Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Llywyddion / Presidents – Mr & Mrs Gwynfor Davies

/>

Canlyniadau / Results

Llwyfan – Sesiwn cyfyngedig / Stage Local Section

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Dafydd, Llandysul

3 Gwenlli Davies Llandyfrïog

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Mair Dafydd

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenlan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Mari Lois Jones, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Gwenan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Gwenllian Dafydd ,Llandysul

3 Mari Lois Jones, Llanllwni, Elinor Sian Williams Pencader, Magw Fflur, Llandysul

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Mali Macdonald, Pencader

Canu Emyn a Chwpan er cof am Freddy Brooker / Hymn Singing and Freddy Brooker Memorial Cup

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Lloyd Owen

3 Mari Lois Jones & Hanna Grug Jones, Llanllwni


Parti Canu – Ysgol Cynradd / Singing Party, Primary Age

1 Parti Merched Bro Teifi

Enillydd Cwpan Her er cof am Mr a Mrs Hughes gynt o Brownhill / Winner of Mr & Mrs Hughes, formerly of Brownhill Memorial Challenge Cup

Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llwyfan Sesiwn Agored / Stage Open Section

Cynradd / Primary

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Morgan Teifi Gwynedd, Pontyberem

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Ella Gwenlli, Tregaron

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Ella Gwenlli, Tregaron

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Betsi May, Rhydaman

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Hanna Jones, Llanllwni

2 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

3 Rhun Thomas & Non Thomas, Talgarreg

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

2 Non Thomas, Talgarreg

3 Hana Jones, Llanllwni & Rhun Thomas, Talgarreg

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenan Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Trystan Bryn Llambed

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin & Mari Lois Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Offerynnol – Ysgol Gynradd a Gwobr Valerie Davies (£20) / Instrumental Solo – Primary Age and Valerie Davies Prize (£20)

1 Alwena Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

Alaw Werin – Ysgol Gynradd / Folk Singing Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Trystan Bryn, Pumsaint

Cerdd Dant – Ysgol Gynradd / Cerdd Dant Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Ela Gwenllian Tregaron

Uwchradd / Secondary

Llefaru Blwyddyn 7 – 9 / Recitation Years 7 – 9

1 Elen Morgan Drefach, Llanybydder

Unawd Blwyddyn 7 – 9 / Solo Years 7 – 9

1 Siwan Mair Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 10 – 13 / Recitation Years 10 – 13

1 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Blwyddyn 10 – 13 / Solo Years 10 – 13

1 Hana Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Offerynnol Ysgol Uwchradd a Chwpan Teulu Maesybwlch / High School Instrumental Solo & Maesybwlch Family cu

1 Heledd Jones, Saron

2 Lefi Dafydd, Eglwyswrw

3 Elen Morgan, Drefach

4 Gwion Jones ,Caerfyrddin

Agored / Open

Alaw Werin – Agored / Folk Song Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

3 Siwan Jones, Caerfyrddin & Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Cerdd Dant – Agored / Cerdd Dant Solo Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Alwena Owen, Llanllwni

Parti Canu / Côr – Agored / Singing Parti Open

1 Parti Siriol, Sioned & Sioned

Deuawd – Agored / Duet Open

1 Sioned a Siriol Howells

Cân fodern neu gân allan o sioe gerdd / Modern song or song out of a musical

1 Sioned Howells, NewInn

Darllen o’r Ysgrythur – Agored / Reading from the Bible – Open

1 Maria Evans

2 Alwena Mair Owen

3 Sioned Howells & Sioned Bowen

Canu Emyn – Agored a Chwpan er cof am Noel James / Hymn Singing – Open and Cup in Memory of Noel James

1 Sioned Howells, New Inn

2 Sioned Bowen

Her Unawd 19 – 25 / Challenge Solo 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Her Llefaru 19 – 25 / Challenge Recitation 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – Darn Digri / Welsh Eisteddfod Society Competition

1 Hanna Medi Davies

‘Sgen ti dalent?’ / ‘Do you have Talent?’

1 Bet a Dawn

2 Siriol & Sioned Howells, NewInn

Her Adrodd / Challenge Recitation

1 Maria Evans

Enillydd Cwpan Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn yr Adran Agored / Winner of the Western Power Cup for the most promising performance in the Open Section

Heledd Jones, Saron

Adran Lenyddiaeth / Literature Section

Y Gadair / The Chair

Rachel James, Boncath

Cân Ysgafn / Amusing Poem

Mary B Morgan, Llanrhystud

Cerdd Rydd / Free Verse

Mary B Morgan, Llanrhystud

Englyn

Nia Llywelyn, Llandysul

Limerig / Limerick

Delyth Lewis, Aberystwyth

Erthygl yn addas i Bapur Bro / Article Suitable for a Local Newspaper

MeganRichards, Aberaeron

Stori Fer / Short Story

IonaEvans, Abergele

Cwpan Coffa Gwilym Walters am y darn gorau o ryddiaith yn Adran yr Oedolion / Gwilym Walters Memorial Cup for the best piece of writing in the Adult Section

Iona Evans, Abergele

Dysgwyr / Welsh Learners

Raymond Williams, Llanybydder

Brawddeg / Sentence

Eilir Jones, Pencader

Meithrin a Derbyn – Llun a Brawddeg / Nursery and Reception – Picture and Sentence

1 – Lara Thornton, Castell Newydd Emlyn

2 – Rhun Thomas, Talgarreg

3 – Elliw Grug Davies, Llanybydder

Blwyddyn 3 & 4 – Stori / Years 3 & 4 – Story

1 – Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

2 – Gwenno Francis, Boncath

Blwyddyn 7 – 9 – Stori / Years 7 – 9 Story

1 – Lefi Aled Dafydd

2 – Elen Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Blwyddyn 10 – 13 – Stori / Years 10 – 13 – Story

1 – Sara Elan – Cwmann

Enillydd Tarian Gwenllan am y darn gorau o waith yn Adran Lenyddiaeth y Plant / Winner of the Gwenllan Shield for the best piece of writing in the Children’s Section

Lefi Dafydd, Eglwyswrw

Tlws yr Ifanc / Young People’s Literature Prize

Sioned Howells, NewInn

Llawysgrifen / Handwriting

Lan i Flwyddyn 2 / Up to Year 2

1 – Lola Griffiths, Caerfelin

2 – Beca Evans, Ysgol y Ddwylan

3 –StanleyDavies, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Dylan Bro Teifi

2 – Katelyn, Bro Teifi

3 – Chloe, Bro Teifi

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Beca Dwyryd, Porthmadog

2 – Elan Evans, Ysgol Llanllwni

3 – Tudur George, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 7 – 9 / Years 7 – 9

1 – Gwion Huw Jones, Caerfyrddin

Celf / Art

Meithrin a Derbyn / Nursery and Reception

1 – Ioan Davies, Llanfihangel-ar-arth

2 – Elsi Williams, Ysgol Caerfelin

3 – Martha Bellis, Ysgol Llangynnwr

Blwyddyn 1 & 2 / Years 1 & 2

1 – Holly Thomas, Ysgol Caerfelin

2 – Trystan Morris, Ysgol Caerfelin

3 – Ina Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Ruby Powell, Ysgol Caerfelin

2 – Chloe Harries, Ysgol Caerfelin

3 – Jac Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

2 – Ffion Lovell, Ysgol Caerfelin

3 – Maddison Driscoll, Ysgol Caerfelin

Cwpan Her er cof am Heledd Griffiths / Winner of The Heledd Griffiths Memorial Cup

Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

Celf – Agored / Art Open

1 – Michelle Davies, Llanfihangel-ar-arth

lanhad y Gwanwyn

Plis dewch i’r Pafiliwn bore Sadwrn Ebrill 13fed

erbyn 10.00 y.b.at gyfer y Glanhau Gwanwyn.

Mae angen helpwyr o bob oedran i gasglu sbwriel ag ati yn y mannau canolog yn y pentref.

Darperir pob offer a bydd lluniaeth ysgafn a’r gael at y diwedd.

 

Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol Moduron Gwledig

Angen ymweld a’r feddygfa, cadw apwyntiad, casglu eich pensiwn neu siopa angenrheidiol.

Mae Moduron Gwledig yn weithredol unwaith eto, ac mae a’r gyfer trigolion Pencader a’r cylch sydd heb unrhyw fodd o gludiant.

Bydd y teithiau o fewn talgylch o 20 milltir i’r feddygfa, optegydd, traedfeddyg, materion busnes, siopa angenrheidiol neu i gyfarfod bws, tren a y b.

Codir tal cymhedrol yn ol milltiroedd y teithiwr.

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael Modur Gwlad, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gyrru i’r cynllun Moduron Gwledig am fwy o fanylion cysylltwch:

Mrs. J. Jones, Rhif ffon 01559 384736

Canolfan Deuluol Newyddion

Dechreuwn y flwyddyn newydd gyda chyfarchion i holl ddefnyddwyr y Ganolfan ac i deuluoedd sydd eto heb gymryd mantais o beth sydd gan y Ganolfan Deuluol i gynnig.

Fel mae hwn yn mynd i’w argraffu, mae gennym wibdaith i weld cyflwyniad byw o’r Dywysoges Gysglyd yn Neuadd Goffa Burry Port, ac ‘rydym yn gobeithio dilyn hyn gyda rhagor o deithiau drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein teithiau yn costio y lleiafswm i ddefnyddwyr y ganolfan ac os ydych yn gwybod am unrhyw un fydde yn elwa o ambell ddiwrnod allan i lefydd o ddiddordeb cysylltwch os gwelwch yn dda.

‘Rydym yn croesawi ymweliadau unrhyw bryd, mae y ganolfan ar agor 9 tan 3 ar ddydd Mawrth a dydd Iau, ac 9 tan 12 ar ddydd Mercher.

‘Rydym yn gweithredu Co-op bwyd pob dydd Iau sydd yn caniatai lluniaeth iachus!

Peidiwch anghofio hefyd ein bod yn cynnig yn annffurfiol hyforddiant ac ymarfer cyfrifiaduron. Os oes unrhywun am wirfoddoli plis cysylltwch. Manylion yn y Dyddiadur Cymunedol.

Clecs Bro Cader

Community Newsletter-Cylchlythyr Cymunedol

Clecs Bro Cader Cylchlythyr cymunedol

Mae fersiwn ar-lein y rhifyn diweddaraf ar gael yma

 

BWRW BOL

Chwefror 2019

Dymuniadau y flwyddyn newydd i holl ddarllenwyr y golofn hon.

Mae yn syndod, er fod y ganran fwyaf o fobl yn hawlio eu bod yn darllen y cylchlythyr, faint sydd ddim yn ei ddarllen go iawn neu ddim yn llyncu y cynnwys ac wedyn yn dweud “nid oeddwn yn gwybod am y digwyddiad yna”.

Ar ol yr holl draferth o ysgrifennu erthygl, ei gael wedi ei argraffu ac wedyn dosbarthu nid y’w yn ormod y’w ddarllen os bosib?

‘Roedd yr ardal yn fyw gan ddigwyddiadau y Nadolig eleni- Canu Carolau, Goleuo’r Goeden Nadolig, Goleuadau Nadolig a phartion di-ridigonedd i bawb. Mae y trefnwyr i gyd i’w llongyfarch am ddigwyddiadau amrywiol, tra fod y Capeli ar Eglwysi yn dal gafael cadarn a thraddodiadol ar wir ystyr y Nadolig.

Ychydig, os unrhywbeth, a ddigwyddodd yn y misoedd diwethaf ym Mhencader ar cylch. Serch hynny mae y cyrch hyrddio a y cyrch cyffuriau wedi cynyrchu peth gweithgarwch gan yr heddlu dros tymor yr Wyl.

Sylwadau i’r golygydd plis

(dotti53@gmail.com) neu

Stuart Wilson Ffon 384709

Rhagfyr 2018

Ar y dechrau meddyliais na fyddai yna lawer i sylwebi arno yn y cwarter hwn- mor abghywir oeddwn. Mae diolch yn estyniedig i Dotti Hicks am gynhyrchu y cylchlythyr am yr ail dro ac mae i’w llongyfarch ar y rhifyn cyntaf. Gorfodwyd ddileu “Glanhau’r Pentref” a oedd i ddigwydd ym mis Hydrefar y funud olaf ar gownt y tywydd ofnadwy, beth bynnag gyda hynny mewn golwg’roedd llawer o’r pentref wedi ei wneud yn gynharach yn yr wythnos, diolch i’r casglwyr sbwriel fyddlon.

Sul y Cofio, Tachwedd 11ed

Gyda eleni yn ganfed blwyddyn ers pan peidiodd y brwydro gelyniaethus y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dilyn y cynulliad arferol ger y Gof Golofn cafwyd oedfa ddwy ieithog yng nghapel Tabernacl. Cafwyd darlleniadau, gweddiau ac emynnau gan wahanol aelodau o bob oedran o’r gymuned. Diolchwn i bwyllgor y capel am ganiatau hyn ddigwydd.

Goleuadau Nadolig

Gobeithio fydd na gynydd yn y cystadleuwyr cyntaf/newydd eleni gyda gwahanol syniadau a chynlluniau. Bydd y beirniadu yn cymeryd lle yn yr wyrhnos cyn y Nadolig. Daeth yr ymdrechion i olrhain perchennog llun gafodd ei adfer gan y diweddar Jane Billington or diwedd i ffrwyth, ar ol misoedd o geisiadau gan Lynn. Mae Lynn wedi cyfrannu gwerth cost y gwaith hwn i Bwyllgor y Sioe Arddio a Chrefftau i gael tlws parhaol yn enw Jane ar gyfer cystadleuaeth darlunio drwy unrhyw gyfrwng. ‘Roedd Jane yn grefftwraig dalentog ac mae yn dda meddwl fydd y cof amdani yn cadw yn fyw.

Comments please to Editor (dotti53@gmail.com) or Stuart Wilson, Tel: 01559 384709

Medi 2018

Nid oeddwn wedi disgwyl y byddai gofyn I mi gynhyrchu adroddiad arall am fywyd y plwyf drwy fy llygaid i. Mi fyddaf felly yn gryno, a cheisiaf beidio a chynhyrfu’r darllenydd.

Mae’n rhaid mae’r uchafbwynt yw’r carnifal gwych a gynhaliwyd yn y tywydd bendigedig am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y syniad o gael consuriwr i swyno’r plant drwy’r prynhawn yn athrylithgar. Nid oeddwn erioed wedi gweld, nac hyd yn oed wedi ystyried bod hud a lledrith mor boblogaidd.

Diolch i Bwyllgor y Carnifal am ddiwrnod gwych.

Cyfeirir mewn man arall yn y cylchlythyr at ddyddiad ar gyfer diwrnod Glanhau’r Hydref. Bydd yn ddiddorol gweld a wnaiff Cyngor Sir Caerfyrddin ymrwymo i’w cynllun “Cymoni Cymuned” ar gyfer yr ystadau fel y gwnaethant fis Ebrill diwethaf, dim ond i’w ganslo yn y funud olaf gan nodi “salwch y trefnydd” fel y rheswm. Ar ôl rhyw dair blynedd ar ddeg o “wneud” Maescader, byddaf yn gosod fy hun yn rhywle arall yn hytrach na’i cywilyddio hwy a’r cyngor gwleidyddol cywir.

Diolch yn fawr i’r Golygydd newydd am ymgymryd â rhifyn mis Medi o’r cylchlythyr, a gobeithio y bydd yn parhau, mae pawb ohonom yn dymuno’n dda iddi.

Sylwadau os gwelwch yn dda i bwyllgor golygyddol d/a Stuart Wilson, ffôn: 01559 384709

neu janegriffithsuk@btinternet.com

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

This Small Corner

Os hoffech brynu copi o lyfr Steve Dubé ar hanes Pencader, mae rhai copïau ar gael yn Llwyngwen. Y pris gwreiddiol oedd £9.99, ond gellwch ei prynu am £7.50. Ffoniwch Stuart os hoffech brynu copi.

Sylwadau os gwelwch yn dda i Golygydd –

ebost: editor@ffermffynnonwen.plus.com

neu Stuart Wilson – ffôn: 01559 384709

Noson Cerddoriaeth Gwlad

Music at the Beehive

Amserlen y llyfrgell symudol


Nodiadau o Sied yr Ardd

Rhagfyr Nodiadau

Wel, mae’n fis Tachwedd unwaith eto, ac mae Guto Ffowc a’i griw o gynllwynwyr wedi eu cloi i fyny yn Nhŵr Llundain yn aros am eu ffawd. Mae’r coelcerthi wedi eu cynnau yn ein gerddi hefyd, er mwyn llosgi’r tociadau a thopiau planhigion marw a fydd, yn ei thro, yn creu lludw gwerthfawr i’w ledu dros yr ardd, sy’n ffynhonnell werthfawr o ‘botash’ sydd mor bwysig i fwydo’r planhigion, gan ei fod yn cynorthwyo’n llysiau a’n borderi blodau i ffrwytho a blodeuo.

Bydd y cnydwyr llysiau brwdfrydig wrthi’n barod yn cynllunio’u gwelyau llysiau’r flwyddyn nesaf, a hyd yn oed yn cychwyn ar y gwaith wrth hau rhai ffa llydan mewn man cysgodol o’r ardd sy’n draenio’n dda, er mwyn cael cnwd cynnar y flwyddyn nesaf. Rwy’n gwybod bod llygod yn gallu bod yn broblem fawr, ond os gallwch ddiogelu ardal o’r creaduriaid bach dinistriol yma, beth am geisio tyfu rhywfaint o bys crwn amlhadog cynnar, a fydd hefyd yn rhoi cnwd llawer cynharach i chi yn y gwanwyn, rhowch gynnig ar y mathau ‘ Meteor ‘neu’ Douce Provence’ sy’n fathau cynnar addas.

Mae hefyd yn amser da i hau rhai pys pêr yn y tŷgwydr ar gyfer gardd flodau’r flwyddyn nesaf, ond uwaith eto, byddwch yn wyliadwrus o’n ffrindiau bach bleog gan eu bod yn caru hadau pys pêr a byddant yn cloddio’n eich potiau i ddod o hyd i fwyd.

O feddwl am blâu a chlefydau gardd, deuthum ardraws llyfr garddio hen iawn yn ddiweddar, a roddodd y wybodaeth ganlynol sy’n berthnasol i ardd llysiau o tua 800 llath sgwâr (mae hyn yn llawer mwy na gerddi’r rhan fwyaf o bobl heddiw) yr eitemau a argymhellir ar gyfer y flwyddyn yw:-

7 pwys o Naphthalene amrwd, 8 pwys o fflŵr sylfwr, 1 pwys o lwch calomel, 4 owns hylifol o 98% Nicotin, 4 wys o lwch derris, 2 alwyn o D.N.C (Dinitro-Ortho- Creasol), 1 tun o ‘Saim Tanglefoot’, 1 galwyn o Galch Sylffwr, a 2 alwyn o ddistylliad Tar.

Dylai’r rhain fod wedi lladd yr holl blâu, a mwyna thebyg wedi byrhau bywyd yr hen arddwr tlawd hefyd. Dilynwyd y rhain gan restr o’r deunyddiau sydd u hangen i fwydo’r planhigion am y flwyddyn:-

1 tunnell o dail fferm, 2 gant o Galch Hydradl, 1 cant o wrtaith cyffredinol, 7 pwys o waed sych, 7 pws o flawd esgyrn, a 7 pwys o sylffad amonia.

Rhestr siopa fawr iawn ar gyfer un ardd lysiau. Ar y cyfan mae’r rhestr yma o fwyd planhigion dal yn berthnasol heddiw, ond rydym yn ffodus o gael yr eitemau hyn mewn ffurf fwy cyfleus. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau i ladd pla a chlefyd wedi cael eu tynnu o’r farchnad dros y blynyddoedd, gan eu bod yn niweidiol i bobl a’r amgylchedd. Gan nad oes dim yn well na phalu’ch gwely llysiau cyn rhew’r gaeaf, ‘Ewch i nôl eich rhaw’.

Mwynhewch eich garddio

Old Gumboot

Medi Nodiadau

Nodiadau o’r tu allan i’r sied ardd

Dyw drws sied yr ardd ddim yn ddigon llydan i Land Rover fynd drwyddo. Falle bydd rhaid i fi wneud tro gyda model gan ‘mod i’n dwli ar Land Rovers ers fy mhlentyndod.

Falle’ch bod chi ddarllenydd yn ymwybodol fod Land Rover yn saithdeg oed eleni. Falle’ch bod chi hefyd yn gwybod fod gwreiddiau’r cerbyd eiconig hwn yng Nghymru.

Roedd gan y cwmni ceir Rover ran fawr i chwarae yn y diwydiant cynhyrchu arfau yn ystod yr ail ryfel byd, a olygai nad oedd llawer o geir yn cael ei cynhyrchu yn ystod y cyfnod hwn. Pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd gan Rover ofod ffatri anferth a dim model newydd o gar ar y gweill ac hefyd roedd prinder dybryd o ddur yn dilyn ei ddefnydd adeg rhyfel. Roedd yn rhaid cael dur ar gyfer allforio nwyddau ac roedd mawr angen yr allforion ar Brydain i gael arian i mewn i’r Trysorlys.

Ar y pryd, roedd gan ddau o brif ddynion y cwmni ceir Rover ddiddordeb mewn fferm ar ynys Môn. Cawsant y syniad o greu cerbyd oedd yn debyg i’r jeep Americanaidd i’w ddefnyddio o gwmpas y fferm. Ar ymweliad i lan y môr gwnaeth un ohonynt dynnu llun syml ar y tywod o gynllun cerbyd sy’n debyg iawn i’r hyn sydd gyda ni heddiw.

Defynddiwyd aliminiwm ar gyfer corff y cerbyd cychwynnol er mwyn osgoi defnyddio dur. Glynwyd y corff ar ben chassis dur cryf. Ar y dechrau rhoddwyd y ffon llywio yn y canol fel y mae ar dractorau, ond symudwyd hwn i’r safle normal wrth gynhyrchu’r modelau.

Lawnsiwyd y Land Rover yn sioe moduron Amsterdam yn 1948. Roedd yn llwyddiant ar unwaith ac yn boblogaidd gyda ffermwyr, cytundebwyr ac wrth gwrs y fyddin.

Cefais fy nghyflwyno gyntaf i’r cerbyd hwn yn y pumdegau cynnar pan brynodd fy nhad fodel 1953 ar gyfer ei waith ac i fod yn gerbyd i’r teulu. Des i o hyd iddo ar wefan y DVLA yn dal mewn defnydd hyd y dydd heddi, dyna ganmoliaeth i gerbyd sy’n 65 mlwydd oed! Prynais i gerbyd ail-law o 1952 yn y chwedegau cynnar ac mae hwnnw hefyd yn dal ar y ffordd yn rhywle ym Mhrydain.

Wrth weld pris Land Rovers o’r pumdegau heddi, mae’n well i mi gadw drws fy sied yn fach a chwilio am degan Dinky.

Garddio llawen!

Old Gumboot

Mehefin Nodiadau

Cyfeirir at y Gwanwyn yn aml fel “Amser Blaguro” sydd yn hollol gywir gan fod y mwyafrif o goed a llwyni’n cynhyrchu blodau ar yr adeg yma o’r flwyddyn mewn ymgais i ddenu pryfetach i’w peillio.

Yn yr ardal yma mae “Amser Blaguro” yn gwahodd gwynt oer a glaw, a hynny ar yr amser mwyaf diangen o’r flwyddyn. Yn am adlewyrchir hyn gan gnydau gwael ar ein coed afalau ac eirin yn ein gerddi.

Ceir arddangosfa hardd mewn perllannau o goed ffrwythau pan fyddant yn blodeuo’n llawn ac wrth gwrs mae arogl hyfryd i’w aroglu ar noson gynnes.

Yn sicr yr olygfa mwyaf godidog mae’n siwr yw’r goeden geirios Siapaneaidd , sydd wedi addurno ein gerddi dros ganrif ddiwethaf.

Mae yna ystod eang o goed ceirios neu “Prunus “ i roi iddynt yr enw priodol, coed o wahanol faint a lliwiau a fydd yn bodloni’r mwyafrif o arddwyr ac wrth gwrs ceir nifer o wahanol fathau o gnydau hefyd.

Y goeden flodeuog a welir amlaf yw’r “Prunus Hisakhura” drawiadol a hardd wedi ei gorchuddio gyda blagur pinc golau yn blaguro’n gynnar yn y gwanwyn .

Yn anffodus am amser byr y bydd hyn yn parhau ac mae cwymp y petalau’n cael eu cyffelybu i gonffeti.

Gwelir y goeden geirios wyllt (Prunus Avium) yn tyfu mewn gwrychoedd a rhai coetiroedd. Mae’r pren gwerthfawr yma’n cynhyrchu blodau gwyn ac nid yw mor drawiadol a rhai o’i chefndryd sydd wedi eu meithrin. Mae’r “bird cherry” (Prunus Padus) yn addas ar gyfer gerddi amwr eu maint. Mae’n tyfu’n dalsyth ac yn cynhyrchu clymau o flodau bach gwyn yn gynnar yn y gwanwyn.

Ar gyfer gerddi bychain y goeden geirios gryno unionsyth (Prunus Ama-Na-Gawa) yw’r un ddelfrydol. Mae’n dwt ac yn cynhyrchu llu o flodau pinc heb fod yn rhy fawr ar gyfer gerddi o faint cyffredin.

Mae’r goeden geirios wylofus yn boblogaidd iawn .

Os oes gennych ardd fwy o ran maint. Ceisiwch dyfu’r “Cheals Weeping” sy’n cynhyrchu blodau pinc dwbl yn hwyrach yn y gwanwyn. Os nad oes diffyg lle does dim mwy trawiadol na’r “Prunus Taihaku” yn llawn blodau. Mae’r goeden wych yma’n cael ei adnabod hefyd fel y “Great White Cherry” (Y Goeden Geirios Fawr.) Mae’n ddelfrydol ar gyfer gardd fawr neu barc cyhoeddus.

Yn ddiweddar rwyf wedi plannu coeden “Prunus Autmnalis” sy’n goeden anghyffredin yn y ffaith ei bod yn dechrau blodeuo yn ystod y gaeaf pan fydd y tywydd yn fwyn ac yn parhau i flodeuo nes daw’r gwanwyn cynnar. Mae yna’n llythrennol ddwsinau o wahanol fathau i’w cael mewn meithrinfeydd arbenigol. Mae’n werth gwneud ychydig o ymchwil cyn ichi wneud y penderfyniad terfynol am eich dewis. Bydd y goeden gyda chi am flynyddoedd i ddod.

Garddio Hapus a Gwyliwch y Blagur!

Old Gumboot

Mawrth Nodiadau

Mae Chwefror yn sicr wedi byw i fyny i’w deitl traddodiadol, ‘February Fill-dyke’ ac wedi gadael ein ffrydiau a’n ffosydd yn llifo’n dda. Mae gwyntoedd Mawrth yn chwythu’n gryf yn awr, ond nid ydynt yn sychu’r ddaear yn ddigonol i ganiatáu gwneud cynnydd yn yr ardd lysiau. Gobeithio y bydd pethau yn gwella cyn y Pasg gydag ychydig o lwc.

Wrth i’r dyddiau ymestyn a’r tymheredd godi, bydd yn werth cychwyn y tymor tyfu newydd yn y gwely llysiau. Setiau winwns a shibwns yw’r rhai cyntaf i’w plannu allan fel arfer.

Dylai’r rhain fod yn barod i’w cynaeafu erbyn diwedd yr haf. Dylai tatws hâd fod yn blaguro’n dda erbyn hyn yn eu byrddau ‘chitting’ yn ddiogel o’r rhew, a bod yn barod i’w plannu allan cyn bo hir. Yn draddodiadol, plannwyd tatws cynnar ar Ddydd Gwener y Groglith bob blwyddyn.

Byddai cynaeafu yn cychwyn ar gyfartaledd rhyw 12-14 wythnos yn ddiweddarach.

Gellir hau hadau llai yn yr awyr agored pan fydd y pridd wedi cynhesu i fyny ychydig yn fwy; moron cynnar, betys, ffa, nionod gwanwyn ac ati. Mae’r tŷ gwydr yn ddefnyddiol iawn ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Ar wahân i fod yn llechfan ar gyfer y garddwr, mae’n darparu amddiffynfa sy’n caniatáu hau llysiau mwy eiddil fel tomatos, ffa Ffrengig ac wrth gwrs, yr holl gnydau salad.

Gyda chynnal y gystadleuaeth Garddio flynyddol eleni eto, beth am dyfu rhai o’ch planhigion eich hun, o had, i wella eich arddangosfa o flodau’r haf yng ngwely’r ardd flaen. Rhowch gynnig ar dyfu “Marigolds” bach yr Affrig. Mae’r rhain yn hawdd i’w tyfu ac yn creu sioe drawiadol gyda’u blodau melyn/oren mawr uwchben dail cymen, gan greu mwy o effaith na theulu llai Aur Ffrainc.

Mae Cosmos hefyd yn hawdd i’w tyfu a mae’n blanhigyn rhwysgfawr iawn a fydd yn rhoi ychydig mwy o uchder i wely neu gynhwysydd. Mae’n debyg mai ‘Sonata’ yw’r rhywogaeth orau gan nad ydynt yn tyfu’n rhy uchel, ac felly ddim yn dioddef gormod gan ddifrod gwynt. Os arhoswch ychydig wythnosau i’r tywydd cynhesach dewch o hyd fwy o ddewis o blanhigion blodau yn y feithrinfa. Ni ddylai’r planhigion a ddewiswch fod yn llawn blodau pan fyddwch yn eu prynu. Mae’n llawer gwell eu prynu tra byddant mewn blagur gan y byddant yn sefydlu eu hunain yn gyflymach ac yn y pen draw yn gwneud gwell planhigion.

Mae’n hanfodol bwydo eich arddangosfa’n flynyddol os ydych am iddynt bara drwy’r tymor. Os ydych yn plannu mewn compost amlbwrpas, mae’n syml i ychwanegu gwrtaith sy’n rhyddhau’n araf cyn plannu, neu gymysgu i mewn ychydig o wrtaith ‘fish blood and bone’ os nad ydych yn hoffi gwrtaith cemegol. Dyfriwch blanhigion newydd eu plannu yn drylwyr ac wrth gwrs, cadwch i’w dyfrio drwy’r tymor. Mae’n debyg bod y lawnt wedi cael amser caled yn ystod y gaeaf wrth i’r glaw trwm olchi’r maeth i ffwrdd ac felly yn annog twf mwsogl. Bydd digroeni neu gribinio da gyda rhaca yn helpu i gael gwared a pheth mwsogl a hen laswellt sydd wedi cronni i ffurfio ‘gwellt’. Bydd hyn yn galluogi’r glaswellt i ‘anadlu’.

Taenwch wrtaith lawnt i annog twf glaswellt, a ddylai helpu i fygu’r tyfiant o fwsogl gan fod mwsogl yn casáu gwrtaith nitrogen. Nid yw’n syniad da i dorri’r gwair yn rhy fyr yn gynnar yn y tymor, mae’n llawer gwell torri’r agosach yn raddol. Bydd sbeicio neu bigo’r lawnt yn helpu draenio, a bydd hefyd yn helpu i atal mwsogl, ond yn ein hinsawdd lleol, mae’n anodd mynd i’r afael a’r broblem mwsogl oherwydd y lefel uchel o law a lleithder.

Wedi i chi gwblhau’r holl dasgau hyn, gan feddwl eich bod wedi gorffen gwaith y gwanwyn, mae’n ddrwg gennyf ddweud mai dyna pryd mae’r gwaith chwynnu’n dechrau, ynghyd a dwsinau o dasgau eraill, felly mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i chi aros ychydig yn hirach cyn y gallwch ymlacio gyda’r ddiod braf hynny!

Mwynhewch y garddio.

Old Gumboot

 

 

 

 

 

Ynni Solar yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol yn Llandysul a’r cylch

Mae yna brosiect cyffrous iawn yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy lleol ar y gweill yn ardal Dyffryn Teifi. Mae Ynni Lleol Llandysul yn brosiect lle y bydd ynni adnewyddadwy cafwyd ei chynhyrchu yn lleol, yn cael ei ddefnyddio gan breswylwyr yr ardal er mwyn lleihau costau ynni blynyddol. Mae Ynni Lleol Llandysul yn casglu enwau pobol sydd â diddordeb fod yn rhan o’r cynllun yma – ac ar hyn o bryd yn edrych am 50 cartref i gymryd rhan yn y prosiect.

Mi fydd prosiect solar lleol ar dir Lesley a Greg Parker ym Mhont-Tyweli yn gwerthu’r ynni a’i cynhyrchir gan eu prosiect solar 150Kw i gwmni ynni’r ‘Cooperative’, a bydd yn ei thro yn cael ei werthu am bris gostyngedig i Glwb Ynni Lleol Llandysul. Trwy ymuno â’r clwb yma, mae bosib i chi fod yn rhan o’r prosiect, a manteisio ar brisiau ynni is.

Mae prosiectau Ynni Lleol eisoes yn bodoli ym Methesda yng Ngwynedd, ac ar y gweill mewn mannau eraill ar draws Cymru, gyda Llandysul a’r cylch yn rhan o’r casgliad o fentrau cymunedol arloesol hon. Y gobaith fydd, yn dilyn y prosiect hwn, y byddai prosiectau ynni cymunedol eraill yn cael ei datblygu yn yr ardal, gan gadw’r budd yn lleol hefyd.

Mae Ynni Sir Gâr wrthi ar hyn o bryd yn casglu enwau pobol leol yr ardal sydd am y cyfle i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, lleihau eu costau ynni a chyfrannu tuag at yr economi gwyrdd leol, drwy ymuno â Chlwb Ynni Lleol Llandysul. Byddwch hefyd yn gwneud eich rhan yn lleihau effaith newid hinsawdd, trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy lleol.

Os eich bod yn byw yn yr ardal hon, yn benodol o amgylch pentrefi Llandysul, Pont-Tyweli, Pencader, Pentrecwrt, Horeb, Trelech, Cynwyl Elfed, Croeslan, Saron, Bancyffordd, Llanfihangel-ar-Arth, Rhos, Cwmduad, Alltwalis a Bryn Iwan; cysylltwch ag Ynni Sir Gâr i ddatgan eich diddordeb. Cysylltwch â’r swyddog cydlynnu, Cara Hope: cara@ynnisirgar.org.

Disgwyliwch allan am fwy o ddigwyddiadau ynglŷn ag Ynni Lleol Llandysul yn yr ardal dros yr wythnosau a misoedd i ddod!

Page 1 of 5

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén