Cynhaliwyd cyfarfod byr yn y Pafiliwn dydd Llun 17eg Tachwedd ar yr amser cynharach o 4:00yp ac roedd yn dda gweld yr wynebau cyfarwydd eto, hyd yn oed os o bellter o ddau fetr.

Cytunwyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod Cyffredinol Ychwanegol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Rhannwyd yr adroddiad ariannol; newidiwyd y mandadau banc ar gyfer llofnodwyr newydd. Cytunwyd i beidio â chynyddu cyfraddau hysbysebu yn Clecs Bro Cader am gyfnod gan fod hysbysebwyr yn cael amser digon caled yn y pandemig; mae’r rhediad rhagdaledig wedi’i ymestyn i’r rhai nad oedd wedi gallu gweithio yn ystod cyfnod y clo. Mae angen llunio cais grant newydd ar gyfer cyllido dwy flynedd nesaf y cylchlythyr a’i gyflwyno i Statkraft.

Mae’r wefan wedi’i diweddaru gydag eitemau o’r rhifynnau diweddar o Clecs.

Fel y grwpiau cymunedol eraill cytunwyd gohirio’r CCB a oedd fod cael ei gynnal yn Ionawr 2021 nes bod grwpiau mwy o faint yn cael cyfarfod. Bydd y swyddogion presennol yn aros yn eu swydd tan hynny. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Pafiliwn ddydd Llun 21ain Rhagfyr am 4:00yp.

Os ydych chi’n hoffech ymuno i gefnogi’r gymuned byddem wrth ein bodd yn gweld wynebau newydd.

 

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Gallwch ddarllen Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer 2019 YMA.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Pafiliwn ddydd Llun 21ain Rhagfyr am 4:00yp.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Chwefror 2020

Mae yna ychydig o gwynion wedi dod i law ynglyn ag un erthygl yn y rhifyn diwethaf o Clecs, cytunwyd bod rhaid gwneud yn eglur drwy y Clecs Bro Cader bob y barn a fynegir yn farn yr ysgrifennwr/ysgrifennwraig ac nag y Pwyllgor na’r tim golygu. Mae gan y weplyfr gymunedol 345 o aelodau, 30 yn fwy na’r mis diwethaf. Mae Stuart a Chris yn gwneud ymholiadau ynglyn a hirio’r ysgol fel lleoliad ar gyfer y Sioe Ardd a Hwyl ym mis Medi, gan fod y pafiliwn yn rhy fach. Mae angen cyfarfod i drefnu rhaglen.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Ionawr 2020

Dechreuwyd y noswaith gyda’r Cyfarfod Blynyddol,darllenodd Stuart Adroddiad y Cadeirydd (gweler gopi ar wefan Pencader.org) a diolchodd i bawb am ei cymorth yn ystod y flwyddyn. Nid oedd dim enwebiadau ar gyfer newid swyddogion, felly cynnigiwyd ac eiliwyd i gadw y swyddogion fel ag y maent. Dilynodd y cyfarfod misol arferol. Mae Morgan wedi cyfarfod gyda Keith a Jane ac mae yn hapus i gynorthwyo gyda Clecs Bro Cader. Angen awgrymiadau ar gyfer y 100ed rhifyn yn Ebrill. Mae yna broblem wedi bod wrth ymweld ar fersiwn Gymraeg or wefan, mae Emma wedi neud trwsiad dros dro. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw Cofnodion y Plwyf bellach yn cael eu cadw yn y Llyfyrgell Genedlaethol, maent wedi eu dychwelyd i’r Plwyf. Maent ar gael yw archwilio yn y Ficerdy Llanfihangel am bris o £22 yr awr.