Archifau

Categorïau

free counters

Mannau Diddorol

Y Caer, Pencader – nawr rhan o fferm Banc yn edrych dros y pentref. Bryngaer yr Oes Haearn yw ef a gafodd ei ddefnyddio hefyd, mae’n debyg, ar ôl y goresgyniad Rhufeinig. Mae enw’r pentref, Pencader, yn dod o’r safle hwn. Yn ôl traddodiad prif ganolfan pennaeth lleol oedd ef ac mae’r enw yn dod o ‘Pen’ a ‘Cader’. Eglurhad arall yw bod Pencader yn golygu caer ar ddiwedd y crib ac yn sicr mae ef.

Y Caer, Pencader

Y Caer, Pencader

Craig Gwrtheyrn, Llanfihangel – mae bryngaer yr Oes Haearn hwn yn edrych dros afon Teifi. Yn ôl traddodiad dyma le bu farw Gwrtheyrn. Pennaeth Prydeinig oedd Gwrtheyrn yn y bumed ganrif, a gredir, a wahoddodd Hengist a Horsa i Brydain ac felly dechrau’r mewnlifiad gan yr Eingl, Jiwtiaid a Saeson.

Crown copyright: RCAHMW / Hawlfraint Coron Prydain: CBHC

Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel – eglwys wreiddiol y plwyf yw hon. Mae ei henw yn awgrymu fe’i hadeiladwyd  ar safle crefyddol cyn-cristnogol efallai mor gynnar â’r chweched ganrif. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg gydag ychwanegiadau diweddar. Mae hi’n cynnwys carreg fedd gydag ysgrifen Ladin arno yn dyddio o’r amser yn fuan ar ôl diwedd yr adeg Rhufeinig.

 

Castell, Pencader – ar bwys yr hen ysgol. Mae e’n cynnwys mwnt a beili a adeiladwyd gan Gibert de Clare yn 1145 ond defnyddiwyd ef am dim ond ychydig o flynyddoedd. Mae’r hen ysgol yn sefyll ar ran y beili.

Crown copyright: RCAHMW / Hawlfraint Coron Prydain: CBHC

Mwy o wybodaeth am y castell ar gael yn CESTYLL CYMRU AR WEFAN
Plac Hen ŵr o Bencader – cyferbyn y Pafiliwn, Pencader. Yn ôl Gerallt Cymro yn y ddeuddegfed ganrif, gofynnodd Harri’r ail, Brenin Lloegr, i hen ŵr o Bencader beth oedd ei siawns o drechu’r Cymry. Cofnodir ateb bythgofiadwy’r hen ŵr ar y plac yn y Gymraeg. Gweler HANES Old man plaque
Cymhwplyn, Pencader – dechreuodd Ymneilltuaeth yn y rhan hwn o Gymru yn 1650. Yn wreiddiol cynhaliwyd cyfarfodydd yn y tai ond gyda’r nifer yn bresennol yn codi ac erlid parhaol defnyddiwyd Cwmhwplyn yn chwedegau a saithdegau’r un ganrif oherwydd iddo roi olygfa dda dros y ffordd rhag ofn byddai’r milisia yn ymddangos. Cwmhwplyn
Hen Gapel, Pencader – y capel annibynnol Cymraeg hynaf yn yr ardal. Adeiladawyd ef yn 1785 ac ail-adeiladwyd yn 1827 ond ni ddefnyddiwyd ar ôl 1909 pan agorwyd Capel Tabernacl. Defnyddir ef nawr ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Tolldy, Alltwalis – mae hwn yn sefyll ar y ffordd fawr drwy’r pentref. Cydnabyddir ef gan ei siap onglog nodweddiadol. Defnyddiwyd ef i gasglu tollau o ddefnyddwyr y fordd yng nghanol y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Yn wreiddiol byddai wedi bod, hefyd, clwyd ar draws y ffordd.
Melinau Gwlân – mae nifer o felinau gwlân gwag yn yr ardal. Roedd y diwydiant gwlân yn ei anterth ar ddechreuad yr ugeinfed ganrif. Y felin yn y cyflwr gorau oedd Arddol yn Heol y Castell, Pencader. Yn anffodus cafodd ei dymchwel yn 2004.

Mae gwefan coffaol ar http://arddol.tumblr.com/

arddol-mill-1600