WYTHNOS GARNIFAL 1af – 5ed Awst – HWYL I’R TEULU CYFAN

NOS FERCHER Noson mabolgampau’r plant o 5 o’r gloch oed 4 -14

Noson o fabolgampau traddodiadol yn cynnwys ras ŵy a llwy, bag ffa, Wilber a rasys rhedeg, bydd

tynnu’r gelyn a “British Bulldog”. Bydd medalau yn cael eu dyfarnu i’r 1af,2ail a 3ydd a bydd pob

plentyn yn derbyn “hot dog” am ddim a lluniaeth yn ystod y digwyddiad

NOS IAU Helfa drysor –car

I gychwyn am 6 mynediad £5 y car gyda £20 a tharian yn wobr gyntaf £10 i’r 2il. £5 i’r 3ydd. Bydd y

bar yn agor am 6yh a bydd Jeff Mason yn gweini ei roliau porc blasus….

NOS WENER Noson deuddwrn a chyri

Yn cychwyn am 7yh Gwobrau’n ddibynnol ar nifer y cystadleuwyr. Bar ar agor am 6yh

DYDD SADWRN Diwrnod y carnifal

Canol dydd – gwisg ffansi agored, £5 y plentyn am ddydd o hwyl ar y castell bownsio yn cynnwys

gornest gleddyfol ddeuol. Y ddraig Goch, castell y cawr, a “giant jenga” ynghyd a “Connect 4 enfawr. A

llawer mwy . Bydd 2 ddewis o offer chwarae meddal gyda chastell bychan a llithren ar gyfer y plant lleiaf

£1 am ddiwrnod llawn hwyl. Mae’r ffefryn “Zorbs” yn dod nôl a bydd y dau fwrdd tenis bwrdd ar gael..

Bydd Ambwilans Awyr Cymru’n bresennol , ynghyd a’r Uned Heddlu Symudol, a bydd criw tân rhagorol

Llandysul hefyd yn ein cefnogi eleni eto.

Bydd gorymdaith y fflotiau yn cychwyn o Dolgran am 1yp a bydd y beirniadu’n cymryd lle yn y cae.

Mae gwobr anhygoel o £100 i‘r fflôt a ddyfernir yn 1af. £50 i’r 2il £25 i’r 3ydd. Bydd bwyd a diod da

yn cael ei weini trwy gydol y dydd.

NOS SADWRN Amser partio gyda’r grŵp “Trillbies” band sy’n apelio at bob oed. Bydd yr ocsiwn yn

cael ei gynnal yn ystod y noson a bydd dewis o fwyd cartre yn cael ei ddarparu gan “Grubz”

DYDD SUL ; y ras hwyaid flynyddol…

Tynnu’r gelyn , taflu wyau a bydd “Grubz” yn darparu bwyd trwy’r dydd.

Os hoffech hysbysebu yn rhaglen carnifal eleni Gweler y prisiau isod,

£40 tudalen lawn £25 hanner tudalen a £10 am hysbyseb maint cardiau busnes..

*Stondinau £5 y bwrdd, os bydd angen defnyddio trydan, rydym yn gofyn am gyfraniad tuag gost y

trydan. Rwyf yn eich atgoffa hefyd i ddod a’ch byrddau eich hunain ac os ydych am ddefnyddio trydan i

ddod a’ch cebl gyda chi.

*Gellir cael ffurflenni’r ras hwyaid o:

Farmers Arms

Siop Flodau Avrils

Siop sglodion Pencader

Local Bargain (siop ganol)

Premier (Spar)

Canolfan Deulu

GarejWindy Corner

Rach’s Comb Mirror Scissors

Cylch Meithrin

Ysgol Cae’r Felin

Beehive

Spar (Pontweli)

Valley Services

*Mae’r ras o 1000 hwyaid yn codi arian ar gyfer prosiect cwrt tenis Pencader Mae’r gwobrau ariannol wedi

cael eu noddi’n garedig gan J Davies & son..

*1af £100, 2il prize £60, 3ydd £30, 4ydd £10

Chwiliwch amdanom ar Facebook ‘Pencader Carnival 2018′ neu cysylltwch a mi Jody Williams
07891268009 os ydych am ragor o wybodaeth. .
Croesi bysedd am dywydd ffafriol a gobeithio eich gweld i gyd yng ngharnifal pencader 2018.