Nodiadau Natur: Ebrill

Wrth i mi ysgrifennu ynghanol mis Mawrth mae’r glaw yn taro’r ffenestr a’r ŵyn yn cysgodi tu ôl i’r cloddiau.  Fodd bynnag, mae’r gwanwyn yn bendant ar ei ffordd – mae blagur dail y ddraenen wen yn ymagor yn araf bach yn y cloddiau, rhai crocws a briallu’n ffrwydro’n lliwgar ar ein llethr blodau gwyllt, mae’r lili wen fach yn cuddio yn y cloddiau, ac mae adar y to yn archwilio’r blychau nythu.  Serch hynny, er bod y Gwanwyn yn gyfnod hyfryd o fywyd newydd, mae wedi bod yn wythnos drist yn y rhan yma o Wyddgrug – mae’r rhan fwyaf o’r coed a’r hen gloddiau yn y caeau yr ydym wedi cerdded drwyddynt yn ddyddiol, sydd wedi cael eu gadael i raddau helaeth i dyfu’n wyllt dros y pum mlynedd diwethaf ac o ganlyniad, wedi llenwi gyda bywyd gwyllt, wedi cael eu torri bron i’r llawr yr wythnos yma – adeg ofidus o hwyr o’r flwyddyn i waredu tyfiant helaeth gyda photensial nythu a chynefin gwych.  Mae’r cwtau wŷn bach a oedd yn britho’r canghennau wedi mynd, cynefin y cyffylog a arferai swatio yng nghysgod y coed, y canghennau yr arferai grwpiau o ditw cynffon-hir glebran arnynt, a’r goeden lle canai’r fronfraith.  Gobeithio y bydd y creaduriaid hyn yn dod o hyd i le arall i’w alw’n gartref, ond mae torri coed yn dod yn fwyfwy cyffredin yng nghefn gwlad ac ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd yna le arall i fyd natur symud iddo.  Mae fy nyddiau dipyn yn dlotach oherwydd hyn, mewn lle yr oeddwn i’n ei garu gymaint.

Beth yw bioamrywiaeth a pham ei fod yn bwysig i ni?

Yn lle fy nghynghorion amgylcheddol, rwyf wedi penderfynu ateb cwestiwn ymhob rhifyn ar rai o’r materion sy’n ein hwynebu o ran natur a hinsawdd, yng Nghymru ac yn fyd-eang – rhywbeth rwy’n dod wyneb yn wyneb ag ef bob dydd yn fy rôl fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd.  Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennym yn y byd, neu o fewn rhan arbennig o’r byd, fel ein plwyf.  Yn 2019, rhyddhaodd Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd adroddiad am Sefyllfa Byd Natur, lle adroddwyd bod bioamrywiaeth wedi gostwng yn ddramatig yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf, a bod poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng 60% yn fyd-eang.  60%!  Mae gostyngiad mor ddramatig yn golygu ein bod mewn argyfwng bioamrywiaeth.

Ond pam mae hyn yn bwysig i ni?

Mae bioamrywiaeth yn effeithio ar ein gerddi ac amaethyddiaeth, yn ogystal ag ardaloedd gwyllt.  Heb fioamrywiaeth mewn planhigion gwelwn na fydd y cnydau rydym yn eu tyfu nawr yn gallu gwrthsefyll y newid mewn glawiad, tymheredd yr aer ac amlder stormydd sy’n digwydd oherwydd newid hinsawdd. Er enghraifft, mae angen i goed afalau oeri (o dan tua 7°C) am tua 40 diwrnod bob gaeaf i gynhyrchu ffrwyth y flwyddyn nesaf – nid ydym yn cael y nifer hyn o ddiwrnodau oer yn gyson yn y DU bellach.  Heb gloddiau a choed ni fydd gan dda byw unrhyw gysgod rhag stormydd na chysgod mewn cyfnodau o dywydd poeth.  Heb bryfed ni fydd planhigion yn peillio’n naturiol – bydd tyfu bwyd i ni, neu i anifeiliaid, yn amhosibl felly bydd angen peillio pob planhigyn yn artiffisial, gan achosi i gost bwyd godi’n sylweddol.  Ni fydd ychwaith yn ariannol bosibl i feithrinfeydd planhigion dyfu’r blodau yr ydym yn hoffi eu cael yn ein gerddi.  Felly, hyd yn oed os ydym yn diystyru manteision cael ein hamgylchynu gan natur ar gyfer lles meddyliol, mae cymaint o resymau i achub y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ochr yn ochr â ni.

Morgan Jones

Nodiadau Natur: Chwefror

Rwy’n edrych ar godiad haul hyfryd dros y dyffryn rhewllyd islaw wrth ysgrifennu’r Nodiadau Natur i’r rhifyn yma – mae’r cymylau’n llachar a’r awyr yn gwbl glir – dyma’n hoff ddyddiau.  Mae hi’n ddyfnder gaeaf, ond mae’n braf cael cyfnod oer o’r diwedd, ac mae’r dyddiau’n hirhau.

Mae byd natur ar ei thawelaf yr adeg yma o’r flwyddyn – mae’r rhan fwyaf o’r planhigion wedi’u cuddio o dan y ddaear neu’n llonydd, ond mae ambell arwydd bod y gwanwyn ar y gorwel.  Mae’r cynffonnau ŵyn bach yn hongian o’r coed a gwelaf ambell eginyn bwlb yn ymddangos uwchben y dail – ond dim yn ein gardd – mae Gwyddgrug yn llawer rhy oer!

Rwyf yn brysur yn llenwi’r bwydwr adar yr adeg yma o’r flwyddyn – mae’r robin goch a’r titw tomos las yn aml yn aros i mi ei lenwi yn y bore.  Rwy’n siŵr y byddent yn dweud wrthyf am hastu pe baent yn gallu siarad!  Mae’r titw cynffon hir yn ôl yn y caeau ger y tŷ – maent yn mynd rownd mewn grŵp ac mae’r titw tomos las neu’r titw mawr yn ymuno â nhw yn aml, ac yn sgwrsio wrth wledda ar y cynffonnau ŵyn bach ac yn trydar eu rhybudd pan mae’n ci gerllaw.

Awgrym amgylcheddol y mis

Mae gwyfynod yn fwyd gwych i adar (ac ystlumod pan nad ydynt yn gaeafgysgu), yn beillwyr hanfodol (nid gwenyn yw’r unig rai!) ac o amgylch trwy gydol y flwyddyn.  Mae poblogaethau gwyfynod wedi gostwng traean yn y 50 mlynedd diwethaf oherwydd nifer o ffactorau megis newid hinsawdd.  Rheswm arall yw’n hawydd am olau artiffisial yn y nos pan mae’r rhan fwyaf o wyfynod yn effro.  Mae goleuadau tu allan yn ddefnyddiol yn nyfnder gaeaf ond ceisiwch eu defnyddio am gyfnod byr yn unig, neu ar amserydd fel ei fod yn diffodd wedi i rywun gerdded heibio.  Rydym yn byw ar ymyl gwarchodfa awyr dywyll – ardal sy’n enwog am fedru gweld nifer enfawr o sêr a lle mae’r awyr dywyll yn cael ei diogelu trwy leihau golau artiffisial pan yn bosibl.

Gadewch i ni wneud ein rhan a throi’r golau allanol artiffisial i ffwrdd.

Morgan Jones