Diwrnod Hwyl Llanllwni

Diwrnod Hwyl Llanllwni

dydd Sul y 7ed o Orffennaf.

I gychwyn am 1pm yng Nghae Chwarae Llanllwni

Carnifal thema  – Hwiangerddi

  • Sesiwn Stori
  • Mabolgampau
  • Tynnu’r Gelyn
  • Gemau heb ffiniau
  • Sel Cist Ceir

 £2 ar gyfer mynediad (plant cynradd am ddim)

Lot of hwyl a sbri.

 Elw y dydd i’w rhannu rhwng Cffi Llanllwni, Cylch Meithrin Llanllwni, a Cymdeithas a Rhieni Ysgol Llanllwni.  Diolch i Gyngor Bro Llanllwni am noddi y gwobrau.

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 17fed Mehefin am 7:30 pm.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh.

Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Chwefror 2019

Mae y plat Gwili wedi ei osod mewn fram goed; dim ond gwneud plac disgrifiadol sydd angen arno.

Mae Statkraft wedi cytuno yn hael i ariannu y cylchlythr am ddwy flynedd arall. Mae gan y golygydd ychydig o syniadau ar gyfer erthyglau y dyfodol ond hoffai ofyn i’r darllenwyr am beth hoffent weld. Bydd yn bosib o hyn ymlaen cael rhagor o dudalennau lliw.

Mae person gwirfoddol wedi cynnig gwneud cafn newydd yn Ardal y Panel ac hefyd rhoi pris am drwsio y fainc pren caled.

Gwnaethpwyd amryw o gynigion ar sut i godi arian yn y misoedd nesaf. Gwelir hysbysebion mewn mannau eraill yn y rhifyn hwn.

Ionawr 2019

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar nos Lun Ionawr 21ed.

Cytunwyd yn unfrydol fod y swyddogion presennol yn sefyll yn ei swyddi am flwyddyn arall; diolchodd Stuart y Grwp am ei holl waith caled yn ystod 2018.

Gobeithio fydd y wefan newydd yn fyw ymhen ychydig wythnosau; mae angen ail-ysgrifennu y wybodaith cefndirol gwreiddiol gan ei fod wedi hen ddyddio. Mae angen ail-ysgrifennu Cyfeilyfr y Plwyf hefyd.

Mae na angen gwaith ar y celfi yn Ardal y Panel Dehongli; fydd na ymchwiliadau i gostiau a.a.

Rhagfyr 2018

Mae cais Grant i ariannu y Clecs am y ddwy flynedd nesaf wedi ei baratoi ac fe fydd wedi ei gyflwyno i Statkraft mewn da bryd ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Derbyniwyd nifer o sylwadau canmoladwy am y clawr tymhorol Clecs mis Rhagfyr.

Mae’r gwaith ar y wefan yn parhau, y cyfieithiad Cymraeg bron yn barod. Adroddodd John fod cyfanswm o 125 o wledydd wedi ymweld ar safle, y mwyaf diweddar- Moldova.

Cynnigiwyd cael plat arbennig fel tlws ar gyfer y dosbarth newydd- Gwaith Celf- os fydd yn bosib ychwanegu enw yr ennillydd.

Mynegwyd pryder ynglun a diffyg goleuadau stryd ar y briffordd rhwng Beehive ar hen Swyddfa Bost.

Tachwedd 2018

Penderfynwyd dychwelyd at y syniad o 6 hysbyseb i’r Clecs am bris 5 pan fyddant wedi archebu o flaen llaw. Mae yr unig brisiant am argraffu a dderbynnir dipyn yn uwch nag oedd yn y blynyddoedd cynt, ni atebodd yr argraffwyr eraill i’r cais am brisiant.

Dangosodd Emma i’r grwp rhai or newidiadau sydd yn cael eu gwneud ar y safle er mwyn ei wneud yn fwy modern a chyson gyda thechnoleg modern fel ffoniau symudol a thabledi.

Mae y Sioe Ardd a Chrefft wedi derbyn £40 ar gyfer gwobr i ddosbarth newydd fel “Gwaith Celf Gwreiddiol” er cof am Jane Billington. Mae Cwpan Cynnyrch newydd wedi ei brynu a’i gyflwyno i’r ennillydd eleni.

Hydref 2018

Mae angen cyflwyno cais am Grant i gyllido Clecs am y ddwy flynedd nesaf i Statkraft, ond nid yw Proprint wedi ateb gydag amcangyfrif pris argraffu eto. Cytunwyd i fynd yn ôl at gyhoeddi chwe copi’r flwyddyn o fis Ionawr 2019 os gallwn gael yr arian. Cyflwynodd John Emma Price i’r Grŵp; roedd hi wedi ateb ei gais am help gyda’r wefan, ac roedd hi’n llawn syniadau defnyddiol ac yn wybodus iawn am gymhlethdodau dylunio gwe. Bydd yn help enfawr gyda hyn.

Ceir adroddiad mewn man arall ar y Sioe Ardd a Chrefft, ond roedd yn dda gweld cymaint o luniau wedi eu peintio gan y plant ysgol eleni.

Awgrymodd Stuart y dylid cynnal cwrdd coffa arbennig yn y Capel neu’r Eglwys i goffáu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd pawb yn cytuno ei fod yn syniad gwych. Bydd yn cysylltu â Mrs Lewis o’r Tabernacl.

 

 

 

*** Carnifal Pencader ***

Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi na fydd Carnifal yn y pentref eleni. Rydym yn sylweddoli y bydd llawer yn siomedig iawn, ond mae’r Pwyllgor wedi lleihau i ddim ond 3 aelod gan ein bod wedi colli 3 aelod gweithgar iawn oherwydd amgylchiadau personol. Roedd y 3 aelod arall yn ei chael hi’n anodd iawn hefyd eleni i sicrhau digon o amser sbâr i barhau â’r paratoadau. Roedd yn benderfyniad anodd iawn i’w gymryd ond gobeithiwn atgyfodi’r carnifal yn 2020. Gobeithiwn gynnal CCB ym mis Ionawr 2020 yn y gobaith o fedru recriwtio aelodau newydd gweithgar a brwdfrydig. Byddwn yn cyhoeddi dyddiad pendant yn nes at yr amser.

 Ymddiheuriadau unwaith eto.

 Pwyllgor Carnifal Pencader x

Merched y Wawr Pencader a’r Cylch

Ym mis Ionawr daeth Clinig Bach y Wlad I ymweld a ni yn y Pafiliwn ym Mhencader.
Dangoswyd inni sut oedd gwneud adweitheg ar ddwylo ein gilydd. Aeth pawb adref gyda bysedd llawer mwy heini a dwylo meddal. 

Chwefror yw mis ein cinio blynyddol. Cawsom wledd arbennig yng ngwesty Yr Hebog Caerfyrddin a gwledd arall i ddilyn gan ein gwr gwadd Mr Tweli Griffiths sydd yn enedigol o Bencader.

Mis Mawrth cawsom wahoddiad i ymuno a grwp Peniel. Cawsom arddangosfa flodau hyfryd a’r gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi a phryd blasus o gawl a phwdinau Cymreig i ddilyn. Gwych iawn a’ cyfan wedi ei baratoi gan Gareth Richards Llanwnnen.

Ar gyfer ein cyfarfod ni ym mis Mawrth byddwn yn gwahodd dysgwyr Cymraeg lleol i ymuno a ni am noson o Ganu Gwerin yn festri Capel Nonni Llanllwni.

Mis Ebrill fydd y gangen yn paratoi Te Prynhawn yn neuadd yr hen ysgol Llanfihangel ar Arth i ddathlu hanner can mlwyddiant y gangen. Dewch i ymuno a ni, tocynnau ar werth gan yr aelodau.

Elw tuag at Prosiect Miwsig Merched y Wawr a Canolfan Dementia Prifysgol Cymru.

Cadw yn heini

Keep Fit Poster

Promote fitness sessions

Clecs Bro Cader

Cylchlythyr cymunedol 94

Clecs Bro Cader 94

Cylchlythyr cymunedol ar gyfer ardal Pencader sy’n cynnwys

Mae fersiwn ar-lein o’r rhifyn diweddaraf ar gael yma

lanhad y Gwanwyn

Plis dewch i’r Pafiliwn bore Sadwrn Ebrill 13fed

erbyn 10.00 y.b.at gyfer y Glanhau Gwanwyn.

Mae angen helpwyr o bob oedran i gasglu sbwriel ag ati yn y mannau canolog yn y pentref.

Darperir pob offer a bydd lluniaeth ysgafn a’r gael at y diwedd.

 

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Llywyddion / Presidents – Mr & Mrs Gwynfor Davies

/>

Canlyniadau / Results

Llwyfan – Sesiwn cyfyngedig / Stage Local Section

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Dafydd, Llandysul

3 Gwenlli Davies Llandyfrïog

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Mair Dafydd

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenlan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Mari Lois Jones, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Gwenan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Gwenllian Dafydd ,Llandysul

3 Mari Lois Jones, Llanllwni, Elinor Sian Williams Pencader, Magw Fflur, Llandysul

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Mali Macdonald, Pencader

Canu Emyn a Chwpan er cof am Freddy Brooker / Hymn Singing and Freddy Brooker Memorial Cup

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Lloyd Owen

3 Mari Lois Jones & Hanna Grug Jones, Llanllwni


Parti Canu – Ysgol Cynradd / Singing Party, Primary Age

1 Parti Merched Bro Teifi

Enillydd Cwpan Her er cof am Mr a Mrs Hughes gynt o Brownhill / Winner of Mr & Mrs Hughes, formerly of Brownhill Memorial Challenge Cup

Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llwyfan Sesiwn Agored / Stage Open Section

Cynradd / Primary

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Morgan Teifi Gwynedd, Pontyberem

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Ella Gwenlli, Tregaron

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Ella Gwenlli, Tregaron

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Betsi May, Rhydaman

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Hanna Jones, Llanllwni

2 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

3 Rhun Thomas & Non Thomas, Talgarreg

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

2 Non Thomas, Talgarreg

3 Hana Jones, Llanllwni & Rhun Thomas, Talgarreg

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenan Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Trystan Bryn Llambed

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin & Mari Lois Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Offerynnol – Ysgol Gynradd a Gwobr Valerie Davies (£20) / Instrumental Solo – Primary Age and Valerie Davies Prize (£20)

1 Alwena Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

Alaw Werin – Ysgol Gynradd / Folk Singing Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Trystan Bryn, Pumsaint

Cerdd Dant – Ysgol Gynradd / Cerdd Dant Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Ela Gwenllian Tregaron

Uwchradd / Secondary

Llefaru Blwyddyn 7 – 9 / Recitation Years 7 – 9

1 Elen Morgan Drefach, Llanybydder

Unawd Blwyddyn 7 – 9 / Solo Years 7 – 9

1 Siwan Mair Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 10 – 13 / Recitation Years 10 – 13

1 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Blwyddyn 10 – 13 / Solo Years 10 – 13

1 Hana Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Offerynnol Ysgol Uwchradd a Chwpan Teulu Maesybwlch / High School Instrumental Solo & Maesybwlch Family cu

1 Heledd Jones, Saron

2 Lefi Dafydd, Eglwyswrw

3 Elen Morgan, Drefach

4 Gwion Jones ,Caerfyrddin

Agored / Open

Alaw Werin – Agored / Folk Song Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

3 Siwan Jones, Caerfyrddin & Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Cerdd Dant – Agored / Cerdd Dant Solo Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Alwena Owen, Llanllwni

Parti Canu / Côr – Agored / Singing Parti Open

1 Parti Siriol, Sioned & Sioned

Deuawd – Agored / Duet Open

1 Sioned a Siriol Howells

Cân fodern neu gân allan o sioe gerdd / Modern song or song out of a musical

1 Sioned Howells, NewInn

Darllen o’r Ysgrythur – Agored / Reading from the Bible – Open

1 Maria Evans

2 Alwena Mair Owen

3 Sioned Howells & Sioned Bowen

Canu Emyn – Agored a Chwpan er cof am Noel James / Hymn Singing – Open and Cup in Memory of Noel James

1 Sioned Howells, New Inn

2 Sioned Bowen

Her Unawd 19 – 25 / Challenge Solo 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Her Llefaru 19 – 25 / Challenge Recitation 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – Darn Digri / Welsh Eisteddfod Society Competition

1 Hanna Medi Davies

‘Sgen ti dalent?’ / ‘Do you have Talent?’

1 Bet a Dawn

2 Siriol & Sioned Howells, NewInn

Her Adrodd / Challenge Recitation

1 Maria Evans

Enillydd Cwpan Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn yr Adran Agored / Winner of the Western Power Cup for the most promising performance in the Open Section

Heledd Jones, Saron

Adran Lenyddiaeth / Literature Section

Y Gadair / The Chair

Rachel James, Boncath

Cân Ysgafn / Amusing Poem

Mary B Morgan, Llanrhystud

Cerdd Rydd / Free Verse

Mary B Morgan, Llanrhystud

Englyn

Nia Llywelyn, Llandysul

Limerig / Limerick

Delyth Lewis, Aberystwyth

Erthygl yn addas i Bapur Bro / Article Suitable for a Local Newspaper

MeganRichards, Aberaeron

Stori Fer / Short Story

IonaEvans, Abergele

Cwpan Coffa Gwilym Walters am y darn gorau o ryddiaith yn Adran yr Oedolion / Gwilym Walters Memorial Cup for the best piece of writing in the Adult Section

Iona Evans, Abergele

Dysgwyr / Welsh Learners

Raymond Williams, Llanybydder

Brawddeg / Sentence

Eilir Jones, Pencader

Meithrin a Derbyn – Llun a Brawddeg / Nursery and Reception – Picture and Sentence

1 – Lara Thornton, Castell Newydd Emlyn

2 – Rhun Thomas, Talgarreg

3 – Elliw Grug Davies, Llanybydder

Blwyddyn 3 & 4 – Stori / Years 3 & 4 – Story

1 – Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

2 – Gwenno Francis, Boncath

Blwyddyn 7 – 9 – Stori / Years 7 – 9 Story

1 – Lefi Aled Dafydd

2 – Elen Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Blwyddyn 10 – 13 – Stori / Years 10 – 13 – Story

1 – Sara Elan – Cwmann

Enillydd Tarian Gwenllan am y darn gorau o waith yn Adran Lenyddiaeth y Plant / Winner of the Gwenllan Shield for the best piece of writing in the Children’s Section

Lefi Dafydd, Eglwyswrw

Tlws yr Ifanc / Young People’s Literature Prize

Sioned Howells, NewInn

Llawysgrifen / Handwriting

Lan i Flwyddyn 2 / Up to Year 2

1 – Lola Griffiths, Caerfelin

2 – Beca Evans, Ysgol y Ddwylan

3 –StanleyDavies, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Dylan Bro Teifi

2 – Katelyn, Bro Teifi

3 – Chloe, Bro Teifi

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Beca Dwyryd, Porthmadog

2 – Elan Evans, Ysgol Llanllwni

3 – Tudur George, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 7 – 9 / Years 7 – 9

1 – Gwion Huw Jones, Caerfyrddin

Celf / Art

Meithrin a Derbyn / Nursery and Reception

1 – Ioan Davies, Llanfihangel-ar-arth

2 – Elsi Williams, Ysgol Caerfelin

3 – Martha Bellis, Ysgol Llangynnwr

Blwyddyn 1 & 2 / Years 1 & 2

1 – Holly Thomas, Ysgol Caerfelin

2 – Trystan Morris, Ysgol Caerfelin

3 – Ina Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Ruby Powell, Ysgol Caerfelin

2 – Chloe Harries, Ysgol Caerfelin

3 – Jac Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

2 – Ffion Lovell, Ysgol Caerfelin

3 – Maddison Driscoll, Ysgol Caerfelin

Cwpan Her er cof am Heledd Griffiths / Winner of The Heledd Griffiths Memorial Cup

Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

Celf – Agored / Art Open

1 – Michelle Davies, Llanfihangel-ar-arth

Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol Moduron Gwledig

Angen ymweld a’r feddygfa, cadw apwyntiad, casglu eich pensiwn neu siopa angenrheidiol.

Mae Moduron Gwledig yn weithredol unwaith eto, ac mae a’r gyfer trigolion Pencader a’r cylch sydd heb unrhyw fodd o gludiant.

Bydd y teithiau o fewn talgylch o 20 milltir i’r feddygfa, optegydd, traedfeddyg, materion busnes, siopa angenrheidiol neu i gyfarfod bws, tren a y b.

Codir tal cymhedrol yn ol milltiroedd y teithiwr.

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael Modur Gwlad, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gyrru i’r cynllun Moduron Gwledig am fwy o fanylion cysylltwch:

Mrs. J. Jones, Rhif ffon 01559 384736

Canolfan Deuluol Newyddion

Dechreuwn y flwyddyn newydd gyda chyfarchion i holl ddefnyddwyr y Ganolfan ac i deuluoedd sydd eto heb gymryd mantais o beth sydd gan y Ganolfan Deuluol i gynnig.

Fel mae hwn yn mynd i’w argraffu, mae gennym wibdaith i weld cyflwyniad byw o’r Dywysoges Gysglyd yn Neuadd Goffa Burry Port, ac ‘rydym yn gobeithio dilyn hyn gyda rhagor o deithiau drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein teithiau yn costio y lleiafswm i ddefnyddwyr y ganolfan ac os ydych yn gwybod am unrhyw un fydde yn elwa o ambell ddiwrnod allan i lefydd o ddiddordeb cysylltwch os gwelwch yn dda.

‘Rydym yn croesawi ymweliadau unrhyw bryd, mae y ganolfan ar agor 9 tan 3 ar ddydd Mawrth a dydd Iau, ac 9 tan 12 ar ddydd Mercher.

‘Rydym yn gweithredu Co-op bwyd pob dydd Iau sydd yn caniatai lluniaeth iachus!

Peidiwch anghofio hefyd ein bod yn cynnig yn annffurfiol hyforddiant ac ymarfer cyfrifiaduron. Os oes unrhywun am wirfoddoli plis cysylltwch. Manylion yn y Dyddiadur Cymunedol.

Page 1 of 5

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén