Addawodd Yuri Kurov byddai yn dod o hyd i’r ferch a welwyd ddiwethaf tu allan i wersyll gwaith

Teulu Rwsiaed a wahanwyd gan ryfel yn cyfuno mewn tafarn gwledig

          From The Western Mail – Tuesday 19th August 1997

         STEVE DUBE
Dusha and Yuri

Llun: TONY PARADICE

DOD O HYD O’R DIWEDD: Yuri Kurov gyda merch golledig ei hen-fodryb Evadokia Stafford

Daeth a llun bedd fy mam i’w ddangos i mi. ‘Roeddwn yn flin a gwnaeth i mi grio.

 Mae teulu a wahanwyd gan Hitler, ac a chadwyd ar wahan gan Stalin,wedi cael ei cyfuno o’r diwedd, mewn tafarn bach gwledig Cymreig.  Tair wythnos yn ol gwerthodd Yuri Kurov ei feic modur, ffarweliodd a’i wraig a thri phlentyn yn y Weriniaeth Annibynnol o Kyrgyzstan ger y ffin Tseiniaedd a gwneud ei ffordd i dafarn y Beehive ym Mhencader i gyflawni yr addewid a wnaeth i’w hen- fodryb, sef dod o hyd i’w  merch,yr hon a welwyd ddiwethaf tu allan i wersyll gwaith yn yr Almaen Natsiaedd.

‘Roedd Evodokia Stafford, y drwyddedwraig  gwasanaeth mwyaf hir dymor yn Sir Gaerfyrddin tebyg, ac yn adnabyddus i bawb ym Mhencader fel Dosha, wedi gwahodd ef i ddod i aros  gyda hi ar ol derbyn llythyr annisgwyl ganddo y llynedd.

‘Roedd ef wedi ei olrhain drwy y Groes Coch.

Ac fel y cyfnewidiwyd newyddion teuluol mewn Rwsiaedd, gwnaeth Dosha gymryd amser i ffwrdd o edrych ar ol y dafarn ar arddongosfa flodau ysblennydd ‘roedd yn tyfu o gylch y safle, i siarad am fywyd ddechreuodd tu allan i Stalingrad ac fe fydd yn diweddi , medd hi, yn y pentre a fu yn gartref iddi ers 42 o flynyddoedd.

Ganwyd Dosha ger Stalingrad, nawr yn Volgograd, ar yr afon Volga yng ngorllewin canol yr Undeb Sofietaidd yn 1925 yn nghanol y chwildro a newyn a achoswyd gan yr ymgynulliad amaethyddol gan y gorchmynwr Stalin.

Daeth plentyndod o amddifadfedd a newyn i ben yn sydyn pan gyrhaeddodd y fyddin ymosodol Almaeneg tu allan i Stalingrad yn1941. ‘Roedd Dosha yn 17 mlwydd oed.

“Yn 1942 penderfynodd yr Almaenwyr i waredu y boblogaidd a rhoddwyd fy mam a fi mewn gwagen cludo  anifeiliaid ac fe’m cludwyd i weithio yn yr Almaen” galwodd i gof.

“Buom yn swp yn y wagen an saith niwrnod hyd tan y cyrhaeddom y ffin Almaeneg, lle y trosglwyddwyd  ni  i  dren- nid oeddynt am i’r bobl o’r Almaen  ein gweld yn cael ein cludo fel yna.”

Nid oedd Dosha yn siarad rhyw lawer am yr erchylldra a ddioddefodd yn yr Almaen.

“ ‘Roeddwn yn ifanc  ac ‘roedd yn galed, pan fyddaf yn meddwl am yr ifanc heddiw, a’r bywyd sydd ganddynt, allai ddim peidio cofio fy mod wedi treulio fy holl ieuenctid draw na heb wybod dim am foethusrwydd.”

 

Treuliodd Dosha a’i mam, Yuliana Bura, tair blynedd yn yr Almaen, yn gweithio 12 awr y dydd ar y tir, gan fyw ar ymborth o wraidd cofi i frecwast, basin o gawl i ginio, a thato wedi berwi yn ei crwyn gydag ychydig o isgell i swper.

“Pan ddaeth y rhyfel i ben ‘roedd pawb am fynd adref a dygodd rhai ohonom lori oddiwrth yr Almaenwyr a phentyri ar ei bwrdd, ” medd Dosha. “Aeth y rhai hynaf yn gyntaf ac fe adawyd yr ifanc ar ol.  Aeth fy mam yn gyntaf i edrych am ein teulu a gorfu i fi aros yn yr Almaen.”

Ni welodd un y llall byth eto.

Arhosodd Dosha ar yr ochr Brydeinig o’r afon Elbe, ac ‘roedd ei mam wedi croesi i’r ochr Rwsiaidd- beth ddaeth yn  Ddwyrain Almaen yn ddiweddarach.

Fe gadwodd y Lliain Haearn nhw ar wahan. “Ysgrifennodd ataf bob wythnos ond ni ddaeth y llythyrau drwodd, ond pan ddaethom yma i fyw es i’r Swyddfa Bost a danfon llythr iddi hi.”

“ Aeth (y llythr) at fy ewythr a trosglwyddodd ef i fy mam a buom yn cysylltu yn gyson tan 1970 pryd peidiodd y llythyron gyrraedd.”

“Nid oedd yn ysgrifennu llawer, dim ond ychydig am y teulu, ond doeddwn ddim yn gwybod am Yuri a’i deulu cyn hynny. ‘Roeddwn yn meddwl fod fy mam wedi mynd a dyna sut fydde diwedd pethe.”

Y ffaith oedd, mwy na thebyg i’r llythyron gael ei dal yn rhwydwaith tensiynol y Rhyfel Oer, gan fod mam Dosha yn dal yn fyw.

‘Roedd wedi symud i’r dwyrain  o Kyrgyzstan i fod gyda ei brawd a’i deulu. ’Roedd gwaith yno, yn dilyn y rhyfel Undeb Sofietaidd, adeiladu ffyrdd newydd,rheilfyrdd a ffatrioedd, a moderneiddio ardal lle ‘roedd y Mwslemiaid iaeth Twrceaidd yn dal i ddilyn bywyd traddodiadol o fyw drwy heidio gwartheg,defaid a geifr.

‘Roedd mam Dosha yn gwarchod Yuri, tra ‘roedd ei rieni yn gweithio yn ystod y dydd yn yr Undeb Sosialaidd Sofietaidd Kirgiz neu Kirgizia fel eu galwyd adeg hynny. Bu hi farw yn 1984.

Yn y cyfamser yn yr Ewrop ol-rhyfel bu Dosha yn byw mewn gwahanol wersylloedd i fobl oedd wedi ei hamddifadu, ac yn un o rhain ddaru gyfarfod, yn ddamweiniol,ei darpar wr sef John Stafford o Kidderminster, Sir Caerwrangon.  Ef oedd y gwr ail-awdurdodol yn un o’r gwersylloedd ac ‘roedd yn cofio y cyfarfod cyntaf.

“Fe ddaeth i’r ty un noson i chwilio am ferched i fynychu y ddawns, ac ‘roedd yn grac iawn am fod y merched am fynd i’w gwelyau, ac ‘roedd y dynion hyn gyda boteli “g” yn hongian o’u pocedi.

“Wedyn cyfarfuom , eto yn ddamweiniol, ar y ffordd a gofynodd i fi ddod allan gydag ef.”

Doedd hi ddim yn siarad Saesneg ac yntau dim yn siarad Rwsieg, felly buont yn caru yn y iaith Almaeneg,  y ddau yn rhannu hon, a phriodwyd hwy 48 o flynyddoedd yn ol, yn Kiel yn y  dalaeth  Almaeneg Ogleddol- Schleswig-Holstein . Y gweinidog oedd y “Padre” fyddinol oedd drwy gyd ddigwyddiad yn Gymro.

“Priodasom a hel ein bagiau a dod yn syth i Loegr gan ein bod am ddechrau rhywle ar ben ein hunain.”

“Aeth John i weithio i’r  Goedwigaedd yn y Bala ac arhosais i gyda ei rieni lle y pigais y Saesneg i fyny.”

Ar ol tymor byr yn y Bala cafodd John swydd fel rheolwr ar stad Falcondale , Llanbedr Pont Steffan.  Pan ddaeth y swydd i ben dywedodd Dosha fod wedi cael digon o symud o amgylch.

“Gofynodd beth oeddwn am wneud a dywedais fy mod am redeg tafarn. Felly dyma edrych am un a dod o hyd i Beehive, ac ‘rydym wedi bod yma ers hynny.”

Fe wnaeth y par ail- adeiladu y tafarn ac mae “bysedd gwyrdd” Dosha wedi gwneud y maes parcio yn llawer fwy llachar gyda’i blodau yn flynyddol.

Mae’r trigolion hynaf , mewn canolfan hanesyddol o anghydffurfiaeth, yn cofio dyfodiad gwraig lety Rwsiaed brydferth yn creu cyffro yn 1955. Nawr mae Dosha yn gymaint o osodyn  ag unrhyw un.

“Hon i’w y wlad orau i fyw ynddo. Mae pobl yn gallu grwgnach weithie ond does neb yn newynnu ac os oes gennych waith fe dylech fod yn iawn, ac os nad oes gennych waith fe gewch eich cynnal” meddai.

“Draw yno mae rhaid i chi weithio yn yr haf er mwyn eich cynnal yn y gaeaf. Mae’r gaeafau yn galed a does dim bydd-dal yno.”

Pan gyrhaeddodd gyntaf ym Mhencader ceisiodd gan ei AS, Megan Lloyd George, gymorth i gael ei mam allan o’r Undeb Sovietaidd ond heb lwyddiant.

Hollol  annisgwyl oedd y llythyr oddiwrth ei chefnder y llynedd.

“’Roeddwn yn meddwl fod fy mam wedi mynd a dyna fe, ond fu Yuri yn ymweld a fy mam a’i chwaer yn gyson ar ol tyfu fynny i redeg negesi drostynt.”

“Fe fyddai yr hen ferched  yn siarad amdanaf, ac ‘roedd fy mam yn gwybod na welsai mohonof eto, ond fe addawodd y bydde yn chwilio amdanaf.”

“Doedd neb yn fodlon cymryd at ei stori, ond dwedodd rhywun wrtho am fynd at y Groes Goch, ond dwedson nhw nag oeddynt yn gwneud llawer a Rwsia.”

“Ond fe ddanfonodd iddynt lun ‘roeddwn i wedi danfon i fy mam, wedi ei dynnu yn yr Almaen yn 1948, ac fe ddarganfuon nhw gyfeiriad o 20 mlynedd yn ol, hwn fe geisiodd a daeth o hyd i mi.”

“Daeth a llun bedd fy mam i mi i’w weld.”

“’Roddwn yn flin a gwnaeth i mi grio, ond ‘roedd yn rywbeth y dylem weld a gwybod amdano, ac ‘roedd yn dda i mi wybod ei bod gyda ei theulu pan fu farw ac ei bod nhw yn edrych ar ol y bedd.”

Mae  Cymry wedi bod yn ysgytwad ddiwylliannol i Yuri. Mae bryniau bach gwyrdd ardal Dyffryn Teifi yn wrthgyferbniad llwyr i fynyddoedd Kirgitzstan lle mae amaethyddiaeth, mwyngloddiaeth, olew a nwy yn brif gynhaliaeth economaedd i boblogaeth o 4.4 miliwn.

‘Roedd dod yma yn beth digon caled.

Teithiodd ffrind  i Dosha, Vicky Knight- sydd yn rhedeg Asiantaeth Teithio Eden yn New Inn, Pencader- i Lundain gyda hi i gyfarfod Yuri oddi ar yr awyren ar ol  ei siwrne o 48 awr.

“Ni allaf ddiolch digon i Vicky gan na fyddem wedi gallu gwneud yr holl hyn ar ben fy hyn. ‘Roedd yn gwybod beth oedd gwneud a ble i fynd.”

Aeth ffrindiau eraill a Yuri i’r Sioe Frenhinol Gymreig.

“Doedd ddim wedi gweld y fath beth erioed, ond ‘roedd ychydig yn drist wrth weld rhieni eraill gyda’i plant ,ac yn meddwl am ei deulu ef ei hun,” medd Dosha. “ ond mae yn hapus  ac mae yn meddwl ei fod yn rhydd, rhwydd a braf i fod yma.

“Nid yw wedi bod allan o Kyrgyzstan ac mae yn agoriad llygad.”

Aeth John ag ef i lan y mor, nid oedd wedi gweld dwr y mor erioed.

“Mae yn braf i’w weld, mae yn fachgen ffein ac mae pawb wedi cymryd ato.”

“Mae am ddod draw eto y flwyddyn nesaf, a dod a’i wraig ac un or plant efo fe.”

Mae Dosha yn ymwybodol na fyddai hi  byth yn dychwelyd i Rwsia er fod diwedd y Rhyfel Oer wedi gwneud hyn yn bosib.

“Mae cyfarfod Yuri wedi bod yn braf ac mae wedi dweud gymaint wrthyf nag oeddwn yn gwybod cynt, ac wedi rhoi y goeden deuluol yn gyfan i mi” meddai.

“Pan yn ifanc nid yw y pethau hyn o bwys.  Pan fyddwch yn mynd yn hyn dyna pryd chi am wybod am eich cyn-deidiau a ble mae eich teulu.”

“Mae wedi bod yn amser hir ers i mi adael Rwsia yn ferch 17 oed, ond ‘rwyf yn gartrefol yma ac mae gennyf ffrindiau ym Mhencader. Ac ‘rwyf wedi goroesi i ddweud yr hanes.”