Archifau

Categorïau

free counters

Atgofion am Pentre Draw

Tybed faint o drigolion Pencader, hen ac ifanc sydd wedi clywed am Pentre Draw. Dyma ran o’r hen bentref Ile trigai rhan fwyaf o’r crefftwyr. Cymerwch yr heol sydd yn arwain at yr eglwys, yn gyntaf fe ddewch at yr Hen Gapel, capel yr Annibynwyr, ar un adeg ‘roedd yma stabl i bedwar ceffyl, ac hwn hefyd oedd y neuadd leol ar gyfer cyngherddau. Ar ôl hyn fe ddewch at hen bont rheilffordd, sydd ddim yma bellach, Ile gallech gysgodi rhag y glaw. Nesaf fe welech weithdy Lewis y Gof Ile gallech brynu cantiau am swllt a chwe cheiniog. Ar yr ochr arall i’r ffordd mae yn dal yna adeilad o waith cerrig Ile y cedwir y math o hers a dynnwyd gan geffyl, dim ond rhyw 6 o weithiau y gwelais yn cael ei ddefnyddio.

Wedi croesi’r bont fe ddewch at Tŷ Arddol a’r felin o eiddo Mr Thomas Lewis, un o bedair yn yr ardal gyda thŷ cerrig wrth ymyl a adeiladwyd a’r gyfer y gwehydd. Nesaf fe ddewch at res o dai Ile trigai Mr Sam Davies, saer Ileol, yn un ac yn un arall Miss Winnie Davies, athrawes. Hon oedd yn edrych ar ôl y rhai oedd newydd ddechrau yn yr ysgol ynghyd hefyd â dosbarth 1, swydd a gyflenwodd am ddeugain mlynedd.

Ychydig oddi ar y ffordd ‘roedd yno dyddyn o’r enw Troedrhiwfer, mae’r tŷ nawr yn adfail gan nad oes neb wedi byw yno ers dros 30 mlynedd. Wedyn fe ddewch at yr ysgol gyda thŷ ynghlwm lle ‘roedd Mr James Davies yr ysgolfeistr yn byw yn y 1930au. ‘Roedd y iard wedi ei darmacio ac ‘roedd yno “tai bach” gyda gorlif dwr. Tu cefn i’r ysgol ‘roedd yr Hen Gastell, wedi ei orchuddio a phorfa ers cryn amser, does gen i ddim cof am gloddio yno. Ychydig i ffwrdd o’r heol mae Egiwys Santes Fair ac ychydig ymhellach ‘roedd mans gweinidog yr Annibynwyr Mr T Lloyd Jones, Ffynnon Fair, sydd bellach yn dŷ preifat.

Heol y Castell sydd nesaf Ile trigai y teiliwr Ileol. Ochr draw yr oedd gweithdy Tom Jones y cyfrwywr, fe oedd yn gwneud yr holl wregysau ar gyfer y ceffylau ceirt. Yn Castle View trigai teiliwr oedd wedi ymddeol a drws nesaf postmon, a hithau hefyd wedi ymddeol. Wedyn dewch at College House, tŷ gyda phedair ystafell wely a chysylltiad â’r diwydiant wlân cyn 1925. Nesaf ar y rhestr mae Siop Coedmor, eiddo i ddwy chwaer Misses Lizzie ac Annie Jones, gwerthwyd yno bopeth heblaw cynyrchion Ilaeth a phopty, hwn oedd y “tuck shop” Ileol.

Ar ôl hyn fe ddewch at Green Vale lle ‘roedd y cigydd Ileol Mr Stanley Evans a’i deulu yn byw, ‘roedd yno ladd-dy hefyd. Wedyn dewch at Cader Vale, mewn un o’r rhain ‘roedd Mr Evan Dan Davies (Evidan), un o’r goreuon o bysgotwyr eogiaid yn byw, fe arferai fynd i hela cwningod hefyd er mwyn bwydo ei chwe plentyn. Ymhellach ymlaen ‘roedd sied Mr Tom Rhys Williams y Crydd. Arferai hwn wneud gwadnau ar gyfer clocsiau ‘roedd wedi eu torri o goed Ileol. Yma oedd man cyfarfod gyda’r nos ar gyfer clonc. Nesaf fe ddewch at adfeilion bwthyn Ile ganed arweinydd y cor enwog sef Côr Plant y Mormoniaid, ymfudodd y teulu i’r Amerig. Mae yna rai o emynnau a gyfansoddodd yn eu Ilyfr emynnau. Wedyn fe ddewch at fferm ffowls, Ysgubor, a warchodwyd gan wraig y crydd, ‘roedd ganddynt tua 60-80 o ieir, yma gwelais gywion yn cael ei geni mewn deorydd. Fel mae pethau wedi newid. Hyn oedd yn adeg 1930au.

Dyddiau difyr ac atgofion plentyndod.

(Treuliodd yr awdur ran helaeth o’i plentyndod ym Mhencader.)

Cyhoeddwyd gyntaf yn “Clecs” ym mis Mehefin 2011