Mae Pwyllgor Carnifal Pencader yn falch o gyhoeddi i ni fedru prynu dau ddiffibriliwr ar gyfer pentref Pencader gyda’r arian a godwyd yn ystod carnifal 2018. Cyfanswm cost y ddau ddiffibriliwr oedd £2800, a lleolwyd un gyferbyn â Thafarn y Beehive a’r llall ar wal siop y Premier er mwyn cynnig mynediad i’r unedau yn nau begwn y pentref.

Wedi cael seibiant yn 2019 rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Carnifal Pencader eto eleni ar ddydd Sadwrn 1 Awst 2020. Cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 7.30 nos Fercher 5ed Chwefror ym Mhafiliwn Pencader a hoffem wahodd unrhyw un sydd â diddordeb i’n helpu i drefnu’r carnifal eleni i ddod.