Categori: Digwyddiadau

Taith Tractorau Dolgran

 

 Bu’r Daith Tractorau LLun y Pasg o Dolgran Pencader, a drefnwyd gan Tom Lewis, unwaith eto mor boblogaidd ag erioed er i’r gyrwyr orfod wynebu tywydd ofnadwy gyda glaw trwm a gwyntoedd cryfion ar y ffordd ond yn codi’r swm anhygoel o £3,630 i Gangen Ceredigion o ‘Cŵn Tywys i’r Deillion.’
35 o dractorau aeth ar y daith gyda nifer o yrwyr (nad oedd ganddynt y tractor addas yn y tywydd gwlyb), a nifer fawr o gefnogwyr wedi ymgynnull i’w gweld yn gadael, ac i roi rhoddion tuag at yr elusen. Cynhaliwyd arwerthiant fach cyn dechrau, a gwerthwyd tocynnau raffl yn ystod y dydd.
Derbyniwyd nifer o roddion, a daeth un o mor bell ag Hong Kong sydd yn profi mor boblogaidd mae’r Daith Tractorau yma erbyn hyn.
Dymuna Tom Lewis ddiolch i bawb am bob cefnogaeth, y rhai wnaeth gasglu arian noddi, y noddwyr, yr arian a roddwyd, y gwobrau raffl, prynwyr y tocynnau raffl, ac yn bennaf y gyrwyr tractorau, (rhai heb ‘cabs’ ar eu tractor) a deithiodd 15 milltir o Dolgran, drwy Gwyddgrug, Pencader, Pentrecwrt, a Saron i Drefach Felindre, gan alw yn y ffatri wlân ar y ffordd pryd cafwyd sgwrs ddiddorol iawn, cyn gorffen gyda pryd o fwyd hyfryd a blasus yn y Red Lion.

DIOLCH YN FAWR I BAWB.

Yn y llun gweler Tom Lewis yn cyflwyno siec am £3630 i Ruth Edwards sydd yn gwirfoddoli gyda ‘Cwn Tywys i’r Deillion’. Yn y llun hefyd mae Louise Jenkins sydd yn ddall, yn byw yn Drefach Felindre gyda’i chi Trinity. Mae’n costio £56,000 i gadw a dysgu ci tywys o’r pryd fydd yn cael ei eni hyd nes ymddeol. Gall un person gael hyd at 8 ci sydd yn costio £450,000. Mae cymerid tuag ugain mis i hyfforddi ci. Mae un person yn colli golwg bob awr yn Deyrnas Unedig. Yn y 7 mlynedd diwethaf mae rhestr aros ci Tywys wedi codi 25%.
Ychydig fwy o fanylion costau ci Tywys:
£5.00 – yn cefnogi ci Tywys am un diwrnod
£20.00 – awr o hyfforddi ci tywys
£25.00 – prynnu harnes gwyn i’r ci
£140.00 – prynu cit dechrau i berchennog newydd sydd wedi derbyn ci tywys.

Sefydliad y Merched Pencader

Cynhaliwyd ein cyfarfod ym mis Mehefin yn nhŷ Linda, lle gallem ni weld rhai o’i chrwbanod anwes. Dysgom ni lawer am y creaduriaid cyfareddol yma. Mae crwbanod wedi bod ar y Ddaear am 200 miliwn o flynyddoedd. Llysysorion ydyn nhw: mewn rhai mannau’r byd e.e. yr Ynysoedd Galapagos, gallan nhw dyfu i faint enfawr a byw lan i 200 mlynedd. Mae crwbanod Linda yn Ganoldirol: maen nhw’n ddigyffro iawn ac yn hoffi bwyta dannedd y llew.

Ym mis Gorffennaf aethom ni i ymweld a’r Amgueddfa Gwrwgl yng Nghenarth, lle cawsom ni sgwrs ddiddorol am y cychod syml yma. Mae cyryglau’n dyddio’n ol i wareiddiadau cyntaf y byd ac un o’r ffurfiau cyntaf o gludiant dŵr oedden nhw, wedi cael eu gwneud o ddefnyddiau ar gael yn lleol. Gwelsom ni enghreifftiau o gyryglau o wledydd gwahanol, e.e. India, Tibet, Irac, Fietnam, yr Alban, Cymru ac Iwerddon. Mae pysgota rhwyd cwrwgl yn dal i ddigwydd ar 3 afon yn Sir Gaerfyrddin – y Teifi, y Taf a’r Tywi. Ar ol cinio blasus yn yr ystafell de aethom ni i ymweld a’r arlunydd, Helen Elliott, yng Nghastell Newydd Emlyn. Siaradodd hi am ei gwaith a dangosodd ei stiwdio i ni.

Cyfarfodydd nesaf yn y Pafiliwn:

Medi 3ydd: bydd Susan Macadam yn siarad am gynhyrchion gofal croen naturiol.

Hydref 1af: Adeiladau peryglus – bydd Richard Keen yn siarad am brosiectau y mae e wedi ymwneud a nhw.

Mae croeso i chi ddod i’n cyfarfodydd ni.

Eisteddfod Leol

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf

I weld yr adroddiad ar gyfer 2018 a chanlyniadau llawn cliciwch ar y dolenni isod.

                   Adroddiad                    Canlyniadau

Teithiau Cerdded Hanesyddol

Teithiau Cerdded Hanesyddol

Teithiau Cerdded Hanesyddol

Ydych chi am weld castell Normanaidd, heol Rufeinig, bryngaer o’r Oes Haearn neu siambr claddu’r Oes Efydd? Neu efallai hoffech chi wybod am y diwydiant gwlân yn ein hardal neu weld hen orsaf reilffordd? Nawr yw’ch cyfle i ddarganfod hanes cyfoethog ein cymuned ac ar yr un pryd mwynhau ymarfer iach.

Mae Clwb Hanes Lleol Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf yn falch i gyhoeddi ei fod wedi cynhyrchu llyfryn dwyieithog o wyth taith gerdded hanesyddol. Mae’r teithiau o bellteroedd amrywiol a byddan nhw’n cymryd o un i dair awr a hanner, er gall yr hiraf gael ei gwneud mewn car. Mae’r teithiau yn dechrau yn Alltwalis, Gwyddgrug, Llanfihangel a Phencader a byddan nhw o ddiddordeb i ymwelwyr a thrigolion lleol. Mae’r llyfryn yn rhoi disgrifiad manwl o bob taith ynghyd â mapiau amlinell.

Mae copïau’n rhad ac am ddim a gallwch chi gael un gan aelodau’r Clwb. Ffoniwch, os gwelwch yn dda, Calvin Griffiths 384812, neu Gerald Coles 384987. Cafodd y llyfryn ei lansio’n swyddogol ar Fai 7fed ac mae’r ffoto’n dangos aelodau’r Clwb gyda’u copïau.

Rydym ni’n ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis am grant tuag at gostau’r argraffu.

Page 2 of 2

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén