Plentyn siawns oedd John Pryce Jones. Cafodd ei eni ar Ionawr 26ain 1894 yn Ffynnonoerbach, Llangeler. Mab Mary Jones, morwyn gyffredinol tŷ oedd ef. Cafodd ei fagu ym Mhencader gan ddwy o’i fodrybedd, Ann Jones, Brynhyfryd a Martha Jones, Gwynfryn a oedd yn wniadwraig. Beetie Rees y gantores oedd un arall o’i fodrybedd.

Fel plentyn cafodd ei nabod fel ‘Johnny’ a phlentyn a gafodd ei garu’n fawr, oedd ef. Aeth i Ysgol Pencader ac am dair ar ddeg oed cafodd ei ystyried yn ddigon clyfar i fynd i’r Ysgol Ramadeg yn Llandysul fel disgybl dydd. Dechreuodd yn Nosbarth 2 ar Ionawr 21ain 1907. Mae cofnod o Martha Griffiths yn talu pymtheg swllt am ei bresenoldeb yn nhymor yr haf yn 1907. Gwnaeth ef yn dda yn ei arholiadau ac aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth tua 1911 lle cafodd radd yng Nghemeg Ffisegol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd yn y RNVR fel meteorolegydd yn Scapa Flow, Orkney. Cafodd ei dwyn o flaen llys milwrol gan y Llynges achos dywedon nhw fod ei ddarogan yn anghywir a chafodd y fflyd ei dal yn y porthladd pan oedd y tywydd yn ddigon da iddyn nhw fod ar y môr. Cyflwynodd ef bob un o’i adroddiadau technegol ei fod wedi defnyddio i wneud ei ragolygon tywydd ac wedyn ymddangosodd hi fod yr Almaenwyr wedi bod yn cyflenwi gwybodaeth ffug yn ddirgel. Cafodd ei ryddhau o fai.
Cwrddodd ef â’i wraig, Helen Bune, ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth hi o Gaernarfon yng Ngogledd Cymru a daeth yn VAD. Yn ddiweddar dywedodd hi pa mor ofidus oedd hi clywed y dynion wedi eu hanafu’n galw am eu mamau. Roedd hi tua phedair blynedd ar bymtheg ar y pryd. Cawson nhw un fab, John, a foddodd yn drasig mewn damwain sglefrio ar Hornsey Mere wrth aros am ei bapurau galw i’r lluoedd yn yr Ail Ryfel Byd.

Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1919, ymunodd John (Jack) Pryce Jones â staff Reckitt and Sons Ltd, Hull, ac arhosodd gyda’r cwmni tan ymddeol yn 1955. Cafodd ei apwyntio fel Cyfarwyddwr Reckitts (Lliwiau) yn 1950.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiodd ef ei brofiad fel cemegydd diwydiannol i ddod o hyd i sylwedd gwrthrewi a allai gael ei ddefnyddio ar awyrennau i atal iâ rhag ymgasglu ar yr adenydd.

Dyn â llawer o ddiddordebau oedd ef ac yn ei waith cynnar canolbwyntiodd yn bennaf ar gynhyrchu dulas a daeth yn arbenigwr yn y maes. Gwnaeth ef astudiaeth arbennig o lapis lazuli a chafodd wybodaeth eang o’i ddefnydd yn yr Oesoedd Canol a hefyd o bigmentau a gafodd eu defnyddio mewn paentiadau olew a’r dulliau o ffugio’r hen feistri.

Roedd yr astudiaeth o wenyn a mêl o ddiddordeb arbennig i John Pryce Jones. Daeth yn awdurdod blaenllaw ar fêl ac ym mis Gorffennaf 1948 rhoddodd ddarlith i Gymdeithas Gwenynwyr Cymru ar ‘Y Fêl-wenynen a Pheillio.’ Cydnabu ef bywsigrwydd ariannol gwenyn mewn peillio cnydau amaethyddol a dywedodd fod prinder gwenyn a phryfed peillio eraill oherwydd dulliau trwylwyr ffermio a defnydd diofal gwenwynau pryfed.

Bu farw John Pryce Jones yn 1956 yn ysbyty Aberteifi. Cafodd ei gladdu yn Eglwys Capel Colman, Boncath. Yn ei angladd dywedodd ei gyfaill oes Canon T C Jones, ficer Evesham:

“Cafodd hi ei dweud fel teyrnged i rai dynion ‘roedd ei feddwl fel llyfr’. Roedd meddwl Mr Pryce Jones yn fwy fel llyfrgell, roedd cymaint o bynciau bod gwybodaeth ddwfn ohonyn nhw ganddo fe tu allan i’w astudiaeth broffesiynol, ac roedd un neu ddwy gangen o wybodaeth y byddai hi’n wir i ddweud ohonyn nhw y gwyddai ef mwy nag unrhyw un yn Ewrop.”

Rhoddodd ef waddol i Adran Cemeg Prifysgol Hull a oedd i gael ei ddefnyddio fel gwobr i fyfyrwyr eithriadol.