Categori: Regeneration Group

BWRW BOL

Chwefror 2020

Ac felly dechreuad blwyddyn arall ac ar ol yr holl gynherddau a digwyddiadau eraill cychwynwn ar gyfnod o wrthesgyn. Diolch i’r holl drefnywyr ar cyfranwyr a roddodd gymaint o ddiddanwch a phleser i’r rhai a’u mynychodd.

Yr arfer ymysg rhai o’r ffoaduriaid dros rhyw dair blynnedd ddiwethaf i’w ail-enwi eu tai i rhywbeth hollol amrhiodol a chyda dim ystyriaeth i’w darddiad Cymreig, swyngyfaredd na hanes. Mae hyn yn arwydd cyntaf o waeth i ddod mewn dulliau eraill, o newid y tirluniad, diwreiddio coed ac hyd yn oed cynhyrfu am grymachau ar yr heol neu rwystrau eraill er mwyn llesteirio y teithiwr.

Mae na groeso i ffoaduriaid and rhowch gymorth i’r gymuned chi wedi dewis symud iddo i’w gwneud yn gymuned gryfach. Nid yw gwneud dim yn opsiwn anwesol.

Sylwebodd neb ar absennoldeb Slot Duw yn y rhifyn olaf; cymeraf drwy hyn yr ensyniad fod na bechaduriaid yn ein mysg.

Sylwadau i’r Stuart Wilson Ffon 384709

Rhagfyr 2019

Wel dyna ni – yr haf wedi mynd. Croeso i’r gaeaf gyda’th nosweithiau hir cyfforddus a thywyll, y tan agored sydd yn dod a mwg coed, huddug a dwst sydd yn treiddio i weddill y ty. Canlyniad o fod yn dal “o dan y meddyg” (fel y dywedai fy ngweision ffermydd o saith deg mlynedd yn ol) yw fy mod yn ddibynnol ar ffrindiau caredig a chymdogion am siopa a thrafnidiaeth. Yr olaf hyn yw teithiau i’r ysbyty, rhannau ohono sydd yn gweithredu ar gyfer cleifion allanol tan yr hwyr. Cefais sicrwydd fod y goleuadau stryd wedi eu gwella wrth amnewid yr hen rhai gyda rhai sydd yn pelydru golau gwyn ac sydd hefyd yn fwy efeithiol. Megis gwelliant i’r rhai sydd yn dewis ei weld. Er y clywaf dipyn o hyn ar llall yn digwydd yn y plwyf byddai yn anoeth sylwebi cyn cadarnhau y ffeithiau, yn lle ail adrodd y cleber. Felly ‘rwyf am ymatal rhag sylwebi mwy. Diolch i Keith a Jane am eu pendantrwydd i gynyrchu rhifyn yr hydref a’r un presennol o Clecs Bro Cader. Nid yw hyn yn dweud dim am y diffyg ymateb i’r erfyniad am gymorth gyda’r cynyrchu. Hoffem wneud cywirdeb i’r Bwrw Bol diwethaf – ariannwyd y tri “defibrillators” gan fferm wynt Brechfa ac nid gan Statkraft fel y datganiais – ymddiheuriadau i bawb.

Sylwadau i’r
Stuart Wilson Ffon 384709

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

This Small Corner Os hoffech brynu copi o lyfr Steve Dubé ar hanes Pencader, mae rhai copïau ar gael yn Llwyngwen. Y pris gwreiddiol oedd £9.99, ond gellwch ei prynu am £7.50. Ffoniwch Stuart os hoffech brynu copi. Sylwadau os gwelwch yn dda i Golygydd – ebost: editor@ffermffynnonwen.plus.com neu Stuart Wilson – ffôn: 01559 384709

ADRODDIAD Y CADEIRYDD 2019

GRŴP ADFYWIAD PENCADER A’R CYLCH

 ADRODDIAD Y CADEIRYDD 2019 

Rhaid cychwyn yr adroddiad yma wrth sôn am yr ymroddiad llwyr a’r gwaith caled a gyfrennir i’r Grŵp, ac er budd y Grŵp, i sicrhau ei fodolaeth a’i barhad gan ein Hysgrifennydd / Trysorydd a bellach Prif Olygydd y cylchlythyr. Mae Jane wedi cael cefnogaeth aruthrol yn yr olaf gan Keith, ei chyd-gwdihw; heb y ddwy hoelen wyth hyn, byddai’r tri rhifyn blaenorol o’r cylchlythyr wedi diflannu am byth. Rydym yn wir ddyledus i’r ddau ohonoch. 

GOLYGU CYNTAF CLECS YN 2002 Cyhoeddir y 100fed rhifyn o Clecs ym mis Ebrill 2020 – dyna gamp. Rwy’n cofio’n amheuon wrth fynd ati i gynhyrchu ein rhifyn cyntaf o 300 copi – cynhyrchwyd hefyd ddau rifyn o ‘gylchlythyr’ mwy dychanol a dirmygus ar gyfer trigolion pentref Dolgran yn unig, a geisiodd danseilio ein hymdrechion, ond a drengodd – o sepsis, dwi’n tybio.  Rhaid diolch unwaith eto i’r golygydd cyntaf am osod sylfeini cadarn ar y graig cyn ymddeol a throsglwyddo’r awenau i bobl alluog a phrofiadol eraill a gocsiwyd i gymryd swydd y Golygydd; rhai’n llawn dyhead hefyd.  Mae’r incwm a’r amrywiaeth cynyddol o hysbysebwyr, sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac yn parhau i gynyddu gyda phob rhifyn, yn adlewyrchu pwysigrwydd Clecs i’r gymuned. Rydym yn ddiolchgar i Statkraft am eu cefnogaeth ariannol – gallwn deimlo’n hyderus o’r diwedd am ei ddyfodol. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan ddau aelod o’r gymuned, pobl prysur iawn sydd byth yn ein siomi, hyd yn oed ar y funud olaf.  Mae aelodaeth y  Grŵp yn parhau i fod rhywfaint yn wastad er gwaethaf ein hapeliadau cyson am aelodau iau i ymuno â ni.  Cynhaliwyd Te Prynhawn Mefus a Gemau gwych ym mis Mehefin gyda stondinau a nifer o rasys a chwaraeon. Daeth tyrfa fawr, ac mae’n debyg i ni werthu allan cyn i’r glaw ddod lawr i roi diwedd ar y chwaraeon. Byddwn yn sicrhau bod mwy na digon o fefus eleni!  Daeth yn amlwg bod y Sioe Hwyl Gardd a Chrefft wedi tyfu’n rhy fawr i’r Pafiliwn ac rydym yn gwneud ymholiadau i weld a fyddai’n bosibl llogi adeiladau’r ysgol am bris rhesymol. Derbyniwyd 19 ymgais am waith celf gwreiddiol mewn unrhyw gyfrwng ar gyfer Gwobr Jane Billington – y nifer uchaf o gystadleuwyr mewn unrhyw ddosbarth. Diolch i Mrs Lynn Bushin am awgrymu ac ariannu’r wobr hon. Roedd y sioe yn llwyddiant ac wedi denu nifer o bobl chwilfrydig nad oedd yn cystadlu; diolchwn i’r trefnwyr, stiwardiaid, cynorthwywyr ac yn bennaf – i’r cystadleuwyr.  Mae John ac Emma wedi ailwampio’n gwefan Pencader.org yn llwyr, er mwyn cadw i fyny â thechnoleg a rhaglenni newydd. Maent wedi gwneud llawer iawn o waith i greu gwefan mwy modern sy’n ddeniadol i bob ymwelydd.  Diolch hefyd i’n cydlynydd Facebook am geisio hysbysu’r gymuned o’n digwyddiadau, i’n His-gadeirydd am gamu i’r adwy pan fûm yn sâl. Diolch i chi i gyd am helpu i redeg a chefnogi gweithgareddau’r Grŵp trwy gydol y flwyddyn, sy’n cymryd llawer o amser i’w trefnu. Nid wyf wedi cyfeirio at y Casglu Sbwriel, gan nad yw’r digwyddiadau yma’n cael cefnogaeth gan drigolion lleol na chan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r hoelion wyth arferol yn gwneud eu rhan trwy gydol y flwyddyn i geisio gwneud gwahaniaeth, rydym yn ddiolchgar iddynt am ymfalchïo yn eu hardal.  Ac i orffen ar nodyn personol, hoffwn ddiolch i chi eto am eich cefnogaeth ffyddlon i’r grŵp, ei gyfarfodydd a’i ddigwyddiadau ac wrth gwrs i’n hysgrifennydd – byddai’n anhrefn llwyr hebddo. Stuart Wilson

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Gallwch ddarllen Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer 2019 YMA.

Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 16fed Mawrth am 7:30 pm.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Rhagfyr 2019

Estynnwyd croeso gwresog i Morgan Jones o Gwyddgrug a oedd wedi ei weld yn Clecs; mae angen aelodau newydd bywiog gyda syniadau ffres. Cafodd rhifyn Rhagfyr o Clecs ei argraffu a dosbarthu mewn amser cofnodol; mae na lawer o adborth wedi ei dderbyn ynglyn a’r lliw ychwanegol ar drefn cryno. Fydd na ddim beirniadu swyddogol ar y Goleuadau Nadolig eleni. Trafodwyd cyflwr yr heol heibio fferm y Banc ac mae wedi ei hysbysu i Cynghoryddes Linda Evans. Wedyn rhoddodd John Hubert gyflwyniad diddorol o luniau a fideos o wahanol safleoedd yn y gymuned ‘roedd wedi eu tynnu gan camera dron. ‘Roedd mannau cyfarwydd yn edrych mor wahanol o uwchben ar manylion mor glir.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Tachwedd 2019

Cadeirywyd y cyfarfod gan Stuart Wilson. Mae na amryw wedi cymryd fyny hysbysebu yn y Clecs sydd yn cynothwyo gyda cylludo y gost ychwanegol y tudalennau lliw. Mae’r wefan wedi ei diweddaru ac mae rhaglen Eisteddfod Llanfihangel-ar-Arth 2020 ar gael i’w ddadlwytho. ‘Roedd cefnogaeth y gymuned yn y gwasanaeth a’r Sul y Cofio yn Tabernacl yn siomedig, angen gwell hysbysebu a’r gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn i ei hyrwyddo.

Hydref 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Stuart Wilson. 

Er iddo gael ei argraffu yn hwyr a gyda llai o dudalennau dywedodd y rhai oedd yn bresennol fod rhifyn yr Hydref o’r clecs yn dda. Diolch i Keith a Jane am ei pentantrwydd i gael y rhifyn hon allan. Parhaodd y drafodaeth ynglyn a faint sydd wir yn darllen ei rhifyn or Clecs yn gymraeg. Dwy ieithrwydd yw y peth sydd yn rhwystredig i olygyddion dichonadwy gan fod y rhai sydd wedi dangos diddordeb ond yn siarad saesneg, ac ‘rydym yn pwyso yn drwm ar yr ychydig cyfieithwyr teyrngar o gorlwythog.

Mae lluniau gwych – wedi ei tynnu o’r awyr- o’r gymuned wedi ei gosod ar y wefan, ac mae llawer o itemau wedi eu diweddaru hefyd. Mae nifer ymwelwyr y wefan wedi cynyddu 20%.

Gwneud elw o dros £170 yn y Sioe Ardd a Chreft, chwydd digon anghenus i’r cpffrau. Mae’n edrych yn debyg fydd angen lleoliad fwy o faint ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Awgrymwyd i ddarllenwyr Clecs gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwaith llaw ebyn ddechrau’r flwyddyn, fydd hyn yn galluogi digon o amser i gystadleuwyr dichonol i orffen ei ceisiadau.

Siomedig oedd Glanhau yr Hydref, tri person ddaeth ar y dydd, cyferbyniad awchus i gymharu ar glanhau cyntaf nol ym Mai 2003 pan ddaeth 23 o fobl.

Fe fydd Gwasanaeth y Cofio eto eleni yng nghapel y Tabernacl ar Sul Tachwedd 10ed gyda aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan. Croeso i bawb.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Yn y cyfarfod Rhagfyr 16ed fydd John Hubert yn dangos sleidiau o’r pentrefi wedi eu tynnu o’r awyr, bydd yna paned a mins peis.

Awst 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr is –lywydd, Chris Fuller, er fod Stuart yn bresennol ‘roedd yn well ganddo eistedd yn ol.

Mae rhifyn Awst o Clecs wedi ei ddosbarthu ac mae hysbyseb am olygydd newydd wedi ei dosbarthu yn yr ardal ac ar dudalen weplyfr, yn y gobaith daw rhywun ymlaen a cymryd at y swydd.

Mae trefniadau ar gyfer y Sioe Arddol a Chrefft ym mynd yn ei blaen.

Mae Blodau’r Llywydd wedi cael eu beirniadu ac fe gaiff yr ennillwyr eu tystysgrifau yn fuan.

Bydd y Glanhau Hydrefol yn digwydd a’r Hydref 12ed , ac fe fydd y cyngor yn derbyn archeb i gyflenwi yr offer arferol.

Ni fydd cyfarfod yn mis Medi felly y nesaf a’r 21ed Hydref.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2019 Sioe Hwyl Gardd a Chrefft

Dydd Sadwrn Medi 14ed disgleiriodd yr haul yn braf ar y 40 o gystadleuwyr fel y dygon ei gwahanol ceisiadau ar gyfer y sioe eleni. ‘Roedd yna nifer o wynebau newydd yn ogystal a’r ffyddloniaid, ac ‘roedd yn bleser gweld y lluniau gan blant ysgol Caerfelin a’r y muriau wrth myned i fewn. ‘Roedd yna 240 o geisiadau a rhif niferus o luniau gan blant yr ysgol. Mae wedi bod yn haf ardderchog eleni ac ‘roedd yna geisiadau arbennig i arddangos yn enwedig y meini uchaf. Yn ogystal a’r lluniau lliwgar ‘roedd yno robotiaid a melynnau gwynt dychmygus.

Dyfarnwyd y cwpan am y pwyntiau uchelaf yn yr adran Cynyrch yr Ardd i Eric Jones Dwylan, gwelwyd yma yn derbyn y cwpan gan Stuart Wilson Cadeirydd y Grwp Adfywio.

 

 

 

 

Ennillodd Janet Jones Dwylan tlws Oliver Evans am y ceisiadau gorau yn yr Adran Flodau.

Ennillwyd y cwpan am yr uchafbwyntiau yn yr adran Crefft Llaw gan Edwina Davies, Davies Street, Pencader.

 

 

 

 

Ennillodd Janet Jones cwpan Helen Rose Wilson am yr uchafbwyntiau yn yr adran Coginio.

 

 

 

Ennillydd y Darian Gyfangwbl am y pwyntiau uchaf oedd Janet Jones.

 

 

 

 

Aeth y wobr yn yr adran Plant i Elsi Williams.

 

 

 

 

Dymuna y pwyllgor ddiolch I bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fordd: CGDP am ddefnydd y Pafiliwn, siop Premier a Phopty Pencader am y lluniaeth i gadw pawb i fynd, pawb o rhoddodd fenthyg byrddau, y rhai fu yn eu cario a chludo, dyfarnwyr a stiwardiaid am rhoi o’i hamser, noddwyr y cwpanau a tharianau ac unrhyw un arall a gynorthwyodd at yr achlysur. Yn bennaf oll mae ein diolch i drigolion y plwyf a ddaeth a’i cynnyrch gyda balchder er mwyn cefnogi yr achlysur gymunedol hyn, hebddo chi fydde na ddim sioe, felly diolch a gobeithio gwelwn bawb eto y flwyddyn nesaf.

BLODAU’R CADEIRYDD

Eleni yn lle Cystadleuaeth Arddiom, mae’n Cadeiryd ni wedi bod yn edrych ar erddi lleol fel mae e wedi bod ar hyd y lle a bydd tystysgrifau yn cael eu gwobrau I’r rhai a oedd wedi dangos arddangosfa gyson o liw yn ei farn.

Llanfihangel ar Arth
Wendy Brooker 4 Heol Mafon
M Jones 5 Heol Mafon
Margaret Rees 6 Heol Mafon
Mr & Mrs R D Thomas 10 Bro’r Orsaf
Dolgran Road
Maud Evans – Gaywood
Raymond & Yvonne Lewis – Yr Hafan

Ym marn gyffredinol y beirniaid, roedd llai o arddangosfeydd da eleni, roedd dyfrio wedi bod yn broblem yn ystod y cyfnod poeth iawn. Roedd llai o arddangosfeydd basged da. Wedi dweud hynny, roedd yna ychydig o uchafbwyntiau peidiwch â
digalonni, ceisiwch eto’r flwyddyn nesaf.


 

GOLYGYDD NEWYDD I ‘CLECS BRO CADER’

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Olygydd newydd i ‘Clecs Bro Cader’, y Cylchlythyr Cymunedol dwyieithog uchel ei barch ac wedi’i werthfawrogi ar gyfer Pencader a’r Cylch, o fis Hydref 2019 ymlaen.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron, yn fedrus â phrosesu geiriau a rheoli graffeg, gallu cyfathrebu gyda grwpiau eraill yn yr ardal a gweithio i amserlen dynn. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais ond ddim yn hanfodol.

Er does dim tâl am y swydd hon, byddai hi’n bosibl i ad-dalu am nwyddau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i baratoi pob rhifyn.

Mae’r Grŵp Adfywiad wedi cyhoeddi 6 rhifyn y flwyddyn o ‘Clecs Bro Cader’ am ychydig mwy na 12 mlynedd, mae rhifyn 96 newydd gael ei roi ar y wefan.

Os allwn ni ddim dod o hyd i olygydd newydd, yna’r rhifyn olaf fydd yr un mis Awst. Bydd yn drueni o’r mwyaf os bydd yn rhaid i’r gwasanaeth poblogaidd iawn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol, dod i ben.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi dderbyn yr her, cysylltwch os gwelwch yn dda â

Keith Pratt – Ffôn 01559 384412 neu e-bost: pdrg@ffermffynnonwen.plus.com

Jane Griffiths – Ffôn 01559 384987 neu ebost janegriffithsuk@btinternet.com

am fwy o wybodaeth

Te Mefus a Hwyl a Sbri

Gwawriodd bore dydd Sul y 23ain o Fehefin yn heulog a chlir, ond nid oedd y rhagolygon yn dda ar gyfer y prynhawn. Roedd Pwyllgor y Pafiliwn wedi gwneud gwaith gwych yn paratoi’r cae ar gyfer y digwyddiad fel bod modd chwarae gemau a gweithgareddau awyr agored eraill. Sefydlwyd y stondinau taro coconyt, y golff yn erbyn y cloc a wado’r llygoden fawr, a marciwyd y llinellau ar gyfer y mabolgampau.

Cyrhaeddodd y rhieni a’u plant gyrraedd a dechreuwyd chwarae’r gemau, nes i’r glaw ddisgyn awr yn ddiweddarach. Roedd rhai o’r gemau’n addas i’w mwynhau dan do felly fe’u symudwyd i mewn i’r Pafiliwn. Mae’n drueni mawr gan fod pawb yn awyddus i gymryd rhan a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.

Fe aeth y mefus a’r hufen i lawr yn dda hefyd. Mae’r Grŵp Adfywio am ddiolch yn fawr i bawb a helpodd i wneud y prynhawn mor llwyddiannus, p’un a’i a oeddent wedi cyfrannu lluniaeth, cacennau, gwobrau raffl, arian neu eu hamser, rydym yn ddiolchgar iawn. Rhaid diolch hefyd i’r siopau lleol – maent bob amser yn barod i arddangos posteri a helpu pan allant.

Roedd yn brynhawn hwyliog a fydd yn cael ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf.

MAE EICH ANGEN AR EICH CYMUNED


Cardiau Cyfarch

 

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén