Croeso i wefan Pencader a’r Cylch Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi gwybodaeth am ein cymuned yn cynnwys y pentrefi Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel-ar-Arth, New Inn a Phencader. Pencader a’r cylch yw ardal Cyngor Cymuned Llanfihangel-ar-Arth. Mae e wedi ei leoli yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Afon Teifi yw’r ffin ogleddol a’r ffin ddeheuol yw ychydig i’r de o Nant Alltwalis. I’r dwyrain mae coedwig Brechfa ac i’r gorllewin Nant Gwyddil. Ar draws y ffin i’r gogledd-ddwyrain mae Mynydd Llanllwni. Mae’r ardal yn cynnwys tir ffermio, coedydd bach, bryniau sy’n codi i fwy na 350 metr uwchlaw lefel y môr, afonydd a nentydd. Mae mwyafrif y tir yn draenio i’r gogledd i Afon Teifi ond mae ardal Alltwalis i’r de o’r cefn deuddwr ac mae Nant Alltwalis yn llifo i Afon Tywi. Prif economi’r ardal yw amaethyddiaeth ond hefyd mae nifer o fusnesau bach. Mae rhai preswylwyr yn teithio i weithio yn y trefi cyfagos e.e. Caerfyrddin neu Lanbedr Pont Steffan. Mae’r ardal yn cynnwys 6 phentref sef Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel-ar-Arth, New Inn a Phencader. Mae mwyafrif y poblogaeth yn medru Cymraeg ac mae gan yr ardal hanes cyfoethog.