Categori: Newyddion Page 1 of 3

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 21fed Hydref am 7:30 pm.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Mai 2019

Roedd yn braf gweld wyneb newydd o New Inn yn ymuno â’r grŵp. Mae gwaith ar y wefan newydd www.pencader.org.uk yn parhau, roedd y data newydd wedi cael ei uwchlwytho i’r wefan, ond roedd cryn dipyn wedi mynd ar goll yn y broses, sy’n golygu tipyn o waith i John ac Emma ei adfer. Fodd bynnag, mae’r wefan newydd bellach ar gael ar bob dyfais gan gynnwys ffonau symudol a thabledi.

Cytunwyd ar raglen Sioe Ardd a Chrefft mis Medi, a byddwn yn paratoi eitem i hyrwyddo Gwobr Jane Billington i’r dudalen flaen. Bydd yr amserlen yn cael ei argraffu ar dudalennau cefn rhifynnau Mehefin ac Awst o Clecs Bro Cader.

Roedd yr ymateb i’r arwerthiant Pen Bwrdd yn siomedig, ni chafwyd cefnogaeth gan werthwyr na phrynwyr. Gwnaeth Louisa’r sylw nad oes digon o aelodau’n dod ymlaen i gynnig syniadau a digwyddiadau newydd. Mae’n rhaid i’r Grŵp symud gyda’r amser a denu pobl ifanc y gymuned os yw am oroesi.

Mehefin 2019

Yn anffodus, cyhoeddodd Dotti y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w gwaith fel Golygydd Clecs o ganlyniad i broblem gyda’i iechyd.

Dosbarthwyd Clecs Mehefin a rhoddwyd taflen i hysbysebu’r Te Mefus ym mhob copi lleol. Trafodwyd manylion terfynol ar gyfer y digwyddiad dydd Sul, byddai angen gwobrau raffl a chacennau i’r lluniaeth.

Prynwyd placiau disgrifiadol ar gyfer Gwobr Jane Billington. Roedd Stuart wedi siarad â phrifathrawes yn yr ysgol a dywedodd y byddai’r plant yn paratoi gwaith celf ar gyfer y Sioe ym mis Medi.

Diolch i grefftwr lleol am ailosod yr estyll ar y fainc dderw ger y panel dehongli, mae hefyd wedi cael ei sgwrio a’i lanhau. Mae’r cennin Pedr wedi cael eu torri’n ol a phlannwyd planhigion yr haf yn ei lle. Mae angen gwneud rhywfaint o waith atgyweirio ar y panel dehongli, ond ni wyddom pwy i holi.

Ebrill 2019

Y wefan bressennol wedi ei diweddaru gyda’r CBC diwethaf, ynghyd a gwybodaeth Skanda Vale am eu teithiau cerdded. Mae’r ffeiliau sydd wedi eu diweddaru wedi ei danfon i SCL er mwyn iddynt drosglwyddo y safleoedd drosodd.

Gwerthiant Pen Bwrdd wedi ei hysbysebu ar y wefan, Gweplyfr a phosteri yn y llefydd arferol.

Cafwyd gwybodaeth na fyddai Carnifal eleni oherwydd diffyg cefnogaeth yn y gymuned.

Naw person wedi helpu gyda’r glanhau a chasglwyd 18 o fagiau spwriel. Erbyn y casglwyd gan CCC ‘roedd yna 10 bag ychwanegol yn llawn pridd a lludw wedi ymddangos.

Nid yw hyn yn dderbynniol, na hefyd taflu spwriel dros y wal ar y bont.

Mae y blwch newydd wedi ei osod yn yr Ardal y Panel ac mae neges o ddiolch wedi ei ddanfon i’r person haelionus.

Mawrth 2019

Archebion a ddanfonwyd ar gyfer adnewyddu hysbyseb yn CBC, os heb eu talu pan fydd y rhifyn yn mynd i ‘w argraffu fe fydd yn cael ei ddileu.

Gan fod pris postio yn codi diwedd y mis prynhwyd cyflenwad o stampiau ar y pris presennol er mwyn cadw y costiau o fewn y cais grant.

Mae Louisa wedi cymeryd drosodd fel cydlynydd Gweplyfr.

Mae’r gwaith ar y wefan newydd yn parhau, mae angen diweddaru y Cyfarwyddiadur ar y we, cais i’w rhoi yn clecs am gyfarwyddiadau newydd.

Archeb wedi ei dderbyn ar gyfer atgyweirio y fainc pren caled, aros am un arall cyn gwneud penderfyniad.

Ffurflenni glanhau wedi ei danfon i CCC gyda cais am offer gyfarpar.

Skanda Vale wedi gofyn am lythyr i gefnogi ei cais i Fferm wynt Brechfa ar gyfer prosiect. Penderfynwyd ei cefnogi.

 

 

 

 

 

 

GOLYGYDD NEWYDD I ‘CLECS BRO CADER’

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Olygydd newydd i ‘Clecs Bro Cader’, y Cylchlythyr Cymunedol dwyieithog uchel ei barch ac wedi’i werthfawrogi ar gyfer Pencader a’r Cylch, o fis Hydref 2019 ymlaen.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron, yn fedrus â phrosesu geiriau a rheoli graffeg, gallu cyfathrebu gyda grwpiau eraill yn yr ardal a gweithio i amserlen dynn. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais ond ddim yn hanfodol.

Er does dim tâl am y swydd hon, byddai hi’n bosibl i ad-dalu am nwyddau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i baratoi pob rhifyn.

Mae’r Grŵp Adfywiad wedi cyhoeddi 6 rhifyn y flwyddyn o ‘Clecs Bro Cader’ am ychydig mwy na 12 mlynedd, mae rhifyn 96 newydd gael ei roi ar y wefan.

Os allwn ni ddim dod o hyd i olygydd newydd, yna’r rhifyn olaf fydd yr un mis Awst. Bydd yn drueni o’r mwyaf os bydd yn rhaid i’r gwasanaeth poblogaidd iawn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol, dod i ben.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi dderbyn yr her, cysylltwch os gwelwch yn dda â

Keith Pratt – Ffôn 01559 384412 neu e-bost: pdrg@ffermffynnonwen.plus.com

Jane Griffiths – Ffôn 01559 384987 neu ebost janegriffithsuk@btinternet.com

am fwy o wybodaeth

Clecs Bro Cader

Clecs Bro Cader 96

Cylchlythyr cymunedol ar gyfer ardal Pencader sy’n cynnwys

Mae fersiwn ar-lein o’r rhifyn diweddaraf ar gael yma

Merched y Wawr Pencader a’r Cylch

Ym Mis Mai – fel parhad i’r dathliad 50 mlynedd – cynhaliwyd cyngerdd yng nghapel Gwyddgrug. Cafwyd noson o ganeuon gan Dafydd Iwan, plant capel Gwyddgrug a phlant Tabernacl a profiad gwefreiddiol i’r plant oedd cael canu gyda Dafydd Iwan. Cafwyd itemau hefyd gan yr hudolus Sandie Steffanetti. Diolch i bawb a gymerodd rhan.

I orffen y flwyddyn cafwyd noson o Bowlio Deg gyda swper i ddilyn yn TafarnTanerdy. Mae y gangen wedi bod yn llwyddiannus hefyd yn nwy cystadleuaeth eleni – Rhaglen y Flwyddyn a Gemau Dominoes.

Mae’r gangen wedi codi swm sylweddol at elusen y mudiad eleni sef Project miwsig Merched y Wawr a Canolfan Dementia Prifysgol Cymru.

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Ar Fehefin 7fed cafodd Clwb Hanes Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf gyflwyniad gan Owen Shiers ar Ganeuon Gwerin Ceredigion. Un diffiniad o ganu werin ydy cerddoriaeth wedi’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ar lafar. Roedd ef wedi defnyddio nifer o ffynonellau fel y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal a siarad a phobl leol. Un nodwedd o ganu gwerin yn y Sir ydy’r defnydd o’r modd eolaidd. Clywsom ni nifer o’r hen recordiadau a chanodd Owen sawl enghraifft ei fod wedi darganfod.

Mae rhaglen ar gyfer y tymor nesaf yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd. Bydd y cyfarfod cyntaf nos Lun Hydref 10fed yn Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, am 7:30yh, siaradwr i’w cadarnhau.

Croeso cynnes i bawb

lanhad y Gwanwyn

Glanhau Yn Y Wanwyn Ebrill 13ed 2019
Y tro yma buom yn ffodus o’r tywydd ac fe ddaeth y cefnogwyr selog allan a gwneud ei hardal ar y diwrnod neu ynghynt yn yr wythnos.
Casglwyd 18 o fagiau (3 du,9 coch a 6 glas) yn ychwannegol i gymysgedd o eitemau mawr darganfywyd ar ymyl y ffyrdd. Beth bynnag erbyn i’r CCC gyrraedd a chasglu y bagiau ar y diwrnod canlynnol ‘roedd 10 bag du arall mae’n debyg yn llawn o bridd a lludw wedi ei dympio yno.
Nid yw hyn yn dderbynniol ac ar ol gwaith caled eraill ddim yn wir ysbryd cymunedol.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwerthiant Pen Bwrdd
Er fod hysbysebion yn y Clecs, Gweplyfr, gwefan a siopau lleol dim ond 4 bwrdd a osodwyd. Beth bynnag ’roedd yna ychydig o siopwyr yn frwdfrydig am fargeinion a chwpaned a chacen.
‘Roedd y trefnwyr wedi mynd i lawer o drafferth I drefnu hyn ac unwaith eto y anlyniad yn dangos diffyg ysbryd cymunedol yn y pentref.

Amserlen y llyfrgell symudol


Ynni Solar yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol yn Llandysul a’r cylch

Mae yna brosiect cyffrous iawn yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy lleol ar y gweill yn ardal Dyffryn Teifi. Mae Ynni Lleol Llandysul yn brosiect lle y bydd ynni adnewyddadwy cafwyd ei chynhyrchu yn lleol, yn cael ei ddefnyddio gan breswylwyr yr ardal er mwyn lleihau costau ynni blynyddol. Mae Ynni Lleol Llandysul yn casglu enwau pobol sydd â diddordeb fod yn rhan o’r cynllun yma – ac ar hyn o bryd yn edrych am 50 cartref i gymryd rhan yn y prosiect.

Mi fydd prosiect solar lleol ar dir Lesley a Greg Parker ym Mhont-Tyweli yn gwerthu’r ynni a’i cynhyrchir gan eu prosiect solar 150Kw i gwmni ynni’r ‘Cooperative’, a bydd yn ei thro yn cael ei werthu am bris gostyngedig i Glwb Ynni Lleol Llandysul. Trwy ymuno â’r clwb yma, mae bosib i chi fod yn rhan o’r prosiect, a manteisio ar brisiau ynni is.

Mae prosiectau Ynni Lleol eisoes yn bodoli ym Methesda yng Ngwynedd, ac ar y gweill mewn mannau eraill ar draws Cymru, gyda Llandysul a’r cylch yn rhan o’r casgliad o fentrau cymunedol arloesol hon. Y gobaith fydd, yn dilyn y prosiect hwn, y byddai prosiectau ynni cymunedol eraill yn cael ei datblygu yn yr ardal, gan gadw’r budd yn lleol hefyd.

Mae Ynni Sir Gâr wrthi ar hyn o bryd yn casglu enwau pobol leol yr ardal sydd am y cyfle i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, lleihau eu costau ynni a chyfrannu tuag at yr economi gwyrdd leol, drwy ymuno â Chlwb Ynni Lleol Llandysul. Byddwch hefyd yn gwneud eich rhan yn lleihau effaith newid hinsawdd, trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy lleol.

Os eich bod yn byw yn yr ardal hon, yn benodol o amgylch pentrefi Llandysul, Pont-Tyweli, Pencader, Pentrecwrt, Horeb, Trelech, Cynwyl Elfed, Croeslan, Saron, Bancyffordd, Llanfihangel-ar-Arth, Rhos, Cwmduad, Alltwalis a Bryn Iwan; cysylltwch ag Ynni Sir Gâr i ddatgan eich diddordeb. Cysylltwch â’r swyddog cydlynnu, Cara Hope: cara@ynnisirgar.org.

Disgwyliwch allan am fwy o ddigwyddiadau ynglŷn ag Ynni Lleol Llandysul yn yr ardal dros yr wythnosau a misoedd i ddod!

Stampiau wedi eu defnyddio

Frances FullerMae Sefydliad Cenedlaethol y Deillion yn ailgylchu stampiau Prydeinig a Thramor. Gwerthir wrth bwysau gan amlaf.
Disgwylir derbyn £10 y kilo am stampiau Prydeinig a £15 am stampiau tramor.
Mae’r arian a dderbynnir yn cael ei wario ar gynorthwyo deillion a’r rhannol ddall.
Didolir y stampiau…Prydeinig a Thramor i bentyrrau gan adael tua 1cm ar amlen o amgylch pob stamp.
Rydym wedi casglu 400g o stampiau a hoffwn gael kilo I wneud y parsel yn werth wheil i’w hanfon, felly wnewch chi barhau i gadw stampiau os gwelwch yn dda.
Os medrwch helpu , ewch a’ch stampiau at Avril Y “Green House” Pencader neu gadewch nhw yn Glyncoch Alltwalis 01559 384499

Diolch
Frances Fuller

Sefydliad y Merched Pencader

Cynhaliwyd ein cyfarfod ym mis Mehefin yn nhŷ Linda, lle gallem ni weld rhai o’i chrwbanod anwes. Dysgom ni lawer am y creaduriaid cyfareddol yma. Mae crwbanod wedi bod ar y Ddaear am 200 miliwn o flynyddoedd. Llysysorion ydyn nhw: mewn rhai mannau’r byd e.e. yr Ynysoedd Galapagos, gallan nhw dyfu i faint enfawr a byw lan i 200 mlynedd. Mae crwbanod Linda yn Ganoldirol: maen nhw’n ddigyffro iawn ac yn hoffi bwyta dannedd y llew.

Ym mis Gorffennaf aethom ni i ymweld a’r Amgueddfa Gwrwgl yng Nghenarth, lle cawsom ni sgwrs ddiddorol am y cychod syml yma. Mae cyryglau’n dyddio’n ol i wareiddiadau cyntaf y byd ac un o’r ffurfiau cyntaf o gludiant dŵr oedden nhw, wedi cael eu gwneud o ddefnyddiau ar gael yn lleol. Gwelsom ni enghreifftiau o gyryglau o wledydd gwahanol, e.e. India, Tibet, Irac, Fietnam, yr Alban, Cymru ac Iwerddon. Mae pysgota rhwyd cwrwgl yn dal i ddigwydd ar 3 afon yn Sir Gaerfyrddin – y Teifi, y Taf a’r Tywi. Ar ol cinio blasus yn yr ystafell de aethom ni i ymweld a’r arlunydd, Helen Elliott, yng Nghastell Newydd Emlyn. Siaradodd hi am ei gwaith a dangosodd ei stiwdio i ni.

Cyfarfodydd nesaf yn y Pafiliwn:

Medi 3ydd: bydd Susan Macadam yn siarad am gynhyrchion gofal croen naturiol.

Hydref 1af: Adeiladau peryglus – bydd Richard Keen yn siarad am brosiectau y mae e wedi ymwneud a nhw.

Mae croeso i chi ddod i’n cyfarfodydd ni.

Page 1 of 3

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén