Hydref Nodiadau

Bob blwyddyn tua’r adeg yma, pan mae’r planhigion yn y gwely blodau’n dal i edrych yn dda, mae’r postmon yn gollwng llwyth o gatalogau bylbiau trwy’r blwch llythyrau, a dyma’r adeg y sylweddolwch yn sydyn bod yr haf yn dod i ben, a bod angen i chi ganolbwyntio ar ddewis bylbiau i flodeuo’r gwanwyn nesaf. Bylbiau cennin Pedr a narsisws yw’r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer plannu yn ein gerddi, a nhw mae’n debyg yw’r bylbiau mwyaf rhwysgfawr o fylbiau’r gwanwyn, ac eithrio’r teulu tiwlip efallai.

Yr hydref yma, rwy’n bwriadu plannu cennin Pedr sy’n tyfu’n weddol fyr, a elwir ar lafar yn ‘cennin Pedr Dinbych-y-pysgod’ (Narcissus Obvallaris). Nid yw’r math yma ar gael mor eang â rhai mathau, ond mae’n genhinen Pedr bach gwych, sy’n ddelfrydol ar gyfer naturoli mewn ardaloedd o laswellt lle mae’n edrych yn fwy naturiol. Os na allwch eu cael yn lleol gellir eu canfod ar-lein yn www.dutchbulbs.co.uk. Gallwch fod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i’r amrywiaeth Narcissus Lobularis (y Cennin Pedr Lenten), sy’n berl o blanhigyn sydd yn ymdebygu’n agos iawn i’n cennin Pedr gwyllt. Dyma un o ddim ond llond llaw o gennin Pedr sy’n frodorol i’r DU, a dywedir taw dyma’r blodyn a ysbrydolodd linellau enwog y bardd Wordsworth. Credaf fod y mathau llai yma, sy’n llai swagar, cystal a rhai o’r mathau mwy modern, sy’n tueddu, yn fy marn i, i edrych bron yn ‘artiffisial’.

Mae carped o grocws yn eu blodau yn olygfa i’w chroesawu’n gynnar yn y gwanwyn. Mae crocws yr un mor dda wedi’u plannu mewn border neu mewn lleoliad glaswelltog, ond cofiwch na fyddwch yn gallu torri’r lawnt lle maent yn tyfu, a all wneud i’r ardal edrych yn flêr nes eu bod wedi marw yn hwyrach yn y gwanwyn. Mae crocws yn fylbiau llai, ac yn gymharol rad, sy’n eu gwneud yn hawdd eu plannu mewn swmp, i greu llifoedd trawiadol o’r holl liwiau amrywiol sydd ar gael.

Wrth gwrs mae yna lawer mwy o fylbiau sy’n blodeuo yn y gwanwyn ar gael o’ch siop arddio leol neu gyflenwr arlein. Nawr yw’r amser i blannu’r mwyafrif o rywogaethau, yn ddelfrydol cyn i’r tywydd droi yn rhy oer a gwlyb. Ceisiwch bob amser gael bylbiau sy’n cael eu tyfu yn y DU, gan fod mwy a mwy yn cael eu tyfu yma nawr. Hefyd gwnewch yn siŵr bod y bylbiau wedi eu tyfu’n fasnachol, ac nid wedi eu casglu o’r gwyllt.

Gobeithio y gwnewch lwyddo i gynhyrchu sioe drawiadol y gwanwyn nesaf yn eich borderi a’ch potiau.

Garddio Hapus,

Old Gumboot

Awst Nodiadau

Mae dyfrhau’r ardd a’r tŷ gwydr yn ymddangos i gymryd llawer o amser ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd heblaw am chwynnu mae hi’n ymddangos i fod y brif dasg yn ddiweddar. Rwy’n siŵr mai’r un i lawer o arddwyr eraill ydy hi ar hyn o bryd. Mae dyfodiad sydyn yr Haf ynghyd â thymereddau sy’n torri recordiadau, wedi golygu bod y nifer o chwyn sy’n egino, yn torri recordiadau sy’n golygu mwy o hofio rhwng y cnydau. Wrth gwrs mae’r tywydd da amser hwn y flwyddyn yn ardderchog i wneud gwair a silwair. Mae’r peiriannau lladd gwair, rhacannau, byrnwyr a pheiriannau lapio wedi bod yn mynd fel cath i gythraul am yr ychydig o wythnosau diwethaf. Mae’r Hen Gumboot ar ei wyliau ar hyn o bryd, ond wedi trefnu i adio’r apel hon i ARDDWYR, CREFFTWYR a CHOGYDDION i ddod yn brysur a pharatoi’ch ceisiadau am y SIOE HWYL ARDD a CHREFFT flynyddol ym mis Medi. Cafodd y rhaglen ei hargraffu yn rhifyn diwethaf ‘Clecs Bro Cader’ ac yn cael ei ail-argraffu yn yr un hwn, a bydd copiau ychwanegol ar gael o’r siopau lleol ac ati yn nes i’r dydd. Mae’r Hen Gumboot yn edrych ymlaen at weld neuadd sy’n llawn o gynnyrch, crefftwaith ac eitemau wedi eu pobi. Fel rwy wedi dweud o’r blaen ‘dewch a gweld yr arddangosion ar y bore Sadwrn’ neu hyd yn oed yn well ‘dewch a chynnig rhywbeth eich hun’.

Mwynhewch y garddio

Old Gumboot

Mehefin Nodiadau

Yn y rhifyn yma o’r Clecs mae’r Hen Botasen yn gobeithio ennyn mwy o ddiddordeb yn y Sioe Arddio a Chrefft fydd yn cymryd lle eleni eto yn y Pafiliwn. Mae amryw o ddosbarthiadau ar gyfer cynnyrch o’r ardd, blodau, planhigion mewn potiau a threfniant ffrwythau a blodau. Does dim rhaid i chi gynhyrchu y foron sgleiniog na’r fanglen dryma, dewch ar gorau y medrwch dyfu, falle ellwch rhagori yn well na eich cymydog eleni. Cewch amdani. Mae nawr yn amser da i ddechrau ar yr ardd, digon o amser i gynyrchu rhywbeth ar gyfer y sioe. Mae yna ddigon o wybodaeth sut i dyfu llysiau yn yr ardd ar gael ar y we, felly pam na ewch amdani. Mae ‘na hefyd ddosbarthiadau blodau a phlanhygion ty, yn cynnwys y blodau mwyaf poblogaidd yn yr ardd, felly meithriniwch ychydig o’ch hoff rai a cheisiwch ddosbarth yn y sioe. Wrth weld faint o raglenni teledu ac erthyglau yn y cylchgronnau sydd ar gael mae yn rhaid fod yna nifer o gogyddion yn y wlad. Mae’r rhan coginio o’r sioe yn boblogaidd fel arfer, edrychwch ar rhaglen y sioe i weld beth allwch goginio eleni. ‘Rwy’n siwr fod yna rhywbeth allwch gynnig arni ac falle ewch aref a gwobr. Gall arlunwyr, ffotograffwyr a chrefftwyr hefyd ymgeisio yn y sioe, mae dosbarthiadau ar gyfer plant o wahanol oedran, y rhain sydd fel rheol yn cynyrchu lluniau ac itemau o wahanol ddefnydd arbennig naillai adref neu yn yr ysgol. Mae ‘na ddosbarth ffotograffiaeth eleni eto, dwed y rhaglen am y gosodiad ar maint. Mae dosbarthiadau eraill yn cynnwys gwaith coed a gwau a.y.y.b. Eleni mae yna wobr newydd, ar waith celf mewn unrhyw gyfrwng. Cyflwynwyd y wobr hon am y gwaith yn nhyb y beirniad fydd wedi plesio fwyaf yn y dosbarth arlunio. Datgelir fwy o fanylion yn y rhaglen. Felly fe welwch fod yna rhywbeth gall y rhan fwyaf o fobl gynhyrchu ar gyfer y sioe, mae yn Sioe Hwyl felly nid ydym yn cymryd y peth yn rhy ddifrifol gan ei gwneud yn achlysur garedig fel bo unrhyw un yn y plwyf yn medru cystadlu, felly pam na geisiwch ar rhywbeth eleni a dewch ar y dydd I weld beth mae pawb arall wedi cynnig arni, a dewch am baned a cacen. A wnaiff pob un sydd wedi ennill tlws neu gwpan yn y gorffennol ddod a nhw yn ol ymhell cyn dyddiad y sioe, gellwch ei gadael gyda Avril yn Y Ty Gwyrdd, fe wnaiff hi edrych ar ei hol.

Mwynhewch y garddio,

Old Gumboot