Awdur: John Hubert Page 1 of 4

EISTEDDFOD LLANFIHANGEL-AR-ARTH A’R PLWYF

EISTEDDFOD

 LLANFIHANGEL-AR-ARTH A’R PLWYF

 DYDD SADWRN

 Chwefror 29 2020

yn dechrau am 10:30

 Neuadd yr Ysgol

LLANFIHANGEL-AR-ARTH

 RHAGLEN Y DYDD

 Llywyddion

Mr & Mrs Mansel Griffiths,

Anwylfan, Llanfihangel-ar-arth

 Mynediad ar y dydd – plant £1, oedolion £4, Aelodau Côr/Parti £1

 Entrance on the day – children £1, adults £4, Members of a Choir / Party £1

CLICIWCH YMA i weld y rhaglen lawn. (Word.doc)

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 16fed Rhagfyr am 7:30 pm.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Hydref 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Stuart Wilson. 

Er iddo gael ei argraffu yn hwyr a gyda llai o dudalennau dywedodd y rhai oedd yn bresennol fod rhifyn yr Hydref o’r clecs yn dda. Diolch i Keith a Jane am ei pentantrwydd i gael y rhifyn hon allan. Parhaodd y drafodaeth ynglyn a faint sydd wir yn darllen ei rhifyn or Clecs yn gymraeg. Dwy ieithrwydd yw y peth sydd yn rhwystredig i olygyddion dichonadwy gan fod y rhai sydd wedi dangos diddordeb ond yn siarad saesneg, ac ‘rydym yn pwyso yn drwm ar yr ychydig cyfieithwyr teyrngar o gorlwythog.

Mae lluniau gwych – wedi ei tynnu o’r awyr- o’r gymuned wedi ei gosod ar y wefan, ac mae llawer o itemau wedi eu diweddaru hefyd. Mae nifer ymwelwyr y wefan wedi cynyddu 20%.

Gwneud elw o dros £170 yn y Sioe Ardd a Chreft, chwydd digon anghenus i’r cpffrau. Mae’n edrych yn debyg fydd angen lleoliad fwy o faint ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Awgrymwyd i ddarllenwyr Clecs gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwaith llaw ebyn ddechrau’r flwyddyn, fydd hyn yn galluogi digon o amser i gystadleuwyr dichonol i orffen ei ceisiadau.

Siomedig oedd Glanhau yr Hydref, tri person ddaeth ar y dydd, cyferbyniad awchus i gymharu ar glanhau cyntaf nol ym Mai 2003 pan ddaeth 23 o fobl.

Fe fydd Gwasanaeth y Cofio eto eleni yng nghapel y Tabernacl ar Sul Tachwedd 10ed gyda aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan. Croeso i bawb.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Yn y cyfarfod Rhagfyr 16ed fydd John Hubert yn dangos sleidiau o’r pentrefi wedi eu tynnu o’r awyr, bydd yna paned a mins peis.

Awst 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr is –lywydd, Chris Fuller, er fod Stuart yn bresennol ‘roedd yn well ganddo eistedd yn ol.

Mae rhifyn Awst o Clecs wedi ei ddosbarthu ac mae hysbyseb am olygydd newydd wedi ei dosbarthu yn yr ardal ac ar dudalen weplyfr, yn y gobaith daw rhywun ymlaen a cymryd at y swydd.

Mae trefniadau ar gyfer y Sioe Arddol a Chrefft ym mynd yn ei blaen.

Mae Blodau’r Llywydd wedi cael eu beirniadu ac fe gaiff yr ennillwyr eu tystysgrifau yn fuan.

Bydd y Glanhau Hydrefol yn digwydd a’r Hydref 12ed , ac fe fydd y cyngor yn derbyn archeb i gyflenwi yr offer arferol.

Ni fydd cyfarfod yn mis Medi felly y nesaf a’r 21ed Hydref.

Gorfennaf 2019

‘Roedd y Te Mefus yn llwyddiannus iawn ac ‘roedd y nifer ymgeisiodd yn y gemau yn dda iawn,ond ar ol rhyw awr daeth y glaw a chwtogwyd yr hwyl, ond parhawyd gyda rhai o’r gemau dan do. Blwyddyn nesaf gobeithio fydd pethau yn well ond fe wnaeth y digwyddiad roi hwb i gronfa y grwp.

Mae rhagor o waith wedi ei wneud ar y wefan ac mae yn bosib yn awr monitro rhif yr ymwelwyr ac o ba gwlad y maent.

Mae rhifyn mis Awst o Clecs bron yn barod a dylai fod gan yr argraffwyr yn fuan.

Mehefin 2019

Yn anffodus, cyhoeddodd Dotti y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w gwaith fel Golygydd Clecs o ganlyniad i broblem gyda’i iechyd.

Dosbarthwyd Clecs Mehefin a rhoddwyd taflen i hysbysebu’r Te Mefus ym mhob copi lleol. Trafodwyd manylion terfynol ar gyfer y digwyddiad dydd Sul, byddai angen gwobrau raffl a chacennau i’r lluniaeth.

Prynwyd placiau disgrifiadol ar gyfer Gwobr Jane Billington. Roedd Stuart wedi siarad â phrifathrawes yn yr ysgol a dywedodd y byddai’r plant yn paratoi gwaith celf ar gyfer y Sioe ym mis Medi.

Diolch i grefftwr lleol am ailosod yr estyll ar y fainc dderw ger y panel dehongli, mae hefyd wedi cael ei sgwrio a’i lanhau. Mae’r cennin Pedr wedi cael eu torri’n ol a phlannwyd planhigion yr haf yn ei lle. Mae angen gwneud rhywfaint o waith atgyweirio ar y panel dehongli, ond ni wyddom pwy i holi.

wedi ei ddanfon i’r person haelionus.

i’r Grŵp symud gyda’r amser a denu pobl ifanc y gymuned os yw am oroesi.

 

 

 

 

 

 

 

 

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Yn ei gyfarfod ym mis Hydref cafodd Clwb Hanes Lleol Llanfihangel-ar-Arth a’r Plwyf sgwrs ddiddorol gan y milfeddyg Lowri Davies. Eglurodd hi sut gallai’r cysylltiad agos rhwng y meddwl a’r corff gyfrannu at salwch yn anifeiliaid. Hefyd gallai problemau emosiynol perchnogion effeithio ar y creaduriaid o dan eu gofal.

Rhagfyr 5ed – Bydd Dr John Davies, Llandysul, yn siarad am O T Jones y daearegwr enwog a gafodd ran ei addysg ym Mhencader (yn Gymraeg).

Ionawr 9fed – Bydd Glyn Parry yn trafod y smyglwr William Owen (yn Gymraeg).

Chwefror 6ed – Radio a Theledu fydd pwnc Einion Gruffydd (yn Gymraeg).

Mawrth 5ed – John Pryce Jones, mab Pencader. Bydd Mary Thomason yn cyflwyno hanes y dyn hynod hwn (yn Saesneg).

Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, ac maen nhw’n dechrau am 7:30yh.

Mynediad ydy £3.00 sy’n cynnwys lluniaeth a raffl.

Croeso cynnes i bawb.

GALW HOLL CELFLYNNWYR A CHREFTWYR

Gan fod nosweithiau y gaeaf yma mae yn amser bwrw ati yn ei stiwdios, gweithdaia a.y.b i gynyrchu eitmau i’w harddangos yn y SIOE ARDD A CHREFT mis Medi nesaf ym Mhencader.

Eto fydd “Gwobr Jane Billington”, yn y dosbarth item mwyaf gwreiddiol mewn unrhyw gyfrwng, felly pam na geisiwch un neu fwy o itemau chi wedi ei gwneud.

Rhoddodd y dosbarth hwn yn sioe 2019 gwledd wych o itemau gan llawer o fobl lleol talentog. Byddwn yn darparu lle mwy o faint i arddangos y dosbarth poblogaidd hwn yn y sioe y flwyddyn nesaf, felly fydd lle i un chi!!

Beth hoffech weld yn y dosbarth crefftau? Dwedwch wrthom am eich cynnigiadau i’r dosbarthau arferol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn rhifyn Clecs Bro Cader mis Chwefror.

Awgrymiadau os gwelwch yn dda i Chris Fuller 01559 384499 neu ebost chrisfuller@btinternet.com.

BWRW BOL

Rhagfyr 2019

Wel dyna ni – yr haf wedi mynd.

Croeso i’r gaeaf gyda’th nosweithiau hir cyfforddus a thywyll, y tan agored sydd yn dod a mwg coed, huddug a dwst sydd yn treiddio i weddill y ty.

Canlyniad o fod yn dal “o dan y meddyg” (fel y dywedai fy ngweision ffermydd o saith deg mlynedd yn ol) yw fy mod yn ddibynnol ar ffrindiau caredig a chymdogion am siopa a thrafnidiaeth. Yr olaf hyn yw teithiau i’r ysbyty, rhannau ohono sydd yn gweithredu ar gyfer cleifion allanol tan yr hwyr.

Cefais sicrwydd fod y goleuadau stryd wedi eu gwella wrth amnewid yr hen rhai gyda rhai sydd yn pelydru golau gwyn ac sydd hefyd yn fwy efeithiol. Megis gwelliant i’r rhai sydd yn dewis ei weld.

Er y clywaf dipyn o hyn ar llall yn digwydd yn y plwyf byddai yn anoeth sylwebi cyn cadarnhau y ffeithiau, yn lle ail adrodd y cleber.

Felly ‘rwyf am ymatal rhag sylwebi mwy.

Diolch i Keith a Jane am eu pendantrwydd i gynyrchu rhifyn yr hydref a’r un presennol o Clecs Bro Cader. Nid yw hyn yn dweud dim am y diffyg ymateb i’r erfyniad am gymorth gyda’r cynyrchu.

Hoffem wneud cywirdeb i’r Bwrw Bol diwethaf – ariannwyd y tri “defibrillators” gan fferm wynt Brechfa ac nid gan Statkraft fel y datganiais – ymddiheuriadau i bawb.

Sylwadau i’r
Stuart Wilson Ffon 384709

Hydref 2019

Diolch yn fawr iawn i’r y rhain,yn enwedig o’r grwp, sydd wedi rhoi o’i hamser a’i cefnogaeth i mi yn ystod y tri mis diwethaf. Chi yn gwybod pwy ydych ac ‘rwyf yn wir yn eich caru (yn fy fordd fach i) am eich caredigrwydd a chefnogaeth. Erbyn mis Rhagfyr ‘rwy’n bwriadu bod bron fel newydd eto, ‘rwyf yn sylwi a’r y gwelliant sydd yn digwydd yn wythnosol. Mae’r difibrilwyr wedi dechrau cyrraedd ac mae yna drefniant fydd un yn agos atoch chi. Cadwch lygad am fwy o fanylion. Mae ffynnonell cyflenwi yr offer pwysig hyn yn lluosog. ‘Rwyn deall fod Statkraft wedi cyflenwi un yn Alltwalis, un yng Ngwyddgrug ac un ym mynwent Pencader. Mae cronfeydd eraill yn cyflenwi y gweddill ym Mhencader, Llanfihangel a Phontweli. Bu New Inn yn ffodus o gael un wedi ei ariannu gan gymwynaswr/gymwynaswraig di-enw. Mwy o wybodaeth pan dirgelwyd. Glanhau Hydrefol– dydd Sadwrn 12ed o Hydref, dewch i’r Pafiliwn erbyn 10.00y.b. er mwyn gwneud gwahaniaeth i’ch ardal. Eglurhad– nid yw y grwp Adfywio yn elusen, dim wedi bod ac na fydd byth. Mae unrhyw elw (digon bach fel rheol) y gwnawn wrth gynnal digwyddiadau a drefnwn yn cael ei roi yn y coffre cyffredinol a ddefnyddiwyd i redeg y grwp. Mae ysiwriant, llogi lleoliad ac unrhyw gost arall yn orfodol i’w talu. Wrth gwrs, os ydych yn bryderus dewch i’r cyfarfodydd i weld y fantolen ariannol sydd yn cael ei gyflwyno ym mhob cyfarfod. Bydd croeso i chwi, y trydydd nos Lun o’r mis am 7.30y.h. yn y Pafiliwn. Man Duw- Actau 2, adnodau 19-20

Sylwadau i’r Stuart Wilson Ffon 384709

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

This Small Corner Os hoffech brynu copi o lyfr Steve Dubé ar hanes Pencader, mae rhai copïau ar gael yn Llwyngwen. Y pris gwreiddiol oedd £9.99, ond gellwch ei prynu am £7.50. Ffoniwch Stuart os hoffech brynu copi. Sylwadau os gwelwch yn dda i Golygydd – ebost: editor@ffermffynnonwen.plus.com neu Stuart Wilson – ffôn: 01559 384709

Nodiadau o Sied yr Ardd

Rhagfyr Nodiadau

Mae Old Gumboot yn dwli ar hen offer amaethyddol ac yn hoff iawn o ymweld â sioeau sy’n dangos hen beiriannau.

Rydym yn ffodus yn y rhan yma o Orllewin Cymru i gael sawl sioe a diwrnodau gwaith hen beiriannau yn ystod y tymor. Mae tywydd ffafriol 2019 wedi bod yn garedig i’r trefnwyr a’r ymwelwyr i’r digwyddiadau yma.

Ym mis Mehefin cynhelir y Sioe bwysig gyntaf a drefnir gan y ‘Towy Valley Vintage Club’ ym maes sioe Pontargothi, mae’r sioe bob amser yn cynnig nifer dda o beiriannau ysgubor, llawer ohonynt yn gyrru – setiau cneifio defaid, generaduron, pympiau dŵr, torwyr gwreiddiau ac ati, sef eu gwaith yn y dyddiau cynt. Mae yna hefyd hen dractorau, ceir clasurol a hen, a llu o beiriannau eraill yn cael eu dangos.

Ychydig yn ddiweddarach yn y flwyddyn mae sioe hen bethau Dyffryn Teifi, a gallwch weld arddangosfa enfawr o hen dractorau (dros 100 fel arfer) ynghyd â cheir clasurol, cerbydau masnachol, drymiau dyrnu, byrnwyr ac ati, a stondinau ‘Auto jumble’ sy’n ffynhonnell dda am ddarnau sbar sy’n anodd eu darganfod.

Yn hwyrach yn y tymor cynhelir diwrnod gwaith vintage Camrose yn Sir Benfro. Cynhelir y sioe yma ar gaeau mawr lle cynaeefir y llafur gan ddefnyddio hen rwymwyr a dyrnwyr medi, gosodir drwm dyrnu i wahanu’r grawn o’r gwellt, yn aml yn cael ei bweru gan injan dynnu stêm neu hen dractor. Gwelir tractorau, ceffylau ac erydr yn troi’r sofl gwellt, yn cael ei dilyn gan offer eraill i dorri’r pridd i greu gwely hadau er mwyn paratoi ar gyfer ailhadu.

Cynhelir sioe waith Talgarreg ym mis Medi; mae’r digwyddiad yma’n ymgorffori sioe gynnyrch mewn pabell fawr ar wahân. Mae tractorau gweithio a statig hefyd i’w gweld yma, ynghyd a chasgliad mawr o dractorau ac injans ysgubor. Eleni gwelwyd 2 beiriant dyrnu yn gweithio, wedi’u gyrru gan dractorau lleol, un Field Marshall ac un Fordson Major, y ddau o’r 1950au. ffordd draddodiadol, tatws a gasglwyd gan fyddin o godwyr, a’u gwerthu i’r cyhoedd.

Fel y gwelwch rydym yn ffodus i gael toreth o ddigwyddiadau yn yr ardal trwy gydol y tymor. Rhwng y sioeau ceir clasurol, teithiau tractor i godi arian, ac ‘Autojumbles’, mae rhywbeth o ddiddordeb i selogion hen bethau yn cael ei gynnal bron pob penwythnos drwy’r tymor.

Efallai y dylai’r Hen Gumboot fynychu un o’r arwerthiannau lleol niferus yn yr ardal i ddod o hyd i ‘drysorau’ i’w harddangos yn y sioe leol!

Bydd yn rhaid i fi fynd yn ôl i’r ardd y tro nesaf, ond mae’r ddaear yn soeglyd ar hyn o bryd!

Old Gumboot

Hydref Nodiadau

Bob blwyddyn tua’r adeg yma, pan mae’r planhigion yn y gwely blodau’n dal i edrych yn dda, mae’r postmon yn gollwng llwyth o gatalogau bylbiau trwy’r blwch llythyrau, a dyma’r adeg y sylweddolwch yn sydyn bod yr haf yn dod i ben, a bod angen i chi ganolbwyntio ar ddewis bylbiau i flodeuo’r gwanwyn nesaf. Bylbiau cennin Pedr a narsisws yw’r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer plannu yn ein gerddi, a nhw mae’n debyg yw’r bylbiau mwyaf rhwysgfawr o fylbiau’r gwanwyn, ac eithrio’r teulu tiwlip efallai. Yr hydref yma, rwy’n bwriadu plannu cennin Pedr sy’n tyfu’n weddol fyr, a elwir ar lafar yn ‘cennin Pedr Dinbych-y-pysgod’ (Narcissus Obvallaris). Nid yw’r math yma ar gael mor eang â rhai mathau, ond mae’n genhinen Pedr bach gwych, sy’n ddelfrydol ar gyfer naturoli mewn ardaloedd o laswellt lle mae’n edrych yn fwy naturiol. Os na allwch eu cael yn lleol gellir eu canfod ar-lein yn www.dutchbulbs.co.uk. Gallwch fod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i’r amrywiaeth Narcissus Lobularis (y Cennin Pedr Lenten), sy’n berl o blanhigyn sydd yn ymdebygu’n agos iawn i’n cennin Pedr gwyllt. Dyma un o ddim ond llond llaw o gennin Pedr sy’n frodorol i’r DU, a dywedir taw dyma’r blodyn a ysbrydolodd linellau enwog y bardd Wordsworth. Credaf fod y mathau llai yma, sy’n llai swagar, cystal a rhai o’r mathau mwy modern, sy’n tueddu, yn fy marn i, i edrych bron yn ‘artiffisial’. Mae carped o grocws yn eu blodau yn olygfa i’w chroesawu’n gynnar yn y gwanwyn. Mae crocws yr un mor dda wedi’u plannu mewn border neu mewn lleoliad glaswelltog, ond cofiwch na fyddwch yn gallu torri’r lawnt lle maent yn tyfu, a all wneud i’r ardal edrych yn flêr nes eu bod wedi marw yn hwyrach yn y gwanwyn. Mae crocws yn fylbiau llai, ac yn gymharol rad, sy’n eu gwneud yn hawdd eu plannu mewn swmp, i greu llifoedd trawiadol o’r holl liwiau amrywiol sydd ar gael. Wrth gwrs mae yna lawer mwy o fylbiau sy’n blodeuo yn y gwanwyn ar gael o’ch siop arddio leol neu gyflenwr arlein. Nawr yw’r amser i blannu’r mwyafrif o rywogaethau, yn ddelfrydol cyn i’r tywydd droi yn rhy oer a gwlyb. Ceisiwch bob amser gael bylbiau sy’n cael eu tyfu yn y DU, gan fod mwy a mwy yn cael eu tyfu yma nawr. Hefyd gwnewch yn siŵr bod y bylbiau wedi eu tyfu’n fasnachol, ac nid wedi eu casglu o’r gwyllt. Gobeithio y gwnewch lwyddo i gynhyrchu sioe drawiadol y gwanwyn nesaf yn eich borderi a’ch potiau. Garddio Hapus, Old Gumboot

Awst Nodiadau

Mae dyfrhau’r ardd a’r tŷ gwydr yn ymddangos i gymryd llawer o amser ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd heblaw am chwynnu mae hi’n ymddangos i fod y brif dasg yn ddiweddar. Rwy’n siŵr mai’r un i lawer o arddwyr eraill ydy hi ar hyn o bryd. Mae dyfodiad sydyn yr Haf ynghyd â thymereddau sy’n torri recordiadau, wedi golygu bod y nifer o chwyn sy’n egino, yn torri recordiadau sy’n golygu mwy o hofio rhwng y cnydau. Wrth gwrs mae’r tywydd da amser hwn y flwyddyn yn ardderchog i wneud gwair a silwair. Mae’r peiriannau lladd gwair, rhacannau, byrnwyr a pheiriannau lapio wedi bod yn mynd fel cath i gythraul am yr ychydig o wythnosau diwethaf. Mae’r Hen Gumboot ar ei wyliau ar hyn o bryd, ond wedi trefnu i adio’r apel hon i ARDDWYR, CREFFTWYR a CHOGYDDION i ddod yn brysur a pharatoi’ch ceisiadau am y SIOE HWYL ARDD a CHREFFT flynyddol ym mis Medi. Cafodd y rhaglen ei hargraffu yn rhifyn diwethaf ‘Clecs Bro Cader’ ac yn cael ei ail-argraffu yn yr un hwn, a bydd copiau ychwanegol ar gael o’r siopau lleol ac ati yn nes i’r dydd. Mae’r Hen Gumboot yn edrych ymlaen at weld neuadd sy’n llawn o gynnyrch, crefftwaith ac eitemau wedi eu pobi. Fel rwy wedi dweud o’r blaen ‘dewch a gweld yr arddangosion ar y bore Sadwrn’ neu hyd yn oed yn well ‘dewch a chynnig rhywbeth eich hun’. Mwynhewch y garddio

Old Gumboot

 

 

 

 

 

 

Sefydliad y Merched Pencader

Ym mis Hydref gwnaethom fwynhau sgwrs gan Richard Keen am hen adeiladau pwysig yng Nghymru. Bu Richard yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am nifer o flynyddoedd yn ymwneud â chadwraeth llawer o adeiladau, fel Tý Newton House ym Mharc Dinefwr a Llanerchaeron, ger Aberaeron.

Cynhaliwyd ein cyfarfod blynyddol ym mis Tachwedd, lle gwnaethom ethol swyddogion newydd. Mae Rosemary Richardson yn cymryd lle Rosemary Edwards fel Llywydd (Rosemary Edwards yw’r Is-lywydd). Madge Pratt yw’r Trysorydd newydd, yn cymryd lle Avis Morris, a Linda Harrison yn cymryd awenau’r Ysgrifennydd oddi wrth Mary Thomason. Diolch yn fawr i Rosemary E, Avis a Mary am eu gwaith caled dros y 3 blynedd diwethaf.

Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i ni a dylai’r flwyddyn nesaf fod cystal gyda nifer o sgyrsiau diddorol wedi’u cynllunio’n barod. Mae’r rhain yn cynnwys:

Adeiladu Eich Tŷ Eich Hun;

Gwisg Fictoraidd;

Effaith Rhyfel Cartref America ar y Diwydiant Cotwm yn Swydd Derby.

Nid yw’r tripiau wedi eu trefnu eto.

Rydym yn edrych ymlaen at ein Cinio Nadolig yng Ngwesty’r Porth ym mis Rhagfyr.

O fis Ionawr ymlaen, mae croeso i chi ddod i unrhyw un o’n cyfarfodydd a gynhelir yn y Pafiliwn ar y dydd Mawrth 1af o’r mis.

Rydym bob amser yn falch i’ch gweld.

Clecs Bro Cader

Clecs Bro Cader 98

Cylchlythyr cymunedol ar gyfer ardal Pencader sy’n cynnwys

Mae fersiwn ar-lein o’r rhifyn diweddaraf ar gael yma

2019 Sioe Hwyl Gardd a Chrefft

Dydd Sadwrn Medi 14ed disgleiriodd yr haul yn braf ar y 40 o gystadleuwyr fel y dygon ei gwahanol ceisiadau ar gyfer y sioe eleni. ‘Roedd yna nifer o wynebau newydd yn ogystal a’r ffyddloniaid, ac ‘roedd yn bleser gweld y lluniau gan blant ysgol Caerfelin a’r y muriau wrth myned i fewn. ‘Roedd yna 240 o geisiadau a rhif niferus o luniau gan blant yr ysgol. Mae wedi bod yn haf ardderchog eleni ac ‘roedd yna geisiadau arbennig i arddangos yn enwedig y meini uchaf. Yn ogystal a’r lluniau lliwgar ‘roedd yno robotiaid a melynnau gwynt dychmygus.

Dyfarnwyd y cwpan am y pwyntiau uchelaf yn yr adran Cynyrch yr Ardd i Eric Jones Dwylan, gwelwyd yma yn derbyn y cwpan gan Stuart Wilson Cadeirydd y Grwp Adfywio.

 

 

 

 

Ennillodd Janet Jones Dwylan tlws Oliver Evans am y ceisiadau gorau yn yr Adran Flodau.

Ennillwyd y cwpan am yr uchafbwyntiau yn yr adran Crefft Llaw gan Edwina Davies, Davies Street, Pencader.

 

 

 

 

Ennillodd Janet Jones cwpan Helen Rose Wilson am yr uchafbwyntiau yn yr adran Coginio.

 

 

 

Ennillydd y Darian Gyfangwbl am y pwyntiau uchaf oedd Janet Jones.

 

 

 

 

Aeth y wobr yn yr adran Plant i Elsi Williams.

 

 

 

 

Dymuna y pwyllgor ddiolch I bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fordd: CGDP am ddefnydd y Pafiliwn, siop Premier a Phopty Pencader am y lluniaeth i gadw pawb i fynd, pawb o rhoddodd fenthyg byrddau, y rhai fu yn eu cario a chludo, dyfarnwyr a stiwardiaid am rhoi o’i hamser, noddwyr y cwpanau a tharianau ac unrhyw un arall a gynorthwyodd at yr achlysur. Yn bennaf oll mae ein diolch i drigolion y plwyf a ddaeth a’i cynnyrch gyda balchder er mwyn cefnogi yr achlysur gymunedol hyn, hebddo chi fydde na ddim sioe, felly diolch a gobeithio gwelwn bawb eto y flwyddyn nesaf.

BLODAU’R CADEIRYDD

Eleni yn lle Cystadleuaeth Arddiom, mae’n Cadeiryd ni wedi bod yn edrych ar erddi lleol fel mae e wedi bod ar hyd y lle a bydd tystysgrifau yn cael eu gwobrau I’r rhai a oedd wedi dangos arddangosfa gyson o liw yn ei farn.

Llanfihangel ar Arth
Wendy Brooker 4 Heol Mafon
M Jones 5 Heol Mafon
Margaret Rees 6 Heol Mafon
Mr & Mrs R D Thomas 10 Bro’r Orsaf
Dolgran Road
Maud Evans – Gaywood
Raymond & Yvonne Lewis – Yr Hafan

Ym marn gyffredinol y beirniaid, roedd llai o arddangosfeydd da eleni, roedd dyfrio wedi bod yn broblem yn ystod y cyfnod poeth iawn. Roedd llai o arddangosfeydd basged da. Wedi dweud hynny, roedd yna ychydig o uchafbwyntiau peidiwch â
digalonni, ceisiwch eto’r flwyddyn nesaf.


 

Page 1 of 4

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén