Bydd gan rieni’r ardal y dewis i ddefnyddio gwasanaeth gwarchod plant newydd yng Ngwyddgrug cyn bo hir. Amcangyfrifir y bydd Little Seedlings ar agor erbyn mis Medi, yn ddibynol ar archwiliad terfynol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Lleolir y gwasanaeth newydd hwn mewn hen laethdy godidog ar dyddyn, wedi’i amgylchynu gan dir amaethyddol, gyda golygfeydd gwych o gefn gwlad. Rydym yn cynnig oriau hyblyg, a gallwn ddarparu gofal amlapio gyda gwasanaeth codi / gollwng.

Mae digon o le parcio preifat oddi ar y stryd a mynediad gwastad di-risiau. Mae digon o le y tu mewn a’r tu allan gyda man chwarae pwrpasol mawr a gardd natur ddiogel.

  • Gofal cartrefol i feithrin a chefnogi’ch plentyn.
  • Dull o arweiniad y blant gyda digon o gyfleoedd i chwarae, gyda phwyslais ar ddysgu trwy chwarae.
  • Grŵpiau bach o oed cymysg sy’n caniatau i frodyr a chwiorydd aros gyda’i gilydd.
  • Treulio llawer o amser yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn.
  • Mynediad i adnoddau celf, crefftau a cherddoriaeth.
  • Teithiau rheolaidd i Ysgolion Coedwig lleol, llyfrgelloedd, traethau, Y Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Cylch Ti a Fi, parciau ayb.
  • Cyfleoedd i blant dreulio amser gydag anifeiliaid.
  • Archwiliad DBS Uwch.
  • Hyfforddedig mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig.
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Mae Little Seedlings yn dilyn yr un gofynion dysgu ag addysgwyr blynyddoedd cynnar eraill, felly gallwch fod yn sicr y bydd eich plentyn yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i ddysgu a pharatoi ar gyfer bywyd yn yr ysgol ac fel oedolion.

fb.me/littleseedlingschildminding

Tel: +44 (0) 7855 420604

Email: littleseedlingschildminding@gmail.com