Archifau

Categorïau

free counters

Gweithdy Naddu Pwmpen a Pharti

Dydd Sadwrn 27 Hydref yn y Pafilwn

‘Roedd hwn yn lwyddiant ysgubol gan y plant yn ogystal ar rhieni. Gwnaethpwyd llawer o wynebau dwl yn gwenu gyda chymorth Louisa Lovell a Chris Fuller tra bod Frances Fuller yn archwilio defnydd pwmpen fel cynhwysydd blodau yn ei gyfanrwydd gyda oasis a blodau.

‘Roedd gan Louisa fwrdd lle ‘roedd llaid yn gael ei gynhyrchu ar radd ddiwydiannol ar un adeg. ’Roedd yno ddau “bwced lwcus” yn gweithredu drwy’r prynhawn ac angen eu hail llenwi.

Hannah Phipps oedd ar archeb y parti oedd yn dilyn, a llwyddodd i gynhyrchu dewisiadau arbennig o gacennau bach Calan Gaeaf yn ogystal ar bwydydd (fel ym hysbyswyd) traddodiadol. Yn dilyn y te dechreuodd y parti gyda mini disco, peiriant mygu, goleuadau a digonedd o swn. Gorffenwyd gyda gemau “eistedd lawr” er mwyn tawelu pethau cyn mynd adref.

Hoffai Louisa, Hannah a minnau ddiolch i bawb a fu o gymorth i wneud hwn yn achlysur pleserus, roeddpawb wedi mwynhau ac fe ailgyflawnwn eto yn 2019.

Stuart Wilson