Mae Clwb Hanes Lleol Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf yn trefnu cyfres o sgyrsiau a chyflwyniadau ar bynciau hanesyddol unwaith y mis heblaw am yr haf. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd yr Ysgol. Llanfihangel, ac maen nhw’n dechrau am 7.30yh. Mynediad ydy £3 sy’n cynnwys lluniaeth a raffl. Gall y sgyrsiau fod yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Hefyd mae’r Clwb yn trefnu taith flynyddol i ardal wahanol bob blwyddyn i weld llefydd o ddiddordeb hanesyddol.

 

Mae’r Clwb wedi cynhyrchu nifer o eitemau sy’n berthnasol i Hanes y Plwyf fel a ganlyn –

1.     Bwrdd dehongli wedi’i leoli ar y sgwâr yn Llanfihangel.

Bwrdd dehongli

2.    Map Hanesyddol y Plwyf (yn Gymraeg) – £3  Cyfieithiad Saesneg – 50c

3.   Hanes y Plwyf drwy Luniau. Llyfr dwyieithog o ffotos hanesyddol – £8

4. Straeon a Strabs. DVD o gofion a chaneuon o Lanfihangel (yn Gymraeg) – £8

5. Teithiau Cerdded Hanesyddol ym Mhlwyf Llanfihangel-ar-arth. Llyfr dwyieithog o 8 taith gerdded – am ddim.

6.   Trydaneiddio Dyffryn Teifi a’r fro 1914 – 2017 gan Calfin Griffiths. Hanes dwyieithog y diwydiant trydanol a’i weithwyr yn yr ardal – £12

Am fwy o wybodaeth cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r cadeirydd, Calfin Griffiths, 01559 384812.