Categori: gardening

Nodiadau o Sied yr Ardd

Mehefin Nodiadau

Yn y rhifyn yma o’r Clecs mae’r Hen Botasen yn gobeithio ennyn mwy o ddiddordeb yn y Sioe Arddio a Chrefft fydd yn cymryd lle eleni eto yn y Pafiliwn.

Mae amryw o ddosbarthiadau ar gyfer cynnyrch o’r ardd, blodau, planhigion mewn potiau a threfniant ffrwythau a blodau. Does dim rhaid i chi gynhyrchu y foron sgleiniog na’r fanglen dryma, dewch ar gorau y medrwch dyfu, falle ellwch rhagori yn well na eich cymydog eleni. Cewch amdani.

Mae nawr yn amser da i ddechrau ar yr ardd, digon o amser i gynyrchu rhywbeth ar gyfer y sioe. Mae yna ddigon o wybodaeth sut i dyfu llysiau yn yr ardd ar gael ar y we, felly pam na ewch amdani.

Mae ‘na hefyd ddosbarthiadau blodau a phlanhygion ty, yn cynnwys y blodau mwyaf poblogaidd yn yr ardd, felly meithriniwch ychydig o’ch hoff rai a cheisiwch ddosbarth yn y sioe.

Wrth weld faint o raglenni teledu ac erthyglau yn y cylchgronnau sydd ar gael mae yn rhaid fod yna nifer o gogyddion yn y wlad. Mae’r rhan coginio o’r sioe yn boblogaidd fel arfer, edrychwch ar rhaglen y sioe i weld beth allwch goginio eleni. ‘Rwy’n siwr fod yna rhywbeth allwch gynnig arni ac falle ewch aref a gwobr.

Gall arlunwyr, ffotograffwyr a chrefftwyr hefyd ymgeisio yn y sioe, mae dosbarthiadau ar gyfer plant o wahanol oedran, y rhain sydd fel rheol yn cynyrchu lluniau ac itemau o wahanol ddefnydd arbennig naillai adref neu yn yr ysgol.

Mae ‘na ddosbarth ffotograffiaeth eleni eto, dwed y rhaglen am y gosodiad ar maint. Mae dosbarthiadau eraill yn cynnwys gwaith coed a gwau a.y.y.b.

Eleni mae yna wobr newydd, ar waith celf mewn unrhyw gyfrwng. Cyflwynwyd y wobr hon am y gwaith yn nhyb y beirniad fydd wedi plesio fwyaf yn y dosbarth arlunio. Datgelir fwy o fanylion yn y rhaglen.

Felly fe welwch fod yna rhywbeth gall y rhan fwyaf o fobl gynhyrchu ar gyfer y sioe, mae yn Sioe Hwyl felly nid ydym yn cymryd y peth yn rhy ddifrifol gan ei gwneud yn achlysur garedig fel bo unrhyw un yn y plwyf yn medru cystadlu, felly pam na geisiwch ar rhywbeth eleni a dewch ar y dydd I weld beth mae pawb arall wedi cynnig arni, a dewch am baned a cacen.

A wnaiff pob un sydd wedi ennill tlws neu gwpan yn y gorffennol ddod a nhw yn ol ymhell cyn dyddiad y sioe, gellwch ei gadael gyda Avril yn Y Ty Gwyrdd, fe wnaiff hi edrych ar ei hol.

Mwynhewch y garddio,

Old Gumboot

 

Ebrill Nodiadau

Mae’r Hen Gumboot yn gadael sied ei ardd heddiw i grwydro lawr y ffordd, am iddo gael gwahoddiad i weld tegan newydd ei gymydog.

‘Ffyrgi bach llwyd’ yw’r tegan newydd mewn gwirionedd.

Tybiaf bod y rhan fwyaf o bobl yr ardal amaethyddol yma’n gyfarwydd a thractor Ferguson llwyd. Mae’n siwr bod gan bron pob fferm yn yr ardal dractor Ferguson ar y tir rywbryd, ac yn wir mae rhai’n dal ar eu ffermydd gwreiddiol hyd heddiw.

Cyflwynwyd y Ffyrgi fach yr ydym i gyd yn gyfarwydd a hi i’r diwydiant amaeth ym 1946, pwerwyd y model gwreiddiol gan injan betrol Americanaidd ‘cyfandirol’, a fedrai godi i tua 35 celrym, sy’n swnio’n fach o’i gymharu a rhai o’r cewri 200 celrym a welwn heddiw.

Adeiladwyd y tractorau mewn cydweithrediad a’r Standard Motor Company, yn ffatri Banner Lane yn Coventry. Roedd y cwmni wedi bod yn cynhyrchu ceir a faniau ers blynyddoedd cyn cychwyn a’r y fenter o adeiladu tractorau.

Daeth y Ferguson TE-20 a mecanwaith fforddiadwy i’r fferm fach, roedd yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar y fferm gan defnyddio’r dewis eang o offer a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y tractor, ac wrth gwrs gallai weithio’r ystod eang o offer hŷn a oedd eisoes gan y ffermwr ar y fferm. Defnyddiwyd peth o’r offer hŷn yma’n wreiddiol tu ol i dractorau hŷn neu hyd yn oed geffylau.

Cynhyrchwyd tua 500,000 o’r tractorau T20, gyda’r tractor olaf yn gadael y llinell gynhyrchu ar ddiwedd 1956.

Mae’n debyg bod cyfran uchel o dractorau rhyfeddol Harry Ferguson yn dal i gael eu defnyddio, ac mae rhai yn cael eu hadfer i’w harddangos mewn raliau tractor a sioeau.

Bydd yn rhaid i’r hen Gumboot barhau a’r stori hon wedi iddo gael pip go dda ar y tractor drws nesaf, wedi iddo ddod o hyd i fwy o wybodaeth a all fod o ddiddordeb i’r ddarllenwy.

Mwynhewch y garddio (wedi iddi orffen bwrw!!)

OLD GUMBOOT

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

BLODAU’R CADEIRYDD 2017

Eleni yn hytrach na chynnal cystadleuaeth Gardd, bydd cydnabyddiaeth am yr ardd flaen orau a mwyaf diddorol o dan y pennawd ‘Blodau’r Cadeirydd’.

Beirniadir drwy gydol y gwanwyn, haf a dechrau mis Medi. Bydd popeth sydd yn weladwy o’r heol neu llwybr troed yn gymwys, ni fydd angen mynediad i’r ardd.

Medrir cael blodau neu ardd lysiau o flaen y tŷ, os mae dyna dymuniad y perchennog.

Y beirniad fydd Stuart Wilson (Cadeirydd), a bydd yn cadw golwg ar y gerddi wrth teithio o amgylch yr ardal, a tynnu rhestr o gystadleuwyr posibl.

Dyfernir tystysgrifau “Cymeradwy Uchel” yn yr Sioe Gardd yn Crefft ddydd Sadwrn 9 Medi, ar ôl dyfarnu prif wobrau’r sioe.

Gall unrhyw un anfon enwebiad, croeso i chi enwebu eich gardd eich hyn, os dymunwch, cysylltwch a Stuart Wilson ar 384709, gadewch neges ynghyd a’ch rhif ffôn, a mi wnaiff eich ffonio nôl, neu ebostiwch janegriffithsuk@btinternet.com gyda’ch awgrymiadau.

Dymuniadau gorau!!

Sioe hwyl – Gardd a chrefftau

Prynwch eich hadau, a dechreuwch hau a thyfu. Cynhelir Sioe Gardd a Chrefftau yn y Pafiliwn Pencader ar Sadwrn 9fed Medi 2017. Bydd hefyd adran coginio a crefftau llaw, ynghyd a cystadlaethau i’r ieuenctid yn y gymuned. Gall y teulu cyfan gymerid rhan yn yr amgylchiad yma. Bydd manylion llawn yn rhifyn nesaf Clecs Bro Cader.

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén