–><!–:cy–>Canolfan Deuluol Newyddion<!–:–>
Canolfan Deuluol Newyddion
Posted 21 diwrnod ago

Mae Canolfan Deuluol Pencader ar agor drwy gydol yr haf, gyda gwibdaith wedi bod i Fferm Ffoli eisoes, a gwibdaith wedi ei drefnu i canolfan chwarae plant yn Llanelli. Rhowch…

PreviousNext