Awdur: John Hubert Page 2 of 6

Ysgol Cae’r Felin, Pencader

Wel roedd hi’n ddiwedd tymor gwahanol unwaith eto a mis Rhagfyr yn llawer tawelach na’r arfer.

Mae hwn yn dymor o ddechrau pontio gyda’r Uwchradd a doedd hyn ddim yn wahanol i’r arfer gyda Blwyddyn 6 yn derbyn bore o bontio byw gyda Bro Teifi trwy Teams ac yn cwblhau gweithgareddau amrywiol.

Buon yn ffodus unwaith eto o haelioni Cwmni Tyrbinau Gwynt Statkraft. Trwy law y grant llwyddwyd i leihau y baich o symud byrddau o ddosbarth i ddosbarth trwy gael rhai ychwanegol yn ogystal a rhwystrau llachar gwyrdd i greu ardal bêl droed diogel ar yr iard. Roedd y cyngor ysgol wedi cychwyn casglu arian ar gyfer hwn felly diolch yn fawr am gyfrannu gweddill yr arian er mwyn gwireddu dymuniad y disgyblion.

Fel ysgol rydym wedi ennill 4 deilen werdd Ysgol Iach. Yn addas iawn y tymor yma rydym yn gweithio tuag at y ddeilen nesaf – Hylendid. Diolch i Covid rydyn yn barod wedi atebio nifer o’r gofynion yn llawn.

Er mwyn parhau a troddodiadau y Nadolig fe grewyd ein cardiau a’n calendrs, fe gyrhaeddodd sach wrth Sion Corn a fe wnaeth pob dosbarth recordio eitem Nadoligaidd a lwythwyd ar gyfrifon y plant i’r rhieni allu gweld a hyn y gyd cyn i ni gau wythnos ynghynt na’r disgwyl!

Braf byddai ysgrifennu heddiw ein bod wedi croesawu ein disgyblion yn ol i’r ysgol ond nid dyma’r achos. Er hyn mae’r athrawon a’r disgyblion yn brysur yn paratoi a chwblhau gwersi dyddiol. Hoffwn hefyd groesawu 6 plentyn rhan amser nol yn llawn amser, 6 plentyn Newydd i ni a symudodd o ysgolion eraill a 6 plentyn rhan maser Newydd i’r ysgol. Fel staff rydyn methu aros i gael y disgyblion nol a’r bwrlwm nol o fewn yr ysgol.

PWYLLGOR CARNIFAL PENCADER

Mae Pwyllgor Carnifal Pencader yn falch o gyhoeddi i ni fedru prynu dau ddiffibriliwr ar gyfer pentref Pencader gyda’r arian a godwyd yn ystod carnifal 2018. Cyfanswm cost y ddau ddiffibriliwr oedd £2800, a lleolwyd un gyferbyn â Thafarn y Beehive a’r llall ar wal siop y Premier er mwyn cynnig mynediad i’r unedau yn nau begwn y pentref. 

Gwaithdai Creadigol

Ydych chi, neu unrhywun ‘rydych yn ‘nabod, yn byw yn ardal Coedwig Brechfa?

Os ydych, a wnewch chi barhau i ddarllen ac ymwneud a’r prosiect drwy lenwi arolwg syml i gael mynediad at weithdai creadigol, heb dâl, dros y misoedd sydd i ddod.

Mae Arts Care Gofal Celf yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid oddiwrth Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa er mwyn darparu gweithgareddau seiliedig ar gelf i’r bobl sy’n byw yn ardal Coedwig Brechfa dros y 6 – 9 mis nesaf. Bydden ni wir yn hoffi gweld y prosiect yn cael ei arwain gan bobl lleol, felly mae eich barn chi yn hynod bwysig i ni. Os hoffech chi gymryd rhan mewn gweithdai creadigol di-dal, neu os ‘rydych yn artist proffesiynol sy’n byw yng Nghoedwig Brechfa, bydden ni wrth ein boddau yn clywed oddiwrthoch chi.

Bydd un o’n hartisitiaid aml-dalentog sy’n byw yng Nghoedwig Brechfa yn darparu rhai o’r gweithdai, a allai amrywio o waith tecstil i goedwriaeth, neu weithgareddau a ysbrydolwyd gan natur. Mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n apelio atoch chi. Mae gennym nifer o artistiaid yn cydweithio gyda ni sy’n gallu cyflenwi pob math o weithdai creadigol, yn amrywio o ysgrifennu creadigol i ddawns neu ioga, drama, cerflunio, gwneud printiau a mwy. Serch hynny, hoffen ni hefyd ymgysylltu ag unrhyw artistiaid proffesiynol lleol sydd am ymuno, a chynnig gweithdai.

‘Rydym am weld y prosiect hwn yn gwneud sbloet creadigol ar adeg pan mae COVID-19 yn dal i herio cymunedau. Gallai’r prosiect gynnig mynediad i weithdai arlein, yn ogystal â gweithdai wyneb-i-wyneb, tra’n rhoi’r sylw daladwy i’r mesurau diogelwch a chanllawiau sydd mewn grym ar y pryd. Unwaith eto, hoffen ni wybod beth fyddai’n gweithio orau i chi er mwyn ichi gael mynediad at gyfleoedd. Byddwn yn trefnu cyfres fer o sesiynau blasu i ddechrau; bydd hyn yn gyfle i roi tro ar sawl ffurf celf gwahanol ac yn gweithredu fel ffordd arall ichi ddweud beth arall hoffech weld.

Bydden ni am i unrhyw weithdai yn y dyfodol ddiwallu’r hyn ‘rydych chi am wneud, felly helpwch ni i ddarparu’r gweithdai a fydd yn eich ysbrydoli ac yn cefnogi lles.

Os hoffech chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod gael copi caled o’r arolwg wedi’i bostio allan, yna rhowch wybod i ni ar 01267 243815. Mae copïau Cymraeg o’r arolwg ar gael ar gais.

Plis rhannwch gydag unrhyw un yn ardal Brechfa a allai fod â diddordeb.

Diolch yn fawr iawn,

Rachel

Cydlynydd y Prosiect a Arts Care Gofal Celf

rachel@acgc.co.uk

01267 243815 (gadewch neges)

 

Cysylltedd Band Eang

Ydych chi’n gweld hi’n anodd i gael band eang cyflym? Os felly, mae’n bosib gallwch fi fod yn gymwys i uwchraddio eich band eang.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig hyd at £1,500 i breswylwyr gwledig a hyd at £3,500 i fusnesau bach a chanolig i uwchraddio i fand eang gagbit, sy’n gallu lawrlwytho ar gyflymder o 1 gigabit (1000 megabit) yr eiliad.

Gan annog cymunedau i ddod ynghyd, gall trigolion a busnesau gyfuno eu diddordeb i gynyddu’r gronfa gyffredinol. Mae’r cofrestru ar agor tan 30 Medi 2020, ac mae trigolion cefn gwlad a pherchnogion busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys – https://broadband-upgradefund. campaign.gov.uk/register.

Bydd rhai safleoedd a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin hefyd yn gallu elwa ar gynllun talebau Llywodraeth Cymru, gan gymryd y cyllid posibl ar gyfer safleoedd unigol hyd at £3,000 a hyd at £7,000 ar gyfer busnesau. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyllid a ddarperir yn talu am y gost o osod y band eang newydd os oes yna ddigon o ddiddordeb wedi cael ei gofrestru mewn prosiect grwp.

I gael rhagor o fanylion am hyn, cysylltwch â cejenkins@carmarthenshire.gov.uk. Os na allwch gofrestru ar-lein anfonwch ymateb ysgrifenedig gyda’ch enw llawn, llinell gyntaf eich cyfeiriad, eich côd post, a chyfeiriad e-bost (os yw ar gael) at:

Ceri Jenkins, County Hall, Carmarthen, Carmarthenshire, SA31 1JP

Sul y Coffa 2020

Cyngor Cymuned Llanfihangel-Ar-Arth Community Council

Clerc Mrs S. Anita Evans, Frongelli. New Inn, Pencader, Sir Gar. SA39 9AZ

 ffôn: 01559 384266                             e-bost: anitaevans9@hotmail.co.uk

cc-llanfihangel-ar-arth-cc.org.uk

Mi fydd y Gwasanaeth wrth y Gof-golofn ym Mhencader am 10.45 o’r gloch ar Sul Tachwedd 8fed 2020 ychydig yn wahanol i gadw o fewn rheolau Covid:

 

  • Dim canu.
  • Disgwylir i bawb sydd o wahanol gartrefi gadw pellder o 2fedr oddiwrth pawb arall.
  • Disgwylir i bawb wisgo mygydau.
  • Un person fydd i sefyll o fewn perimedr y Gof-golofn ar un amser.
  • Dim rhannu unrhyw drefn gwasanaeth i’r cyhoedd.
  • Pawb i fod yn gyfrifol am eu hunain i gadw’r canllawiau a restrwyd.

Sylwer: os bydd y canllawiau o’r Llywodraeth yn newid, yna bydd rhaid i ni wneud newidiadau hefyd.

 

Diwedd Cyfnod?

Fel Cadeirydd mae Stuart Wilson wedi bod yn benfigwr Grwp Adfywio Pencader ar Cylch ers ei ddechreuad yn 2002 ond mae nawr wedi penderfynny bod yn amser i gamu lawr a gadael rhywun ifancach i gymryd at y swydd.

Mae Stuart wedi goruchwylio llawer o’r newidiadau mae’r grwp wedi datblygu yn y gymuned- yr un mwyaf nodedig- cyhoeddi Clecs Bro Cader ac hefyd: · Hysbysfyrddau ym Mhencader, New Inn, Alltwalis a Llanfihangel ar Arth.

  • Mofyn twbiau blodau yn y pentrefi;
  • Plannu bylbiau yn y gymuned;
  • Ymgyrchu ynglyn a Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor;
  • Ceisio agor hen lwybrau cerdded;
  • Annog y Panel Hanes a thirluni rhandir islaw y Pafiliwn;
  • Cymryd rhan yn monitro cyflymder trafnidiaeth;
  • Dosbarthiadau dawnsio;
  • Trefnu y Glanhau y Pentref ddwywaith y flwyddyn;
  • Y Sioe Arddol a Chrefft blynyddol;
  • Cardiau cyfarch o olygfeydd lleol;
  • Arddangosfa Ffotograffiaeth ac Arlunio;
  • Trefnu archwiliad ADC;
  • Arolygu Help Us Trade Ltd fel canlyniad argraffu Cyfarwyddiadur Cymunedol;
  • Cystadleuthau Arddio & Blwmers y Cadeirydd;
  • Cystadleuaeth Goleuadau Nadolig;
  • Annog safle Gweplyfr y Gymuned;
  • Safle ar y we i’r pentref www.pencader.org.

Heb Stuart bydde y grwp ddim wedi medru cyflawnni hanner y pethau hyn, ‘roedd ei bendantrwydd a’i hiwmor sych yn help i gael pethau wedi eu gwneud. ‘Roedd yn hoff iawn o’r Sioe Arddol a Chrefft blynyddol a gweld y cynnyrch rhyfeddol tyfwyd yn y gymuned a dychymig bywiog y plant yn ei gwaith artistiaeth.

Pan drefnodd ei ffrindiau Fore Coffi ar achlysur ei benblwydd yn 80 oed yn 2014 codwyd dros £2500 tuag at Apel “Aphrodite” ysbyty Velindre, sydd yn dangos y parch uchel tuag ato yn y gymuned.

Felly mae yn amser iddo rhoi ei draed i fyny, gyda’r gath ar ei benglin edrych allan ar yr ardd drwy un ffenest ac ar ei geffylau drwy y llall.

Stuart –MWYNHEWCH- ‘rydych wedi mwy nai ennill.

First World War Treasure

Ennillodd un o wynebau cyfarwydd Pencader cynulleidfa cenedlaethol yn ddiweddar pan ymddangosodd a’r amser pennaf y teledu. Gwelwn Ruth Lewis yn aml o amgylch y pentref gyda ei chi Vincent, ond ym mis Mai ymaddangosodd ar BBC’s Antique Roadshow gyda item unigrhyw o hanes yn y teulu.

Mynychodd Ruth ymweliad tim y Roadshow yn y Gerddi Botaneg haf diwethaf gan fynd a chwpan bach arain wedi ei ysgythru a oedd wedi bod yn nwylo y teulu ers dros canrif. Gafaelodd y cwpan yn syth yn llygad Duncan Campbell, ond y stori tu cefn i’r cwpan sicrhaodd bydde yn ymddangos yn y darllediad a wyliwyd gan agos i 8 miliwn.

Disgrifiodd Ruth sut y cafodd y cwpan – sydd yn eiddo i’w mam Mary Thomason Bryndelyn – ei ddarganfod gan ei hen tadcu, Henry Morris, yn y ffosydd yn Ypres amser y rhyfel Byd Cyntaf. “Cafodd afael ynddo yn y ffos yn y mwd, felly ‘roedd yn frwnt ac arswydus yr olwg.” dywedodd Ruth wrth yr arbennigwr syfrydlon. “’Roedd wedi ei ddefnyddio fel cwpan i eillio tra yn y rhyfel.”

Aeth Ruth ymlaen i ddweud fel daeth y cwpan adref gan ei hen ddatcu a bron gorffen yn y bin spwriel. “Pan ddaeth adref ‘roedd mamgu yn clirio allan y bag pan ddaeth ar draws y cwpan a dywedodd ‘Beth yw hwn’ a dywedodd yntau ‘Fi ddim yn gwybod, tafla i ffwrdd, fi wedi bod yn ei ddefnyddio fel cwpan i eilio.’”

Beth bynnag doedd Mary, gwraig Henry, ddim mor siwr, eglurodd Ruth. Dywedodd hi “Fi yn meddwl mae cwpan arian yw” felly glanhaodd ef a phan ganwyd fy mam yn 1942 rhoddwyd y cwpan iddi fel anrheg bedydd. Mae yn dal gan fy mam adref yn y cwpwrdd tsieina.

‘Roedd Duncan yn amlwg wedi ei blesio gan siwrne y cwapn. “Diodlestr bach a all fod wedi ei wneud yn ond yn Ffrainc” eglurodd. “Felly, palodd eich hen dadcu hwn allan o’r mwd yn Ypres? Mwy na thebyg’roedd yn eiddo i Ffrancwr. ‘Roedd yn un o ffosydd y Ffrancwyr?”

Dywedodd Ruth wrtho fel ‘roedd y teulu wedi tybio mae cwpan gwarthol oedd, ond eglurodd Duncan fod cwpannau o’r math yma, yn Ffrainc , ym aml yn cael ei rhoi fel anrhegion bedydd. “Ar y blaen mae wedi ei ysgythru gydag enw, efallai y milwr o’r rhyfel cyntaf a gollodd ef, dywedodd wrth Ruth. “Felly mae wedi ei ailgylchu fel cwpan eillio, ac ail gylchu eto. Mae wedi ei ddefnyddio fel anrheg bedydd, yn ol i’r gwreiddiol.”

“Er yr hanes anhygoel i’r cwpan does dim angen i chi, yn anffodus, ei ysiwrio. Y gwir yw” dywedodd Duncan “does dim gwerth iddo, nid arian yw ond electroplatearian blat.”

Er hynny pwysleisiodd fod mwy nag un ffordd o werthiannu item. “Mae hwn yn esiampl gwych o hynafolyn, hen item nad yn angenrheidiol o werth ond yn werthfawr dros ben.”medddai. “Dyma’r hanes gorau am item fi wedi ei glywed ers amser maeth, mae yn eithaf teimladwy.

Dywedodd y Ruth balch “Bydd fy mam yn hapus dros ben.”

Help! Coronavirus Covid-19

Ysgol Gymunedol Cae’r Felin

Am y tro cyntaf erioed nid oes gen i newyddion o lwyddiant na weithgareddau i nodi o bethau a gwblhawyd o fewn yr ysgol. Ers diwedd Mawrth mae drysau’r ysgol wedi bod ar gau, bwrlwm y disgyblion wedi diflannu ond tu ol i ddrysau mae’r gwaith a’r bwrlwm yn parhau.

Uchafbwynt unrhyw wythnos i ni fel staff yr ysgol yw derbyn fideos neu luniau o’r disgyblion yn cwblhau tasgau neu weithgareddau – cadwch nhw i ddod blantos bach.

Mae cadw mewn cysywllt yn bwysig iawn i ni yn Cae’r Felin. Dros y Pasg fe wnaeth y staff gynhyrchu fideo – neges i’r holl blant ac wrth gwrs i ddymuno Pasg hapus. Y nod yw ceisio helpu ein rhieni gymaint a phsoibl trwy rannu syniadau a gwefannau neu lincs defnyddiol. Trwy alwadau ffon gobeithio ein bod yn medru datrys unrhyw bryderon neu broblemau.

Nid yw’r staff yn segur o bell ffordd. Maent yn darparu gweithgareddau addas i’w cwblhau adref a’r plant yn cwblhau y tasagu y neu tro a’i rhoi ar lwyfan fel gall yr athrawon farcio a bod o gymorth. Maent yn sgyrsio gyda rhieni a disgyblion trwy alwadau ffon ac wrth gwrs maent hefyd y neu troy n gofalu am blant ein gweithwyr allweddol a plant bregus mewn canolfannau hwb – rhai yn Carreg Hirfaen a’r gweddill yn Ysgol Y Ddwylan.

Arhoswn yn wythnosol am negeseuon y cynulliad o ran ein hysgolion ond yn sicr ni fydd unrhyw ysgol yn agor heb sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn bwrpasol yn ystod yr amser rhyfedd yma. Edrychwch ymlaen i weld yr ysgol yn llawn siarad a’r iard yn llawn chwerthin a chwarae. Daw eto haul ar fryn ac edrychaf ymlaen at adrodd a dathlu unwaith yn rhagor.

Diolch i’r holl staff a’r rhieni am yr holl gefnogaeth ac amynedd.

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Ym mis Mawrth, cyn y ‘lockdown’, dywedodd Mary Thomason wrth Glwb Hanes Lleol Llanfihangel-ararth a’r Plwyf am ei hen ewythr nodedig, John Pryce Jones. Plentyn siawns oedd ef a gafodd ei eni yn 1894. Cafodd ei fagu gan eu modrybedd ym Mryn Hafod, Pencader. Aeth i’r ysgol yn y pentref ac wedyn Ysgol Ramadeg Llandysul. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd radd yng nghemeg ffisegol.

Ar ôl gwasanaethu yn y Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i weithio i gwmni Reckitts yn Hull. Yno gwnaeth lawer o ymchwil ar bigmentau a daeth yn enwog am ei waith. Hefyd roedd diddordeb yng ngwenyn ganddo ac astudiodd briodweddau mêl. Cafodd ei anrhydeddu fel FRIC a FLS. Priododd yn 1921 ond yn drist bu farw’i fab ar ol cwympo drwy iâ pan oedd yn 19 oed. Ar ôl ymddeol symudodd John Pryce Jones i fyw ym Moncath a bu farw yn 1956. Mae mwy o fanylion amdano ar y wefan www.pencader.org.uk.

Achos y coronafirws roedd yn rhaid i ni ganslo gweddill ein rhaglen yn ogystal ag ein taith hanesyddol flynyddol. Yn obeithiol gallwn ailddechrau rywbryd yn ystod yr hydref ac aildrefnu’r tair sgwrs a gafodd eu gohirio. Bydd mwy o fanylion yn y cylchlythyr ac ar y wefan uchod unwaith eu bod ar gael.

Page 2 of 6

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén