Categori: Digwyddiadau Page 1 of 2

Sefydliad y Merched Pencader

Sefydliad y Merched

Hwre! Dydd Mawrth Mai 18ed cawsom ein cyfarfod cyntaf dan do ers dros blwyddyn. Croesawodd Rosemary, ein Llywydd, pawb yn ol ar ol yr holl anhawsterau a brofwyd. Rhoddodd Avis ddiweddariad ar y rhaglen am weddill y flwyddyn. Bydd hon yn aros yn hyblyg rhag ofn fydd ail gyflwyniad o’r cyfyngiadau. Cytunwyd fe fyddwn yn cael Te yng ngardd Linda tua diwedd mis Mehefin. Ar ol cwpaned adfywiol cawsom Cwis “Brenhinol” a ddarparwyd gan Julia.

Fel yr arfer mae Ffederasiwn Sir Gar wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf, e.e. sioe ffasiwn gan Pethau Oliv ar zoom, taith gerdded yn Abergwili ym Mehefin a diwrnod o weithgareddau yn Llangrannog ym mis Gorffennaf gyda llawer o weithgareddau ar gynnig. Mae rhain yn cynnwys cwrs rhwystr rhaff, nofio, dawnsio gwerin, dringo wal, gwifren zip, saethyddiaeth, abseilio, cerdded a phel rhwyd. Swnion’n flinedig!

Eleni fydd y sioe sydd yn cael ei chynnal yng Nghydweli ym mis Gorffennaf. Mae na nifer o gystadlaethau i ni amgeisio -coginio, celf a chrefft, trefnu blodau ac ysgrifennu dim ond i enwi rhai.

Mae ein cyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn am 2:00yp ar y dydd Mawrth cyntaf o’r mis. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno a ni cysylltwch a Linda Harrison ar 01559 389882.  

Sul y Coffa 2020

Cyngor Cymuned Llanfihangel-Ar-Arth Community Council

Clerc Mrs S. Anita Evans, Frongelli. New Inn, Pencader, Sir Gar. SA39 9AZ

 ffôn: 01559 384266                             e-bost: anitaevans9@hotmail.co.uk

cc-llanfihangel-ar-arth-cc.org.uk

Mi fydd y Gwasanaeth wrth y Gof-golofn ym Mhencader am 10.45 o’r gloch ar Sul Tachwedd 8fed 2020 ychydig yn wahanol i gadw o fewn rheolau Covid:

 

  • Dim canu.
  • Disgwylir i bawb sydd o wahanol gartrefi gadw pellder o 2fedr oddiwrth pawb arall.
  • Disgwylir i bawb wisgo mygydau.
  • Un person fydd i sefyll o fewn perimedr y Gof-golofn ar un amser.
  • Dim rhannu unrhyw drefn gwasanaeth i’r cyhoedd.
  • Pawb i fod yn gyfrifol am eu hunain i gadw’r canllawiau a restrwyd.

Sylwer: os bydd y canllawiau o’r Llywodraeth yn newid, yna bydd rhaid i ni wneud newidiadau hefyd.

 

Digwyddiad Nesaf Clwb Hanes Lleol

Ym mis Mawrth, cyn y ‘lockdown’, dywedodd Mary Thomason wrth Glwb Hanes Lleol Llanfihangel-ararth a’r Plwyf am ei hen ewythr nodedig, John Pryce Jones. Plentyn siawns oedd ef a gafodd ei eni yn 1894. Cafodd ei fagu gan eu modrybedd ym Mryn Hafod, Pencader. Aeth i’r ysgol yn y pentref ac wedyn Ysgol Ramadeg Llandysul. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd radd yng nghemeg ffisegol.

Ar ôl gwasanaethu yn y Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i weithio i gwmni Reckitts yn Hull. Yno gwnaeth lawer o ymchwil ar bigmentau a daeth yn enwog am ei waith. Hefyd roedd diddordeb yng ngwenyn ganddo ac astudiodd briodweddau mêl. Cafodd ei anrhydeddu fel FRIC a FLS. Priododd yn 1921 ond yn drist bu farw’i fab ar ol cwympo drwy iâ pan oedd yn 19 oed. Ar ôl ymddeol symudodd John Pryce Jones i fyw ym Moncath a bu farw yn 1956. Mae mwy o fanylion amdano ar y wefan www.pencader.org.uk.

Achos y coronafirws roedd yn rhaid i ni ganslo gweddill ein rhaglen yn ogystal ag ein taith hanesyddol flynyddol. Yn obeithiol gallwn ailddechrau rywbryd yn ystod yr hydref ac aildrefnu’r tair sgwrs a gafodd eu gohirio. Bydd mwy o fanylion yn y cylchlythyr ac ar y wefan uchod unwaith eu bod ar gael.

Merched y Wawr Pencader a’r Cylch

Chwefror 2020

Daeth aelodau’r gangen ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi mewn cinio yn nhafarn Gwarcefel, Prengwyn ar y 25ain Chwefror, 2020. Croesawyd pawb gan ein llywydd, Mrs Fioled Jones gan gynnwys dau ŵr dewr sef Tom Lewis a Dafydd Jones a’n siaradwr, Mrs Anne Thorne o Lanllwni.

Ar ol cinio croesawyd Mrs Thorne yn swyddogol i’n plith. Roedd gan nifer o’r aelodau atgofion amdani yn cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol Merched Y Wawr. Merch o Gwm Nedd yw Mrs Thorne yn wreiddiol ond mae hi a’i gŵr, David, wedi ymgartrefi ers blynyddoedd ac wedi magu eu plant yn yr ardal hon. Mae’r ddau wedi gwneud gwaith aruthrol i hybu ac amddiffyn ein hiaith a’n diwylliant.

Cawsom wledd o hanesion a storïau yn ystod y prynhawn. Codi testun wnaeth Mrs Thorne o lyfr Between Two Worlds gan Peter Lord sydd yn dilyn hanes merch o Gwm Nedd megis Winifred Coombe Tennant. Ganwyd hi ym 1895 a chafodd addysg oedd yn cynnwys mynychu ysgolion yn yr Eidal a Ffrainc. Priododd yn ifanc i ddyn cyfoethog a byw ei bywyd priodasol yn Cadixton Lodge. Roedd yn byw bywyd breintiedig iawn ond hefyd yn ofalgar o’i chymdeithas, o ddiwylliant ac o’i gwlad. Roedd yn cefnogi’r Eisteddfod ymysg llawer o bethau celfyddydol gan gynnwys oriel Glynn Vivian, Abertawe. Bu’n ymgyrchu hefyd i gael pleidlais i wragedd.

Dim ond blas o’r hanes diddorol a gawsom gan Mrs Thorne yw’r uchod ac rydyn fel cangen yn eich hannog i fynd i glywed y stori neu i chwilio am y llyfr os gewch gyfle.

Diolchodd Mrs Fioled Jones yn ddidwyll am yr hanes ddiddorol a gawsom yn ystod y prynhawn.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 30ain Mawrth lle bydd Non Elias o Melysion Mam yn ymuno gyda ni yn Festri Capel Nonni, Llanllwni am 7 o’r gloch.

  Cysylltwch gyda:        Fioled Jones – 01559 384617                                    

Gwyneth Alban – 01559 384344                                    

Ann Phillips – 01559 384558  

Cystadleuaeth Pasg P.I.D.A

Painting competition

Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch

Cynhaliwyd cyfarfod byr yn y Pafiliwn dydd Llun 17eg Tachwedd ar yr amser cynharach o 4:00yp ac roedd yn dda gweld yr wynebau cyfarwydd eto, hyd yn oed os o bellter o ddau fetr.

Cytunwyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod Cyffredinol Ychwanegol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Rhannwyd yr adroddiad ariannol; newidiwyd y mandadau banc ar gyfer llofnodwyr newydd. Cytunwyd i beidio â chynyddu cyfraddau hysbysebu yn Clecs Bro Cader am gyfnod gan fod hysbysebwyr yn cael amser digon caled yn y pandemig; mae’r rhediad rhagdaledig wedi’i ymestyn i’r rhai nad oedd wedi gallu gweithio yn ystod cyfnod y clo. Mae angen llunio cais grant newydd ar gyfer cyllido dwy flynedd nesaf y cylchlythyr a’i gyflwyno i Statkraft.

Mae’r wefan wedi’i diweddaru gydag eitemau o’r rhifynnau diweddar o Clecs.

Fel y grwpiau cymunedol eraill cytunwyd gohirio’r CCB a oedd fod cael ei gynnal yn Ionawr 2021 nes bod grwpiau mwy o faint yn cael cyfarfod. Bydd y swyddogion presennol yn aros yn eu swydd tan hynny. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Pafiliwn ddydd Llun 21ain Rhagfyr am 4:00yp.

Os ydych chi’n hoffech ymuno i gefnogi’r gymuned byddem wrth ein bodd yn gweld wynebau newydd.

 

Allech chi ein cefnogi ni?

Mae Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch yn eiddgar i gael mwy o bobl a fydd yn cefnogi’i weithgareddau.

Gallwch ddarllen Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer 2019 YMA.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Pafiliwn ddydd Llun 21ain Rhagfyr am 4:00yp.

Dewch ymlaen os gwelwch yn dda. SYLWCH OS GWELWCH YN DDA “Mae angen dosbarthwyr Clecs ym mhentref Pencader – os ydych yn hoffi cerdded a chwrdd a phobl ac am helpu cysylltwch a Jane ar 01559 384187 neu Stuart ar 01559 384709” Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y drydedd nos Lun yn y mis yn y Pafiliwn, Pencader, am 7:30 yh. Os hoffech ymuno a’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7.30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis. 

Chwefror 2020

Mae yna ychydig o gwynion wedi dod i law ynglyn ag un erthygl yn y rhifyn diwethaf o Clecs, cytunwyd bod rhaid gwneud yn eglur drwy y Clecs Bro Cader bob y barn a fynegir yn farn yr ysgrifennwr/ysgrifennwraig ac nag y Pwyllgor na’r tim golygu. Mae gan y weplyfr gymunedol 345 o aelodau, 30 yn fwy na’r mis diwethaf. Mae Stuart a Chris yn gwneud ymholiadau ynglyn a hirio’r ysgol fel lleoliad ar gyfer y Sioe Ardd a Hwyl ym mis Medi, gan fod y pafiliwn yn rhy fach. Mae angen cyfarfod i drefnu rhaglen.

Os hoffech ymuno â’r Grŵp, dewch draw i’r cyfarfod nesaf – a gynhelir am 7:30 yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r mis.

Ionawr 2020

Dechreuwyd y noswaith gyda’r Cyfarfod Blynyddol,darllenodd Stuart Adroddiad y Cadeirydd (gweler gopi ar wefan Pencader.org) a diolchodd i bawb am ei cymorth yn ystod y flwyddyn. Nid oedd dim enwebiadau ar gyfer newid swyddogion, felly cynnigiwyd ac eiliwyd i gadw y swyddogion fel ag y maent. Dilynodd y cyfarfod misol arferol. Mae Morgan wedi cyfarfod gyda Keith a Jane ac mae yn hapus i gynorthwyo gyda Clecs Bro Cader. Angen awgrymiadau ar gyfer y 100ed rhifyn yn Ebrill. Mae yna broblem wedi bod wrth ymweld ar fersiwn Gymraeg or wefan, mae Emma wedi neud trwsiad dros dro. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw Cofnodion y Plwyf bellach yn cael eu cadw yn y Llyfyrgell Genedlaethol, maent wedi eu dychwelyd i’r Plwyf. Maent ar gael yw archwilio yn y Ficerdy Llanfihangel am bris o £22 yr awr.

 

 

 

 

 

 

 

EISTEDDFOD LLANFIHANGEL-AR-ARTH A’R PLWYF

EISTEDDFOD

 LLANFIHANGEL-AR-ARTH A’R PLWYF

 DYDD SADWRN

 Chwefror 29 2020

yn dechrau am 10:30

 Neuadd yr Ysgol

LLANFIHANGEL-AR-ARTH

 RHAGLEN Y DYDD

 Llywyddion

Mr & Mrs Mansel Griffiths,

Anwylfan, Llanfihangel-ar-arth

 Mynediad ar y dydd – plant £1, oedolion £4, Aelodau Côr/Parti £1

 Entrance on the day – children £1, adults £4, Members of a Choir / Party £1

CLICIWCH YMA i weld y rhaglen lawn. (Word.doc)

lanhad y Gwanwyn

Glanhau Yn Y Wanwyn Ebrill 13ed 2019
Y tro yma buom yn ffodus o’r tywydd ac fe ddaeth y cefnogwyr selog allan a gwneud ei hardal ar y diwrnod neu ynghynt yn yr wythnos.
Casglwyd 18 o fagiau (3 du,9 coch a 6 glas) yn ychwannegol i gymysgedd o eitemau mawr darganfywyd ar ymyl y ffyrdd. Beth bynnag erbyn i’r CCC gyrraedd a chasglu y bagiau ar y diwrnod canlynnol ‘roedd 10 bag du arall mae’n debyg yn llawn o bridd a lludw wedi ei dympio yno.
Nid yw hyn yn dderbynniol ac ar ol gwaith caled eraill ddim yn wir ysbryd cymunedol.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwerthiant Pen Bwrdd
Er fod hysbysebion yn y Clecs, Gweplyfr, gwefan a siopau lleol dim ond 4 bwrdd a osodwyd. Beth bynnag ’roedd yna ychydig o siopwyr yn frwdfrydig am fargeinion a chwpaned a chacen.
‘Roedd y trefnwyr wedi mynd i lawer o drafferth I drefnu hyn ac unwaith eto y anlyniad yn dangos diffyg ysbryd cymunedol yn y pentref.

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2018

Llywyddion / Presidents – Mr & Mrs Gwynfor Davies

/>

Canlyniadau / Results

Llwyfan – Sesiwn cyfyngedig / Stage Local Section

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Dafydd, Llandysul

3 Gwenlli Davies Llandyfrïog

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Celyn Thomas, Croeslan

2 Elliw Mair Dafydd

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Griff Rhys Davies Llandyfrïog

2 Hanna Grug Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenlan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Mari Lois Jones, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Gwenan Lloyd Owen, Llanllwni

2 Gwenllian Dafydd ,Llandysul

3 Mari Lois Jones, Llanllwni, Elinor Sian Williams Pencader, Magw Fflur, Llandysul

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 5 & 6

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Mali Macdonald, Pencader

Canu Emyn a Chwpan er cof am Freddy Brooker / Hymn Singing and Freddy Brooker Memorial Cup

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Lloyd Owen

3 Mari Lois Jones & Hanna Grug Jones, Llanllwni


Parti Canu – Ysgol Cynradd / Singing Party, Primary Age

1 Parti Merched Bro Teifi

Enillydd Cwpan Her er cof am Mr a Mrs Hughes gynt o Brownhill / Winner of Mr & Mrs Hughes, formerly of Brownhill Memorial Challenge Cup

Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llwyfan Sesiwn Agored / Stage Open Section

Cynradd / Primary

Unawd Blwyddyn 1 a 2 / Solo Years 1 & 2

1 Morgan Teifi Gwynedd, Pontyberem

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Ella Gwenlli, Tregaron

Llefaru Blwyddyn 1 a 2 / Recitation Years 1 & 2

1 Ella Gwenlli, Tregaron

2 Awel Lewis, Rhydaman

3 Betsi May, Rhydaman

Unawd Meithrin a Derbyn / Solo Nursery and Reception

1 Hanna Jones, Llanllwni

2 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

3 Rhun Thomas & Non Thomas, Talgarreg

Llefaru Meithrin a Derbyn / Recitation Nursery and Reception

1 Gwenno Ruth Bellamy, Llanarth

2 Non Thomas, Talgarreg

3 Hana Jones, Llanllwni & Rhun Thomas, Talgarreg

Unawd Blwyddyn 3 a 4 / Solo Years 3 & 4

1 Gwenan Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 3 a 4 / Recitation Years 3 & 4

1 Trystan Bryn Llambed

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin & Mari Lois Jones, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 5 a 6 / Solo Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 / Recitation Years 3 & 4

1 Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Offerynnol – Ysgol Gynradd a Gwobr Valerie Davies (£20) / Instrumental Solo – Primary Age and Valerie Davies Prize (£20)

1 Alwena Owen, Llanllwni

2 Trystan Bryn, Pumsaint

Alaw Werin – Ysgol Gynradd / Folk Singing Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Trystan Bryn, Pumsaint

Cerdd Dant – Ysgol Gynradd / Cerdd Dant Primary Age

1 Alwena Mair Owen, Llanllwni

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Ela Gwenllian Tregaron

Uwchradd / Secondary

Llefaru Blwyddyn 7 – 9 / Recitation Years 7 – 9

1 Elen Morgan Drefach, Llanybydder

Unawd Blwyddyn 7 – 9 / Solo Years 7 – 9

1 Siwan Mair Jones, Caerfyrddin

Llefaru Blwyddyn 10 – 13 / Recitation Years 10 – 13

1 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Blwyddyn 10 – 13 / Solo Years 10 – 13

1 Hana Medi Davies, Gwyddgrug

Unawd Offerynnol Ysgol Uwchradd a Chwpan Teulu Maesybwlch / High School Instrumental Solo & Maesybwlch Family cu

1 Heledd Jones, Saron

2 Lefi Dafydd, Eglwyswrw

3 Elen Morgan, Drefach

4 Gwion Jones ,Caerfyrddin

Agored / Open

Alaw Werin – Agored / Folk Song Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

3 Siwan Jones, Caerfyrddin & Alwena Owen, Llanllwni

Unawd Cerdd Dant – Agored / Cerdd Dant Solo Open

1 Sioned Howells, NewInn

2 Gwenan Owen, Llanllwni

3 Alwena Owen, Llanllwni

Parti Canu / Côr – Agored / Singing Parti Open

1 Parti Siriol, Sioned & Sioned

Deuawd – Agored / Duet Open

1 Sioned a Siriol Howells

Cân fodern neu gân allan o sioe gerdd / Modern song or song out of a musical

1 Sioned Howells, NewInn

Darllen o’r Ysgrythur – Agored / Reading from the Bible – Open

1 Maria Evans

2 Alwena Mair Owen

3 Sioned Howells & Sioned Bowen

Canu Emyn – Agored a Chwpan er cof am Noel James / Hymn Singing – Open and Cup in Memory of Noel James

1 Sioned Howells, New Inn

2 Sioned Bowen

Her Unawd 19 – 25 / Challenge Solo 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Her Llefaru 19 – 25 / Challenge Recitation 19 – 25

1 Sioned Howells, NewInn

2 Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – Darn Digri / Welsh Eisteddfod Society Competition

1 Hanna Medi Davies

‘Sgen ti dalent?’ / ‘Do you have Talent?’

1 Bet a Dawn

2 Siriol & Sioned Howells, NewInn

Her Adrodd / Challenge Recitation

1 Maria Evans

Enillydd Cwpan Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn yr Adran Agored / Winner of the Western Power Cup for the most promising performance in the Open Section

Heledd Jones, Saron

Adran Lenyddiaeth / Literature Section

Y Gadair / The Chair

Rachel James, Boncath

Cân Ysgafn / Amusing Poem

Mary B Morgan, Llanrhystud

Cerdd Rydd / Free Verse

Mary B Morgan, Llanrhystud

Englyn

Nia Llywelyn, Llandysul

Limerig / Limerick

Delyth Lewis, Aberystwyth

Erthygl yn addas i Bapur Bro / Article Suitable for a Local Newspaper

MeganRichards, Aberaeron

Stori Fer / Short Story

IonaEvans, Abergele

Cwpan Coffa Gwilym Walters am y darn gorau o ryddiaith yn Adran yr Oedolion / Gwilym Walters Memorial Cup for the best piece of writing in the Adult Section

Iona Evans, Abergele

Dysgwyr / Welsh Learners

Raymond Williams, Llanybydder

Brawddeg / Sentence

Eilir Jones, Pencader

Meithrin a Derbyn – Llun a Brawddeg / Nursery and Reception – Picture and Sentence

1 – Lara Thornton, Castell Newydd Emlyn

2 – Rhun Thomas, Talgarreg

3 – Elliw Grug Davies, Llanybydder

Blwyddyn 3 & 4 – Stori / Years 3 & 4 – Story

1 – Gwenan Fflur Jones, Caerfyrddin

2 – Gwenno Francis, Boncath

Blwyddyn 7 – 9 – Stori / Years 7 – 9 Story

1 – Lefi Aled Dafydd

2 – Elen Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Blwyddyn 10 – 13 – Stori / Years 10 – 13 – Story

1 – Sara Elan – Cwmann

Enillydd Tarian Gwenllan am y darn gorau o waith yn Adran Lenyddiaeth y Plant / Winner of the Gwenllan Shield for the best piece of writing in the Children’s Section

Lefi Dafydd, Eglwyswrw

Tlws yr Ifanc / Young People’s Literature Prize

Sioned Howells, NewInn

Llawysgrifen / Handwriting

Lan i Flwyddyn 2 / Up to Year 2

1 – Lola Griffiths, Caerfelin

2 – Beca Evans, Ysgol y Ddwylan

3 –StanleyDavies, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Dylan Bro Teifi

2 – Katelyn, Bro Teifi

3 – Chloe, Bro Teifi

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Beca Dwyryd, Porthmadog

2 – Elan Evans, Ysgol Llanllwni

3 – Tudur George, Ysgol Llanllwni

Blwyddyn 7 – 9 / Years 7 – 9

1 – Gwion Huw Jones, Caerfyrddin

Celf / Art

Meithrin a Derbyn / Nursery and Reception

1 – Ioan Davies, Llanfihangel-ar-arth

2 – Elsi Williams, Ysgol Caerfelin

3 – Martha Bellis, Ysgol Llangynnwr

Blwyddyn 1 & 2 / Years 1 & 2

1 – Holly Thomas, Ysgol Caerfelin

2 – Trystan Morris, Ysgol Caerfelin

3 – Ina Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1 – Ruby Powell, Ysgol Caerfelin

2 – Chloe Harries, Ysgol Caerfelin

3 – Jac Williams, Ysgol Caerfelin

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

1 – Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

2 – Ffion Lovell, Ysgol Caerfelin

3 – Maddison Driscoll, Ysgol Caerfelin

Cwpan Her er cof am Heledd Griffiths / Winner of The Heledd Griffiths Memorial Cup

Tilly Grace Rees Graves, Ysgol Caerfelin

Celf – Agored / Art Open

1 – Michelle Davies, Llanfihangel-ar-arth

Eisteddfod Leol

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf

I weld yr adroddiad ar gyfer 2018 a chanlyniadau llawn cliciwch ar y dolenni isod.

                   Adroddiad                    Canlyniadau

Page 1 of 2

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén