Tag: history

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Ym mis Mawrth, cyn y ‘lockdown’, dywedodd Mary Thomason wrth Glwb Hanes Lleol Llanfihangel-ararth a’r Plwyf am ei hen ewythr nodedig, John Pryce Jones. Plentyn siawns oedd ef a gafodd ei eni yn 1894. Cafodd ei fagu gan eu modrybedd ym Mryn Hafod, Pencader. Aeth i’r ysgol yn y pentref ac wedyn Ysgol Ramadeg Llandysul. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd radd yng nghemeg ffisegol.

Ar ôl gwasanaethu yn y Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i weithio i gwmni Reckitts yn Hull. Yno gwnaeth lawer o ymchwil ar bigmentau a daeth yn enwog am ei waith. Hefyd roedd diddordeb yng ngwenyn ganddo ac astudiodd briodweddau mêl. Cafodd ei anrhydeddu fel FRIC a FLS. Priododd yn 1921 ond yn drist bu farw’i fab ar ol cwympo drwy iâ pan oedd yn 19 oed. Ar ôl ymddeol symudodd John Pryce Jones i fyw ym Moncath a bu farw yn 1956. Mae mwy o fanylion amdano ar y wefan www.pencader.org.uk.

Achos y coronafirws roedd yn rhaid i ni ganslo gweddill ein rhaglen yn ogystal ag ein taith hanesyddol flynyddol. Yn obeithiol gallwn ailddechrau rywbryd yn ystod yr hydref ac aildrefnu’r tair sgwrs a gafodd eu gohirio. Bydd mwy o fanylion yn y cylchlythyr ac ar y wefan uchod unwaith eu bod ar gael.

Hanes teulu

Mae croeso i chi bostio’ch ymholiad neu ddarparu gwybodaeth yma ond does dim gwasanaeth achau’r plwyf ar gael, ac allwn ni ddim gwarantu unrhyw ymateb.
Cofnodion y Plwyf yw ffynonellau da o wybodaeth, nawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a hefyd y Censws. Mae canlyniadau’r Censws o 1841 i 1911 ar gael ar-lein. Hefyd gall copïau’r rhai o 1841 i 1901 eu gweld yn Archifdy’r Sir, Richmond St, Caerfyrddin.

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén