Allech chi ein cefnogi ni?
Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.
Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 16fed Rhagfyr am 7:30 pm.
Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.
Hydref 2019
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Stuart Wilson.
Er iddo gael ei argraffu yn hwyr a gyda llai o dudalennau dywedodd y rhai oedd yn bresennol fod rhifyn yr Hydref o’r clecs yn dda. Diolch i Keith a Jane am ei pentantrwydd i gael y rhifyn hon allan. Parhaodd y drafodaeth ynglyn a faint sydd wir yn darllen ei rhifyn or Clecs yn gymraeg. Dwy ieithrwydd yw y peth sydd yn rhwystredig i olygyddion dichonadwy gan fod y rhai sydd wedi dangos diddordeb ond yn siarad saesneg, ac ‘rydym yn pwyso yn drwm ar yr ychydig cyfieithwyr teyrngar o gorlwythog.
Mae lluniau gwych – wedi ei tynnu o’r awyr- o’r gymuned wedi ei gosod ar y wefan, ac mae llawer o itemau wedi eu diweddaru hefyd. Mae nifer ymwelwyr y wefan wedi cynyddu 20%.
Gwneud elw o dros £170 yn y Sioe Ardd a Chreft, chwydd digon anghenus i’r cpffrau. Mae’n edrych yn debyg fydd angen lleoliad fwy o faint ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Awgrymwyd i ddarllenwyr Clecs gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwaith llaw ebyn ddechrau’r flwyddyn, fydd hyn yn galluogi digon o amser i gystadleuwyr dichonol i orffen ei ceisiadau.
Siomedig oedd Glanhau yr Hydref, tri person ddaeth ar y dydd, cyferbyniad awchus i gymharu ar glanhau cyntaf nol ym Mai 2003 pan ddaeth 23 o fobl.
Fe fydd Gwasanaeth y Cofio eto eleni yng nghapel y Tabernacl ar Sul Tachwedd 10ed gyda aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan. Croeso i bawb.
Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.
Yn y cyfarfod Rhagfyr 16ed fydd John Hubert yn dangos sleidiau o’r pentrefi wedi eu tynnu o’r awyr, bydd yna paned a mins peis.
Awst 2019
Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr is –lywydd, Chris Fuller, er fod Stuart yn bresennol ‘roedd yn well ganddo eistedd yn ol.
Mae rhifyn Awst o Clecs wedi ei ddosbarthu ac mae hysbyseb am olygydd newydd wedi ei dosbarthu yn yr ardal ac ar dudalen weplyfr, yn y gobaith daw rhywun ymlaen a cymryd at y swydd.
Mae trefniadau ar gyfer y Sioe Arddol a Chrefft ym mynd yn ei blaen.
Mae Blodau’r Llywydd wedi cael eu beirniadu ac fe gaiff yr ennillwyr eu tystysgrifau yn fuan.
Bydd y Glanhau Hydrefol yn digwydd a’r Hydref 12ed , ac fe fydd y cyngor yn derbyn archeb i gyflenwi yr offer arferol.
Ni fydd cyfarfod yn mis Medi felly y nesaf a’r 21ed Hydref.
Gorfennaf 2019
‘Roedd y Te Mefus yn llwyddiannus iawn ac ‘roedd y nifer ymgeisiodd yn y gemau yn dda iawn,ond ar ol rhyw awr daeth y glaw a chwtogwyd yr hwyl, ond parhawyd gyda rhai o’r gemau dan do. Blwyddyn nesaf gobeithio fydd pethau yn well ond fe wnaeth y digwyddiad roi hwb i gronfa y grwp.
Mae rhagor o waith wedi ei wneud ar y wefan ac mae yn bosib yn awr monitro rhif yr ymwelwyr ac o ba gwlad y maent.
Mae rhifyn mis Awst o Clecs bron yn barod a dylai fod gan yr argraffwyr yn fuan.
Mehefin 2019
Yn anffodus, cyhoeddodd Dotti y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w gwaith fel Golygydd Clecs o ganlyniad i broblem gyda’i iechyd.
Dosbarthwyd Clecs Mehefin a rhoddwyd taflen i hysbysebu’r Te Mefus ym mhob copi lleol. Trafodwyd manylion terfynol ar gyfer y digwyddiad dydd Sul, byddai angen gwobrau raffl a chacennau i’r lluniaeth.
Prynwyd placiau disgrifiadol ar gyfer Gwobr Jane Billington. Roedd Stuart wedi siarad â phrifathrawes yn yr ysgol a dywedodd y byddai’r plant yn paratoi gwaith celf ar gyfer y Sioe ym mis Medi.
Diolch i grefftwr lleol am ailosod yr estyll ar y fainc dderw ger y panel dehongli, mae hefyd wedi cael ei sgwrio a’i lanhau. Mae’r cennin Pedr wedi cael eu torri’n ol a phlannwyd planhigion yr haf yn ei lle. Mae angen gwneud rhywfaint o waith atgyweirio ar y panel dehongli, ond ni wyddom pwy i holi.
wedi ei ddanfon i’r person haelionus.
i’r Grŵp symud gyda’r amser a denu pobl ifanc y gymuned os yw am oroesi.
Comments are closed.