Sefydlwyd y Grŵp Adfywio Pencader a’r Cylch ym mis Chwefror 2003.
Ar ôl cyfarfod cyhoeddus crëwyd Grŵp Cynllunio Cynllunio Go Iawn Pencader gyda chefnogaeth Antur Teifi ac Oak Tree Community Development Services. Cytunwyd mai ein nod cyntaf ddylai fod ymgynghori â phreswylwyr y plwyf gan ddarparu cyfle lle gallai eu diddordebau ac amcanion gael eu mynegi. Crëwyd map graddfa fawr yr ardal â thai model a wnaethpwyd gan blant yn yr ysgol. Fe’i dangoswyd i breswylwyr a gafodd eu hannog i ddangos eu pryderon a syniadau gan ddefnyddio’r map fel modd o leoli’r mannau perthnasol.
Wedyn sefydlwyd y Grŵp Adfywio er mwyn helpu ymwneud â’r pynciau wedi eu codi.
Amcanion y Grŵp ydy:
Gwella bywyd cymunedol preswylwyr cymuned Pencader a’r pentrefi amgylchynol (Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel-ar-arth, New Inn a Phontyweli), yn arbennig cyfathrebu a’r amgylchedd cyffredinol, wrth barchu cyfleon cyfartal i bawb yn hyn o beth.
Ar hyn o bryd y prif weithgareddau ydy:
Cyhoeddi cylchlythyr cymunedol dwyieithog – ‘Clecs Bro Cader’ ers 2003
Rheoli’r wefan pencader.org.uk
Trefnu glanhau’r pentref dwywaith y flwyddyn
Trefnu cystadlaethau fel Goleuadau Nadolig a’r Ardd Orau / ‘Chairman’s Bloomers’
Cynllunio, adeiladu, cynnal a chadw’r gwely blodau ac ardal o gwmpas y Bwrdd Dehongli ym Mhencader ar ddarn bach o dir a roddwyd yn garedig gan CDGP
Trefnu Sioe Hwyl Ardd a Chrefft flynyddol yn yr hydref
Yn 2018 sefydlwyd grŵp cymunedol Facebook i rannu newyddion a digwyddiadau cymunedol
Swyddogion y Grŵp
Cadeirydd: Stuart Wilson, Llwyngwen, Pencader. Ffôn 01559 384709
Is-gadeirydd: Chris Fuller, Glyncoch, Alltwalis, Ffôn 01559 384499 ebost: chrisfuller480@btinternet.com
Ysgrifennydd/Trysorydd: Jane Griffiths, 2 Bethel Chapel, Pencader. Ffôn 01559 384187 ebost: janegriffithsuk@btinternet.com
Golygydd Clecs Bro Cader: Jane Griffiths, 2 Bethel Chapel, Pencader. Tel 01559 384187 email: janegriffithsuk@btinternet.co
Cydlynydd Facebook: Hannah Phipps ebost: h.phipps1@sky.com
Cynhelir cyfarfodydd ar drydydd Lun y mis am 7.30yh yn y Pafiliwn, Pencader.
Mae croeso mawr i unrhyw un fynychu.