A oes gyda chi unrhyw atgofion o’r hen injans ffordd? Cofiaf weld un wedi parcio ger rhyw waith ffordd ar noson wlyb wrth gerdded adref o’r ysgol. ‘Roedd y gweithwyr wedi mynd, felly codais y sgrin cynfas a dringo i mewn i’r caban clyd. Gwresogais fy hun wrth y cols marwor a oedd dal yn y blwch tanio, a chyffroi wrth ddychmygu sut y byddai ei yrru. Gwnaethpwyd nifer o’r injans yma gan Fowlers o Leeds a ddyfeisiodd a chynhyrchodd yr aradr stêm. Diolch i ymroddiad a sgiliau anhygoel dilyniant o selogion brwdfrydig mae’r injan olaf a gynhyrchwyd gan Fowlers (ym 1937) bellach yn gweithio ac mewn cyflwr arbennig. Treuliodd yr injan ei holl oes yn ac o amgylch Pencader.

The Evening Star

Yn ôl erthygl yn argraffiad Gorffennaf o gylchgrawn OLD GLORY a ddarparwyd gan Chris Fuller, person lleol brwdfrydig, mae’r llyfr lóg gwreiddiol wedi goroesi ac yn nodi fod ‘y peiriant 12 tunnell wedi ei archebu gan Mr W L Williams o Alltwalis, Sir Gaerfyrddin, yn Nhachwedd 1937, ac fe’i danfonwyd gan Reilffordd y Great Western i Orsaf Pencader gyda gyrrwr Fowler wrth law i hyfforddi’r perchnogion newydd ar sut i gynnau’r tân, codi stem, a’i ddefnyddio ar y ffordd.’ Mae’r injan dal yn dwyn plac y perchennog gwreiddiol.

 

A oes rhywun yn gwybod mwy am y Mr W L Williams yma? Os yw’r gŵr bonheddig neu aelodau o’i deulu’n dal yn yr ardal, ac yn fodlon rhannu atgofion neu luniau, hoffwn glywed oddi wrthych. Roedd y peiriant yma’n 6nhp Injan gyfansawdd DNB dosbarth Rhif 22596. Roedd yn dipyn mwy nag injan. Mewn gwirionedd roedd yn beiriant creu ffyrdd cyflawn, roedd ganddi ysgraffiniwr ddau-ddant ‘anorchfygadwy’, tanc col-tar, pympiau a chynhwysydd graean a fyddai’n cael ei dynnu y tu ôl i’r injan.

Cwblhawyd yr adferiad diweddaraf gan y perchennog presennol, Paul Woods o St Ives, Cernyw. Ym 1962, bwriadwyd anfon yr ‘Evening Star’, sef enw presennol yr injan, i’w sgrapio. Mae’n debyg taw dim ond ar hap y gwelodd ffrind Mr Williams yr injan, a’i argymell i’w chadw neu ei gwerthu. Dyna a wnaeth, gan roi hysbyseb yng nghylchgrawn y Model Engineer. Gallwch ddarllen mwy am hanes hir yr adferiad gan nifer o berchnogion balch yn argraffiad Gorffennaf o OLD GLORY (rhif 269), lle mae’n cael sylw arbennig ar y clawr. www.oldglory.co.uk