Archifau

Categorïau

free counters

GOLYGYDD NEWYDD I ‘CLECS BRO CADER’

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Olygydd newydd i ‘Clecs Bro Cader’, y Cylchlythyr Cymunedol dwyieithog uchel ei barch ac wedi’i werthfawrogi ar gyfer Pencader a’r Cylch.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron, yn fedrus â phrosesu geiriau a rheoli graffeg, gallu cyfathrebu gyda grwpiau eraill yn yr ardal a gweithio i amserlen dynn.

Er does dim tâl am y swydd hon, byddai hi’n bosibl i ad-dalu am nwyddau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i baratoi pob rhifyn.

Mae’r Grŵp Adfywiad wedi cyhoeddi 6 rhifyn y flwyddyn o ‘Clecs Bro Cader’ am ychydig mwy na 12 mlynedd: mae rhifyn 87 gael ei roi ar y wefan.

Os allwn ni ddim dod o hyd i olygydd newydd, yna’r rhifyn olaf fydd yr un mis Rhagfyr; bydd yn drueni o’r mwyaf os bydd yn rhaid i’r gwasanaeth poblogaidd iawn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol, dod i ben.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi dderbyn yr her, cysylltwch os gwelwch yn dda â

John Hubert – webmaster@pencader.org.uk neu

Jane Griffiths – Ffôn 01559 384987 neu ebost janegriffithsuk@btinternet.com

am fwy o wybodaeth