Ebrill 2022

Penderfynwyd i beidio cynnal cyfarfodydd ym misoedd Ionawr a Chwefror ond buom yn cadw cyswllt agos yn ein hardaloedd ac yn ymuno ar gyfarfodydd Zoom lle bu hynny’n bosib.

Aeth nifer fach ohonom i gael swper yn y Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin ac ymlaen i weld perfformiad o Shirley Valentine yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ar yr 8fed Mawrth.  Roedd y sgript yn arbennig gan Manon Eames a’r perfformiad yn gampus tu hwnt gan Shelley Rees a gynhaliodd y ddrama gyfan ar ei phen ei hun.  Dyna braf oedd cael mynd i berfformiad byw, lleol a mwynhau gyda’n gilydd unwaith eto.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn paratoi i gael cinio gyda’n gilydd yn Y Mari Glyn, Llanllwni ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn.  Os ydych am ymuno gyda ni er mwyn profi ein cyfeillgarwch a chael blas ar ein hwyl mae yna groeso cynnes.

Gallwch gysylltu gyda i chi:

Fioled Jones 01559 384617,

Gwyneth Alban 07976 276011

Ann Phillips 01559 384558

os ydych am ymuno gyda ni.

Bydd croeso cynnes i chi.