GRŴP ADFYWIAD PENCADER A’R CYLCH

 ADRODDIAD Y CADEIRYDD 2019 

Rhaid cychwyn yr adroddiad yma wrth sôn am yr ymroddiad llwyr a’r gwaith caled a gyfrennir i’r Grŵp, ac er budd y Grŵp, i sicrhau ei fodolaeth a’i barhad gan ein Hysgrifennydd / Trysorydd a bellach Prif Olygydd y cylchlythyr. Mae Jane wedi cael cefnogaeth aruthrol yn yr olaf gan Keith, ei chyd-gwdihw; heb y ddwy hoelen wyth hyn, byddai’r tri rhifyn blaenorol o’r cylchlythyr wedi diflannu am byth. Rydym yn wir ddyledus i’r ddau ohonoch. 

GOLYGU CYNTAF CLECS YN 2002 Cyhoeddir y 100fed rhifyn o Clecs ym mis Ebrill 2020 – dyna gamp. Rwy’n cofio’n amheuon wrth fynd ati i gynhyrchu ein rhifyn cyntaf o 300 copi – cynhyrchwyd hefyd ddau rifyn o ‘gylchlythyr’ mwy dychanol a dirmygus ar gyfer trigolion pentref Dolgran yn unig, a geisiodd danseilio ein hymdrechion, ond a drengodd – o sepsis, dwi’n tybio.  Rhaid diolch unwaith eto i’r golygydd cyntaf am osod sylfeini cadarn ar y graig cyn ymddeol a throsglwyddo’r awenau i bobl alluog a phrofiadol eraill a gocsiwyd i gymryd swydd y Golygydd; rhai’n llawn dyhead hefyd.  Mae’r incwm a’r amrywiaeth cynyddol o hysbysebwyr, sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac yn parhau i gynyddu gyda phob rhifyn, yn adlewyrchu pwysigrwydd Clecs i’r gymuned. Rydym yn ddiolchgar i Statkraft am eu cefnogaeth ariannol – gallwn deimlo’n hyderus o’r diwedd am ei ddyfodol. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan ddau aelod o’r gymuned, pobl prysur iawn sydd byth yn ein siomi, hyd yn oed ar y funud olaf.  Mae aelodaeth y  Grŵp yn parhau i fod rhywfaint yn wastad er gwaethaf ein hapeliadau cyson am aelodau iau i ymuno â ni.  Cynhaliwyd Te Prynhawn Mefus a Gemau gwych ym mis Mehefin gyda stondinau a nifer o rasys a chwaraeon. Daeth tyrfa fawr, ac mae’n debyg i ni werthu allan cyn i’r glaw ddod lawr i roi diwedd ar y chwaraeon. Byddwn yn sicrhau bod mwy na digon o fefus eleni!  Daeth yn amlwg bod y Sioe Hwyl Gardd a Chrefft wedi tyfu’n rhy fawr i’r Pafiliwn ac rydym yn gwneud ymholiadau i weld a fyddai’n bosibl llogi adeiladau’r ysgol am bris rhesymol. Derbyniwyd 19 ymgais am waith celf gwreiddiol mewn unrhyw gyfrwng ar gyfer Gwobr Jane Billington – y nifer uchaf o gystadleuwyr mewn unrhyw ddosbarth. Diolch i Mrs Lynn Bushin am awgrymu ac ariannu’r wobr hon. Roedd y sioe yn llwyddiant ac wedi denu nifer o bobl chwilfrydig nad oedd yn cystadlu; diolchwn i’r trefnwyr, stiwardiaid, cynorthwywyr ac yn bennaf – i’r cystadleuwyr.  Mae John ac Emma wedi ailwampio’n gwefan Pencader.org yn llwyr, er mwyn cadw i fyny â thechnoleg a rhaglenni newydd. Maent wedi gwneud llawer iawn o waith i greu gwefan mwy modern sy’n ddeniadol i bob ymwelydd.  Diolch hefyd i’n cydlynydd Facebook am geisio hysbysu’r gymuned o’n digwyddiadau, i’n His-gadeirydd am gamu i’r adwy pan fûm yn sâl. Diolch i chi i gyd am helpu i redeg a chefnogi gweithgareddau’r Grŵp trwy gydol y flwyddyn, sy’n cymryd llawer o amser i’w trefnu. Nid wyf wedi cyfeirio at y Casglu Sbwriel, gan nad yw’r digwyddiadau yma’n cael cefnogaeth gan drigolion lleol na chan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r hoelion wyth arferol yn gwneud eu rhan trwy gydol y flwyddyn i geisio gwneud gwahaniaeth, rydym yn ddiolchgar iddynt am ymfalchïo yn eu hardal.  Ac i orffen ar nodyn personol, hoffwn ddiolch i chi eto am eich cefnogaeth ffyddlon i’r grŵp, ei gyfarfodydd a’i ddigwyddiadau ac wrth gwrs i’n hysgrifennydd – byddai’n anhrefn llwyr hebddo. Stuart Wilson