Neges oddiwrth y Golygydd
Mae’r heulwen a’r tywydd cynhesach ynghyd a’r clociau yn mynd ymlaen yn osgogi ni i fynd allan o amgylch yn fwy, er rhaid dal fod yn ofalus.
Mae yn wir ddiymwad i weld sawl achlysur newydd yn cael eu hysbysebu yn y rhifyn yma. Mae’r gwahanol trefnyddion yn gwario llawer o amser,arian ac ymdrech i baratoi y gweithgareddau felly mae fyny i’r gymuned i’w cefnogi.
Yn dioddef yn bennodol mae grwpiau cymunedol fel y Grwp Adfywio, a Cymdeithas Gwelliant a Datblygu Pencader(CGDP) sydd yn cyfarfod yn rheolaidd a chael dim ond 4 neu 5 yn troi i fyny. Mae’r grwpiau hyn yn bodoli er mwyn gwella y plwyf ac i ysgogi preswylwyr i ddod a datgan beth hoffent weld yn digwydd yn y pentrefi-a rhoi cefnogaeth i unrhyw weithgareddau a drefnwyd.
Nid yw yn ddigon i eistedd nol a dweud fod dim yw wneud os nad yw y bobl yn ymuno gyda syniadau a chymorth. Mae na llawer o breswylwyr newydd yn yr ardal nawr a bydde yn braf pe baent yn dangos cefnogaeth i’r gymuned ‘rydynt wedi dewis ymgartrefu, ac ymuno yn y gweithgareddau.
Mae’r Grwp Adfywio yn cyfarfod ar y 3ydd Llun o’r mis fel arfer, ond oherwydd y Pasg fydd y nesaf a’r Llun Ebrill 25ed am 5:30 yn y Pafiliwn.
Mae CGDP yn cyfarfod a’r yr ail nos Fercher o’r mis yn y Pafiliwn am 7:30, felly yr un nesaf fydd Ebrill 13ed. Mae grwpiau eraill yn cynnwys manylion o’i cyfarfodydd yn eu hadroddiadau yn y rhifyn yma o Clecs.
Yn sicr fydd yno groeso cynnes.
Clecs Bro Cader
By John Hubert
On 16th Ebrill 2022
In Comment, Community Newsletter, Newyddion
Mae fersiwn ar-lein o’r rhifyn diweddaraf ar gael yma