Mae Cyd-Ynni Capel Dewi yn fyw.

Mae Ynni Lleol yn trawsnewid y farchnad drydan ar gyfer cymunedau a chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy graddfa fach. Ein cenhadaeth yw helpu cymunedau i gael mwy o werth o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach trwy ddefnyddio’r trydan yn lleol.

Mae’n gweithio trwy roi cyfle i chi brynu trydan yn rhatach yn uniongyrchol gan y rhai sy’n cynhyrchu ynni solar yn yr ardal.

Mae’n adlewyrchu gwir werth ynni adnewyddadwy ac mae’n cadw mwy o arian yn lleol.

 

Mae mentrau cydweithredol Ynni Lleol eisoes wedi’u sefydlu mewn sawl ardal yng Nghymru, gan gynnwys Corwen, Crucywel a Bethesda.

 

Mae menter gydweithredol Ynni Lleol newydd yn cael ei sefydlu yn yr ardal hon. Gweler y map isod i weld yr ardaloedd sy’n cael eu cynnwys.

Mae’r fenter yn cynnwys yr ardal a gyflenwir gan is-orsaf dosbarthu trydan Llanllwni, ardal sy’n cynnwys Capel Dewi, Rhydowen, Pont-siân, Cwrtnewydd, rhannau o Llanybydder, Llanllwni, rhannau o Wyddgrug a Llanfihangel-ar-arth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cynnig, sy’n cael ei gyfyngu, gwaetha’r modd, i’r 80 aelwyd gyntaf sy’n cofrestru, a fyddwch cystal â chofrestru eich diddordeb yn www.energylocal.org.uk/capeldewi neu anfonwch e-bost at jane.nobrien@gmail.com os hoffech wybod mwy.

Sylwch nad oes angen talu i gofrestru eich diddordeb – mae’n debyg i newid darparwr trydan. Hefyd, wrth gofrestru eich diddordeb, nid oes ymrwymiad i fynd ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl wedyn. Ni fyddwch yn symud at Ynni Lleol yn syth ac felly byddwch yn amyneddgar ar ôl cofrestru, gan ei bod yn cymryd sawl mis fel rheol i gael popeth yn ei le er mwyn i fenter Ynni Lleol ‘fynd yn fyw’ yn eich ardal.

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i leihau eich biliau trydan a defnyddio trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol!