Archifau

Categorïau

free counters

Merched y Wawr Pencader a’r Cylch

Gwyneth Alban yn cyflwyno blodau i Siân Davies

Ar Nos Wener Mai 5ed, cynhaliwyd Noson Goffi yn y Pafiliwn Pencader i godi arian i ymchwil Cancr, Ysbyty Glangwili ac i’r gangen. Croesawyd y dyrfa luosog ddaeth ynghyd gan lywydd Cangen Pencader a’r cylch, Mrs Gwyneth Alban, hi hefyd croesawodd y wraig wadd, sef Mrs Siân Davies, Prif athrawes Ysgol Cae’r Felin.

Rhoddodd Mrs Davies anerchiad bwrpasol iawn gan olrhain ychydig o’i hanes cyn dod i Bencader, gwnaeth hefyd gyfrannu yn hael iawn tuag at y noson. Plant ysgolion Sul Tabernacl Pencader a Gwyddgrug fu yn diddori, ac roedd yn hyfryd eu gweld o’r lleiaf hyd yr hynaf yn mwynhau. Ar ddiwedd y noson roedd yn braf nodi fod elw o dros £300 wedi’i wneud. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson.

Estynnir Croeso Cynnes i aelodau newydd i ymuno ȃ ni. Am ragor o fanylion cysylltwch ȃ Mair ar 01559384283