Golygfa o'r pentref Pencader

Pencader pentref o’r gogledd

 

Prif anheddfa yr ardal yw Pencader.

Mae enw Pencader yn dod o’r bryngaer Oes Haearn sy’n edrych dros y pentref. Yn y ddeuddegfed ganrif adeiladwyd castell gan y Normaniaid. Daeth Pencader yn ganolfan bwysig am Ymneilltuaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg (gweler Mannau Diddorol). Gwellodd tyfiant y diwydiant gwlân yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyrhaeddiad y rheilffordd yn 1864, gyfathrebu a chreuodd fasnach. Mewn llai na chan mlynedd caeodd y melinau a dileuwyd a datgymalwyd y rheilffordd. Daeth Pencader yn llai pwysig fel canolfan gyflogaeth yn cymharu â’r trefi cyfagos. Datblygwyd rhan helaeth y pentref presennol yn y ddau gant diweddar o flynyddoedd. Adeiladwyd stad mawr tai Cyngor yn y 1970au ac yn nes ymlaen ychwanegwyd dau glwstwr llai o dai mewn mannau eraill.

Mae gan y pentref ei hun dwy siop bob peth, siop arddio, caffe, un salon gwallt, eglwys, un gapel, cartref preswyl a chapel gorffwys yn ogystal â busnesau bach eraill. Tu mas i’r pentref mae ffatri cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes.  Adeiladwyd yr ysgol gynradd gymunedol yn ddiweddar ac mae hi’n gwasanaethau’r ardal yn dda. Mae’r Pafiliwn yn gweithio fel neuadd cymunedol ynghyd â’r Hen Gapel a Neuadd yr Eglwys. Yn ddiweddar mae cartref gofal i oedolion ifainc ag anabledd dysgu wedi agor. Mae carnifal blynyddol gan Bencader.

I gael gwybodaeth am fusnesau a chyfleusterau lleol gwelwch, CYFEIRIADUR Y PLWYF.

Awyrlun o dde Pencader