Gwasanaethau Cyngor Sir
Mae Cyngor Sir Gâr yn gyfrifol am lawer o nodweddion ein hamgylchedd. Ni allwch ddisgwyl iddynt gyweirio popeth sy’n eich poeni ond ni allant gyweirio pethau na wyddant amdanynt.
Felly beth am ddweud wrthynt gan ddefnyddio’r dudalen Rhoi gwybod am ar wefan y Cyngor. Byddwch yn derbyn côd cyfeirio am eich neges ac os ydy hi’n dod o dan un o’r pynciau hyn, dylai gael ei chyweirio. Dyma’r dolennau i’r ffurflenni ar-lein.
- Cerbyd wedi’i adael
- Llygredd Aer• Twyll Budd-daliadau
- Anifeiliaid Marw mewn Llefydd Cyhoeddus
- Baw cŵn
- Goleuadau Stryd Diffygiol
- Cwynion ynghylch Bwyd
- Achosion o waredu sbwriel yn anghyfreithlon
- Codi Posteri yn Anghyfreithlon
- Graffiti
- Diffygion o ran Priffyrdd
- Atgyweiriadau Tai
- Cŵn sydd ar goll neu gŵn strae
- Sbwriela
- Sbwriel sydd heb ei gasglu
- Llygredd Sŵn
- Ffurflen Adrodd – Parcdir a Llefydd Agored
- Problem Rheoli Plâu
- Cynllunio – Rhoi gwybod am achos posibl o dorri amodau cynllunio
- Sbwriel sy’n cael ei adael allan ar y diwrnod anghywir
Nid ydynt am wastraffu amser gan chwilio am y broblem. Felly mae angen arnynt fanylion clir am ei lleoliad. Mae map rhyngweithiol â rhai manylion deallus ond nid ydy’n hawdd i’w ddefnyddio. Am rai categoriau gallwch gynnwys ffoto. Os na allwch gael y sustem ar-lein i weithio, gallwch anfon ebost at direct@carmarthenshire.gov.uk, ffoniwch 01267 234567 neu hyd yn oed anfon neges destun i 07892 345678.