Archifau

Categorïau

free counters

SULGWYN

Beth mae’r Sulgwyn yn ei olygu ichi’r darllenydd? A yw’n berthnasol inni heddiw? –Diwrnod arall o wyliau, efallai, neu dod a phobl at eu gilydd, trwy gefnogaeth neu gyfeillgarwch? Cryfhau’r gymuned deuluol neu esgus mwynhau picnic cynnar trwy fwyta brechdan wy rhwng tafelli o fara llipa llwyd ôl ryfel.?

Os byddem yn wirioneddol anlwcus byddem yn derbyn dwy frechdan a chacen .

Dyma fy mhrofiad i.

Pan yn 12 mlwydd oed cefais fy anfon i fy ail ysgol breswyl a oedd yn hollol wahanol i’r gyntaf – a fyddai, wedi medru bod yn fersiwn 1945 o “Doetheboys Hall”, roedd bywyd yn galed. Mewn cymhariaeth roedd bywyd yn yr ail ysgol yn nefoedd. Roedd hefyd yn cyd – addysgu. Roedd y Sulgwyn yn yr ail ysgol yn cynnig cyfleoedd er budd y rhai llai ffodus na ni, cynnig cyfleoedd y bydden ni yn eu cymerid yn ganiataol.

Cyn Dydd Llun Y Sulgwyn byddai’r disgyblion yn peidio â dathlu Gŵyl Y Banc , gan, yn hytrach baratoi ar gyfer “yr ymwelwyr”. Fel ysgol fonedd roeddem wedi sefydlu cenhadaeth gyda Eglwys y Santes Anne yn Limehouse, ardal fawr ddifreintiedig a oedd yn rhan ac yn weddill o Ddociau Llundain yn dilyn yr holl fomio . Sefydlwyd y Genhadaeth flynyddoedd cyn y rhyfel ac roedd yn rhan o’n bywydau pu’n a oeddwn yn ei hoffi neu beidio, byddem yn dosbarthu parseli o ddillad trwy gydol y flwyddyn, teganau adeg y Nadolig. Fodd bynnag Dydd Llun Y Sulgwyn oedd y diwrnod mawr.

Byddai trên arbennig yn cael ei logi oddi wrth reilffordd LMS i adael gorsaf St. Pancras ac i gyrraedd gorsaf Harpenden am 9:30. Gadawyd y trên mewn seidin am y dydd i aros am y daith yn ôl, fel arfer tua 8:00 o’r gloch yr hwyr.

Byddem yn gwylio dyfodiad y gwesteion ,o leiaf bedwar cant pumpdeg o neiniau a theidiau, mamau tadau a phlant yn gorymdeithio i fyny o’r orsaf. Ymddangosai’r plant yn gyflymach na’r rhieni a fyddai ynghynt na’r neiniau a’r teidiau.

Cynigiwyd te a sudd oren iddynt gyda’r dewis o fara saim neu deisen i’w cynnal hyd amser cinio . Ni fyddem ni’n derbyn dim o rhain – ar gyfer y gwesteion yn unig oeddynt.. Wedyn byddai’n rhaid inni hebrwng grwpiau bychain o gwmpas yr ysgol a’u diddori nes amser cinio: Byddai rhieni oedd yn perchen ar fodur yn ymgynnull ar y graean ac yn cynnig teithiau yn y ceir o amgylch cefn gwlad i weld y gwartheg a’r ceffylau. Roedd defaid yn arbennig oherwydd nad oedd llawer ohonynt i’w gweld yn y rhan yma o Swydd Henffordd. Byddai ŵyn yn derbyn llawer iawn o sylw.

Roedd llawer o’r plant yn hoffi hongian o frigau’r coed a dringo, nid oeddem ni byth yn cael gwneud, roedd gweld hyn yn ein cythruddo ychydig. Ar ôl cael cinio da byddai’r mabolgampau’n dechrau, criced, rownderi, a thenis , ac ar gyfer y dewrion, nofio ar cyfan yn erbyn cefndir o wahanol fathau o rasys arwahan i’r rasys hwyl fel ŵy ar lwy, sach a ras teircoes ayyb nes ein bod wedi llwyr ymlâdd erbyn amser te. Yn dilyn byddai gwasanaeth yn ein capel aml enwadaeth i bawb oedd yn dymuno mynychu. Arweiniwyd y gwasanaeth gan ficer Sante Anne yn cael ei gynorthwyo gan ein caplan a byddai’r capel yn llawn i’r ymylon gyda dim ond lle i sefyll.

Ar ôl y gwasanaeth, a oedd, rhan amlaf yn awr o hyd, os byddai’r tywydd yn caniatáu byddai cyflwyniadau rhyngom ni a’r ymwelwyr: talu diolchiadau ac wrth gwrs llawer o floeddio a chlapio. Y cyfan yn dod i ben yn llawer brafiach nag a ragwelwyd cyn iddynt gyrraedd. Roedd cyfeillgarwch wedi eu creu, neu adnewyddu a’u gryfhau.

Hyn oedd steil y Sulgwyn yn 1946 a thu hwnt tan y flwyddyn imi adael.

Wedi i arwydd arbennig gael ei roi dechreuai bawb ymadael am yr orsaf drên yng nghwmni llawer ohonom ni, a oedd eisoes yn meddwl am ymweliad flwyddyn nesaf. Neu yn meddwl am, y casglu sbwriel oedd yn ein wynebu’r bore trannoeth ac ail osod y cadeiriau plyg (a arferai binsio ein bysedd) yn ôl yn y sied am flwyddyn arall.

Dyna oedd y Sulgwyn yn ei olygu inni, rhannu gydag eraill y pethau roeddem yn ffodus i’w cael . Wrth edrych nôl rwy’n meddwl ein bod wedi cael amser da ac heb ferched fel disgyblion ni fyddai byth wedi gogwyddo tuag at deuluoedd. Ysgol fonedd oedd yn cyd addysg sydd yn cyfateb i ysgol hapus a bodlon.

Stuart Wilson