Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi na fydd Carnifal yn y pentref eleni. Rydym yn sylweddoli y bydd llawer yn siomedig iawn, ond mae’r Pwyllgor wedi lleihau i ddim ond 3 aelod gan ein bod wedi colli 3 aelod gweithgar iawn oherwydd amgylchiadau personol. Roedd y 3 aelod arall yn ei chael hi’n anodd iawn hefyd eleni i sicrhau digon o amser sbâr i barhau â’r paratoadau. Roedd yn benderfyniad anodd iawn i’w gymryd ond gobeithiwn atgyfodi’r carnifal yn 2020. Gobeithiwn gynnal CCB ym mis Ionawr 2020 yn y gobaith o fedru recriwtio aelodau newydd gweithgar a brwdfrydig. Byddwn yn cyhoeddi dyddiad pendant yn nes at yr amser.

 Ymddiheuriadau unwaith eto.

 Pwyllgor Carnifal Pencader x