Tag: Regeneration Group

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Gallwch ddarllen Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer 2019 YMA.

Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 16fed Mawrth am 7:30 pm.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Rhagfyr 2019

Estynnwyd croeso gwresog i Morgan Jones o Gwyddgrug a oedd wedi ei weld yn Clecs; mae angen aelodau newydd bywiog gyda syniadau ffres. Cafodd rhifyn Rhagfyr o Clecs ei argraffu a dosbarthu mewn amser cofnodol; mae na lawer o adborth wedi ei dderbyn ynglyn a’r lliw ychwanegol ar drefn cryno. Fydd na ddim beirniadu swyddogol ar y Goleuadau Nadolig eleni. Trafodwyd cyflwr yr heol heibio fferm y Banc ac mae wedi ei hysbysu i Cynghoryddes Linda Evans. Wedyn rhoddodd John Hubert gyflwyniad diddorol o luniau a fideos o wahanol safleoedd yn y gymuned ‘roedd wedi eu tynnu gan camera dron. ‘Roedd mannau cyfarwydd yn edrych mor wahanol o uwchben ar manylion mor glir.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Tachwedd 2019

Cadeirywyd y cyfarfod gan Stuart Wilson. Mae na amryw wedi cymryd fyny hysbysebu yn y Clecs sydd yn cynothwyo gyda cylludo y gost ychwanegol y tudalennau lliw. Mae’r wefan wedi ei diweddaru ac mae rhaglen Eisteddfod Llanfihangel-ar-Arth 2020 ar gael i’w ddadlwytho. ‘Roedd cefnogaeth y gymuned yn y gwasanaeth a’r Sul y Cofio yn Tabernacl yn siomedig, angen gwell hysbysebu a’r gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn i ei hyrwyddo.

Hydref 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Stuart Wilson. 

Er iddo gael ei argraffu yn hwyr a gyda llai o dudalennau dywedodd y rhai oedd yn bresennol fod rhifyn yr Hydref o’r clecs yn dda. Diolch i Keith a Jane am ei pentantrwydd i gael y rhifyn hon allan. Parhaodd y drafodaeth ynglyn a faint sydd wir yn darllen ei rhifyn or Clecs yn gymraeg. Dwy ieithrwydd yw y peth sydd yn rhwystredig i olygyddion dichonadwy gan fod y rhai sydd wedi dangos diddordeb ond yn siarad saesneg, ac ‘rydym yn pwyso yn drwm ar yr ychydig cyfieithwyr teyrngar o gorlwythog.

Mae lluniau gwych – wedi ei tynnu o’r awyr- o’r gymuned wedi ei gosod ar y wefan, ac mae llawer o itemau wedi eu diweddaru hefyd. Mae nifer ymwelwyr y wefan wedi cynyddu 20%.

Gwneud elw o dros £170 yn y Sioe Ardd a Chreft, chwydd digon anghenus i’r cpffrau. Mae’n edrych yn debyg fydd angen lleoliad fwy o faint ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Awgrymwyd i ddarllenwyr Clecs gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwaith llaw ebyn ddechrau’r flwyddyn, fydd hyn yn galluogi digon o amser i gystadleuwyr dichonol i orffen ei ceisiadau.

Siomedig oedd Glanhau yr Hydref, tri person ddaeth ar y dydd, cyferbyniad awchus i gymharu ar glanhau cyntaf nol ym Mai 2003 pan ddaeth 23 o fobl.

Fe fydd Gwasanaeth y Cofio eto eleni yng nghapel y Tabernacl ar Sul Tachwedd 10ed gyda aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan. Croeso i bawb.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Yn y cyfarfod Rhagfyr 16ed fydd John Hubert yn dangos sleidiau o’r pentrefi wedi eu tynnu o’r awyr, bydd yna paned a mins peis.

Awst 2019

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr is –lywydd, Chris Fuller, er fod Stuart yn bresennol ‘roedd yn well ganddo eistedd yn ol.

Mae rhifyn Awst o Clecs wedi ei ddosbarthu ac mae hysbyseb am olygydd newydd wedi ei dosbarthu yn yr ardal ac ar dudalen weplyfr, yn y gobaith daw rhywun ymlaen a cymryd at y swydd.

Mae trefniadau ar gyfer y Sioe Arddol a Chrefft ym mynd yn ei blaen.

Mae Blodau’r Llywydd wedi cael eu beirniadu ac fe gaiff yr ennillwyr eu tystysgrifau yn fuan.

Bydd y Glanhau Hydrefol yn digwydd a’r Hydref 12ed , ac fe fydd y cyngor yn derbyn archeb i gyflenwi yr offer arferol.

Ni fydd cyfarfod yn mis Medi felly y nesaf a’r 21ed Hydref.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

GOLYGYDD NEWYDD I ‘CLECS BRO CADER’

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Olygydd newydd i ‘Clecs Bro Cader’, y Cylchlythyr Cymunedol dwyieithog uchel ei barch ac wedi’i werthfawrogi ar gyfer Pencader a’r Cylch, o fis Hydref 2019 ymlaen.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron, yn fedrus â phrosesu geiriau a rheoli graffeg, gallu cyfathrebu gyda grwpiau eraill yn yr ardal a gweithio i amserlen dynn. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais ond ddim yn hanfodol.

Er does dim tâl am y swydd hon, byddai hi’n bosibl i ad-dalu am nwyddau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i baratoi pob rhifyn.

Mae’r Grŵp Adfywiad wedi cyhoeddi 6 rhifyn y flwyddyn o ‘Clecs Bro Cader’ am ychydig mwy na 12 mlynedd, mae rhifyn 96 newydd gael ei roi ar y wefan.

Os allwn ni ddim dod o hyd i olygydd newydd, yna’r rhifyn olaf fydd yr un mis Awst. Bydd yn drueni o’r mwyaf os bydd yn rhaid i’r gwasanaeth poblogaidd iawn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol, dod i ben.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi dderbyn yr her, cysylltwch os gwelwch yn dda â

Keith Pratt – Ffôn 01559 384412 neu e-bost: pdrg@ffermffynnonwen.plus.com

Jane Griffiths – Ffôn 01559 384987 neu ebost janegriffithsuk@btinternet.com

am fwy o wybodaeth

Te Mefus a Hwyl a Sbri

Gwawriodd bore dydd Sul y 23ain o Fehefin yn heulog a chlir, ond nid oedd y rhagolygon yn dda ar gyfer y prynhawn. Roedd Pwyllgor y Pafiliwn wedi gwneud gwaith gwych yn paratoi’r cae ar gyfer y digwyddiad fel bod modd chwarae gemau a gweithgareddau awyr agored eraill. Sefydlwyd y stondinau taro coconyt, y golff yn erbyn y cloc a wado’r llygoden fawr, a marciwyd y llinellau ar gyfer y mabolgampau.

Cyrhaeddodd y rhieni a’u plant gyrraedd a dechreuwyd chwarae’r gemau, nes i’r glaw ddisgyn awr yn ddiweddarach. Roedd rhai o’r gemau’n addas i’w mwynhau dan do felly fe’u symudwyd i mewn i’r Pafiliwn. Mae’n drueni mawr gan fod pawb yn awyddus i gymryd rhan a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.

Fe aeth y mefus a’r hufen i lawr yn dda hefyd. Mae’r Grŵp Adfywio am ddiolch yn fawr i bawb a helpodd i wneud y prynhawn mor llwyddiannus, p’un a’i a oeddent wedi cyfrannu lluniaeth, cacennau, gwobrau raffl, arian neu eu hamser, rydym yn ddiolchgar iawn. Rhaid diolch hefyd i’r siopau lleol – maent bob amser yn barod i arddangos posteri a helpu pan allant.

Roedd yn brynhawn hwyliog a fydd yn cael ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf.

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén