Archifau

Categorïau

free counters

Taith Tractorau Dolgran

Ar fore hyfryd o wanwyn, Ddydd Llun y Pasg, daeth 44 o dractorau i Dolgran, y rhan fwyaf ohonynt yn hen iawn, i fynd ar daith tractorau. Roeddent wedi dod cyn belled a Llangyndeyrn yn y de a Llangwyryfon yn y gogledd. Roedd yn hyfryd hefyd, i weld cynifer wedi dod ynghyd i ddymuno’n dda ac i weld y tractorau yn dechrau eu taith. Wedi mynd trwy Dolgran, anelwyd am Capel Ffynnonhenri, ac ymlaen i Esgair, Cynwil Elfed, Blaenycoed, i Pumpheol, Hermon a gorffen yn Llangeler, lle yr oedd pryd da o fwyd yn eu haros. Bu’r daith eleni eto yn lwyddiant ysgubol, codwyd £3200 tuag at Ymchwil i ‘Alzheimers’ yng Nghaerdydd. Trefnwyd y daith gan Tom Lewis a dymuna ddiolch i bawb a gyfrannodd tuag at y digwyddiad, drwy roi gwobrau raffl, prynu raffl, gyrwyr y tractorau a’r bobl wnaeth noddi’r gyrwyr, nifer ohonynt yn cynnig noddi heb ofyn iddynt.

DIOLCH YN FAWR IAWN I BAWB.