Clecs Bro Cader

Clecs Bro Cader 112Cylchlythyr cymunedol ar gyfer ardal Pencader sy’n cynnwys

Mae fersiwn ar-lein o’r rhifyn diweddaraf ar gael yma

Neges oddiwrth y Golygydd: Clecs Bro Cader

Neges oddiwrth y Golygydd

Mae’r heulwen a’r tywydd cynhesach ynghyd a’r clociau yn mynd ymlaen yn osgogi ni i fynd allan o amgylch yn fwy, er rhaid dal fod yn ofalus.

Mae yn wir ddiymwad i weld sawl achlysur newydd yn cael eu hysbysebu yn y rhifyn yma.  Mae’r gwahanol trefnyddion yn gwario llawer o amser,arian ac ymdrech i baratoi y gweithgareddau felly mae fyny i’r gymuned i’w cefnogi.

Yn dioddef yn bennodol mae grwpiau cymunedol fel y Grwp Adfywio, a Cymdeithas Gwelliant a Datblygu Pencader(CGDP) sydd yn cyfarfod yn rheolaidd a chael dim ond 4 neu 5 yn troi i fyny.  Mae’r grwpiau hyn yn bodoli er mwyn gwella y plwyf ac i ysgogi preswylwyr i ddod a datgan beth hoffent weld yn digwydd yn y pentrefi-a rhoi cefnogaeth i unrhyw weithgareddau a drefnwyd.

Nid yw yn ddigon i eistedd nol a dweud fod dim yw wneud os nad yw y bobl yn ymuno gyda syniadau a chymorth.  Mae na llawer o breswylwyr newydd yn yr ardal nawr a bydde yn braf pe baent yn dangos cefnogaeth i’r gymuned ‘rydynt wedi dewis ymgartrefu, ac ymuno yn y gweithgareddau.

Mae’r Grwp Adfywio yn cyfarfod ar y 3ydd Llun o’r mis fel arfer, ond oherwydd y Pasg fydd y nesaf a’r Llun Ebrill 25ed am 5:30 yn y Pafiliwn.

Mae CGDP yn cyfarfod a’r yr ail nos Fercher o’r mis yn y Pafiliwn am 7:30, felly yr un nesaf fydd Ebrill 13ed.  Mae grwpiau eraill yn cynnwys manylion o’i cyfarfodydd yn eu hadroddiadau yn y rhifyn yma o Clecs.

Yn sicr fydd yno groeso cynnes.

Nodiadau Natur

Nodiadau Natur: Ebrill

Wrth i mi ysgrifennu ynghanol mis Mawrth mae’r glaw yn taro’r ffenestr a’r ŵyn yn cysgodi tu ôl i’r cloddiau.  Fodd bynnag, mae’r gwanwyn yn bendant ar ei ffordd – mae blagur dail y ddraenen wen yn ymagor yn araf bach yn y cloddiau, rhai crocws a briallu’n ffrwydro’n lliwgar ar ein llethr blodau gwyllt, mae’r lili wen fach yn cuddio yn y cloddiau, ac mae adar y to yn archwilio’r blychau nythu.  Serch hynny, er bod y Gwanwyn yn gyfnod hyfryd o fywyd newydd, mae wedi bod yn wythnos drist yn y rhan yma o Wyddgrug – mae’r rhan fwyaf o’r coed a’r hen gloddiau yn y caeau yr ydym wedi cerdded drwyddynt yn ddyddiol, sydd wedi cael eu gadael i raddau helaeth i dyfu’n wyllt dros y pum mlynedd diwethaf ac o ganlyniad, wedi llenwi gyda bywyd gwyllt, wedi cael eu torri bron i’r llawr yr wythnos yma – adeg ofidus o hwyr o’r flwyddyn i waredu tyfiant helaeth gyda photensial nythu a chynefin gwych.  Mae’r cwtau wŷn bach a oedd yn britho’r canghennau wedi mynd, cynefin y cyffylog a arferai swatio yng nghysgod y coed, y canghennau yr arferai grwpiau o ditw cynffon-hir glebran arnynt, a’r goeden lle canai’r fronfraith.  Gobeithio y bydd y creaduriaid hyn yn dod o hyd i le arall i’w alw’n gartref, ond mae torri coed yn dod yn fwyfwy cyffredin yng nghefn gwlad ac ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd yna le arall i fyd natur symud iddo.  Mae fy nyddiau dipyn yn dlotach oherwydd hyn, mewn lle yr oeddwn i’n ei garu gymaint.

Beth yw bioamrywiaeth a pham ei fod yn bwysig i ni?

Yn lle fy nghynghorion amgylcheddol, rwyf wedi penderfynu ateb cwestiwn ymhob rhifyn ar rai o’r materion sy’n ein hwynebu o ran natur a hinsawdd, yng Nghymru ac yn fyd-eang – rhywbeth rwy’n dod wyneb yn wyneb ag ef bob dydd yn fy rôl fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd.  Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd gennym yn y byd, neu o fewn rhan arbennig o’r byd, fel ein plwyf.  Yn 2019, rhyddhaodd Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd adroddiad am Sefyllfa Byd Natur, lle adroddwyd bod bioamrywiaeth wedi gostwng yn ddramatig yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf, a bod poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng 60% yn fyd-eang.  60%!  Mae gostyngiad mor ddramatig yn golygu ein bod mewn argyfwng bioamrywiaeth.

Ond pam mae hyn yn bwysig i ni?

Mae bioamrywiaeth yn effeithio ar ein gerddi ac amaethyddiaeth, yn ogystal ag ardaloedd gwyllt.  Heb fioamrywiaeth mewn planhigion gwelwn na fydd y cnydau rydym yn eu tyfu nawr yn gallu gwrthsefyll y newid mewn glawiad, tymheredd yr aer ac amlder stormydd sy’n digwydd oherwydd newid hinsawdd. Er enghraifft, mae angen i goed afalau oeri (o dan tua 7°C) am tua 40 diwrnod bob gaeaf i gynhyrchu ffrwyth y flwyddyn nesaf – nid ydym yn cael y nifer hyn o ddiwrnodau oer yn gyson yn y DU bellach.  Heb gloddiau a choed ni fydd gan dda byw unrhyw gysgod rhag stormydd na chysgod mewn cyfnodau o dywydd poeth.  Heb bryfed ni fydd planhigion yn peillio’n naturiol – bydd tyfu bwyd i ni, neu i anifeiliaid, yn amhosibl felly bydd angen peillio pob planhigyn yn artiffisial, gan achosi i gost bwyd godi’n sylweddol.  Ni fydd ychwaith yn ariannol bosibl i feithrinfeydd planhigion dyfu’r blodau yr ydym yn hoffi eu cael yn ein gerddi.  Felly, hyd yn oed os ydym yn diystyru manteision cael ein hamgylchynu gan natur ar gyfer lles meddyliol, mae cymaint o resymau i achub y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ochr yn ochr â ni.

Morgan Jones

Nodiadau Natur: Chwefror

Rwy’n edrych ar godiad haul hyfryd dros y dyffryn rhewllyd islaw wrth ysgrifennu’r Nodiadau Natur i’r rhifyn yma – mae’r cymylau’n llachar a’r awyr yn gwbl glir – dyma’n hoff ddyddiau.  Mae hi’n ddyfnder gaeaf, ond mae’n braf cael cyfnod oer o’r diwedd, ac mae’r dyddiau’n hirhau.

Mae byd natur ar ei thawelaf yr adeg yma o’r flwyddyn – mae’r rhan fwyaf o’r planhigion wedi’u cuddio o dan y ddaear neu’n llonydd, ond mae ambell arwydd bod y gwanwyn ar y gorwel.  Mae’r cynffonnau ŵyn bach yn hongian o’r coed a gwelaf ambell eginyn bwlb yn ymddangos uwchben y dail – ond dim yn ein gardd – mae Gwyddgrug yn llawer rhy oer!

Rwyf yn brysur yn llenwi’r bwydwr adar yr adeg yma o’r flwyddyn – mae’r robin goch a’r titw tomos las yn aml yn aros i mi ei lenwi yn y bore.  Rwy’n siŵr y byddent yn dweud wrthyf am hastu pe baent yn gallu siarad!  Mae’r titw cynffon hir yn ôl yn y caeau ger y tŷ – maent yn mynd rownd mewn grŵp ac mae’r titw tomos las neu’r titw mawr yn ymuno â nhw yn aml, ac yn sgwrsio wrth wledda ar y cynffonnau ŵyn bach ac yn trydar eu rhybudd pan mae’n ci gerllaw.

Awgrym amgylcheddol y mis

Mae gwyfynod yn fwyd gwych i adar (ac ystlumod pan nad ydynt yn gaeafgysgu), yn beillwyr hanfodol (nid gwenyn yw’r unig rai!) ac o amgylch trwy gydol y flwyddyn.  Mae poblogaethau gwyfynod wedi gostwng traean yn y 50 mlynedd diwethaf oherwydd nifer o ffactorau megis newid hinsawdd.  Rheswm arall yw’n hawydd am olau artiffisial yn y nos pan mae’r rhan fwyaf o wyfynod yn effro.  Mae goleuadau tu allan yn ddefnyddiol yn nyfnder gaeaf ond ceisiwch eu defnyddio am gyfnod byr yn unig, neu ar amserydd fel ei fod yn diffodd wedi i rywun gerdded heibio.  Rydym yn byw ar ymyl gwarchodfa awyr dywyll – ardal sy’n enwog am fedru gweld nifer enfawr o sêr a lle mae’r awyr dywyll yn cael ei diogelu trwy leihau golau artiffisial pan yn bosibl.

Gadewch i ni wneud ein rhan a throi’r golau allanol artiffisial i ffwrdd.

Morgan Jones

 

 

 

Clwb Hanes Lleol

Pob bendith a diolch

Ar ôl blynyddoedd o fod yn weithgar ym mhlwyf Llanfihangel-ar-Arth mae Dr Gerald Coles a Wendy ei wraig yn ein gadael i fynd i fyw yn agosach at eu teulu yn ardal Caerdydd.

Byddwn yn gweld eu colli yn fawr yn yr ardal hon lle maent wedi bod yn gymwynaswyr gwirioneddol hael i’r gymuned.  Bydd bwlch mawr yn y Clwb Hanes ac yng ngweithgareddau pwyllgor Eisteddfod Llanfihangel-ar-Arth a’r plwyf.

Mewn noson arbennig o’r Clwb Hanes nos Iau Chwefror 17eg cyflwynwyd tlws arbennig i Gerald a Wendy i ddiolch o galon iddynt ar ran y Clwb a’r Eisteddfod am eu cyfraniad amhrisiadwy ers iddynt ddod i fyw i’n plith.  Darn o gelf gwydr yw’r rhodd gydag arwyddlun o Hen ŵr Pencader arno, sef cynllun a grewyd ar gyfer y Clwb Hanes, a thirlun o Ddyffryn Teifi yn gefndir.  Ceir geiriau pwrpasol o ddiolch ar y gwaelod.

Diolch o galon i’r ddau weithgar a dymunwn pob bendith iddynt yn eu cartref newydd.

Clwb Hanes – Chwefror

Oherwydd y pandemig nid oedd hi’n bosibl i ni gwrdd am ddwy flynedd.  Ond ym mis Chwefror llwyddodd Clwb Hanes Lleol Llanfihangel-ar-Arth a’r Plwyf i ailddechrau’i weithgareddau.  Cawsom ni sgwrs ddiddorol am gerfio gan Ed Harrison, Pontsian.  Mae e wedi bod yn gweithio gyda choed a cherrig am fwy na hanner canrif ac wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol am ei waith, yn ogystal â chyflawni llawer o eitemau wedi’i gomisiynu.  Dangosodd ef luniau o’i gerfiadau i ni, yn cynnwys y llwy caru (serch) mwyaf yn y byd sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.  Hefyd dangosodd ef nifer o’i offer cerfio i ni.

Diolchwyd i Ed am noson arbennig a phawb wedi mwynhau yn fawr.

Mae’r Clwb yn gobeithio cwrdd pob pedair wythnos o hyn ymlaen, ar nos Iau yn Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, am 7:30yh.  Mynediad ydy £3 sy’n cynnwys lluniaeth a raffl.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Calfin Griffiths, 01559 384812, os gwelwch yn dda.

Croeso cynnes i bawb.

Merched y Wawr Pencader a’r Cylch

Ebrill 2022

Penderfynwyd i beidio cynnal cyfarfodydd ym misoedd Ionawr a Chwefror ond buom yn cadw cyswllt agos yn ein hardaloedd ac yn ymuno ar gyfarfodydd Zoom lle bu hynny’n bosib.

Aeth nifer fach ohonom i gael swper yn y Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin ac ymlaen i weld perfformiad o Shirley Valentine yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ar yr 8fed Mawrth.  Roedd y sgript yn arbennig gan Manon Eames a’r perfformiad yn gampus tu hwnt gan Shelley Rees a gynhaliodd y ddrama gyfan ar ei phen ei hun.  Dyna braf oedd cael mynd i berfformiad byw, lleol a mwynhau gyda’n gilydd unwaith eto.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn paratoi i gael cinio gyda’n gilydd yn Y Mari Glyn, Llanllwni ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn.  Os ydych am ymuno gyda ni er mwyn profi ein cyfeillgarwch a chael blas ar ein hwyl mae yna groeso cynnes.

Gallwch gysylltu gyda i chi:

Fioled Jones 01559 384617,

Gwyneth Alban 07976 276011

Ann Phillips 01559 384558

os ydych am ymuno gyda ni.

Bydd croeso cynnes i chi.

Sefydliad y Merched Pencader

Sefylliad y Merched Pencader

Yn ein cyfarfod ym mis Chwefror dangosodd Mr Ivor Thomas ffilm hyfryd i ni, a wnaed yn wreiddiol gan S4C, i ddathlu agoriad Llwybr Arfordir Cymru ym mis Mai 2012.  Roedd yn ffilm i godi’r galon ac mi wnaeth pawb fwynhau’r prynhawn.

Cinio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Nhafarn Tanerdy, Caerfyrddin oedd ein cyfarfod mis Mawrth.  Roeddem i gyd wrth ein bodd bod Julia yn ddigon iach i ymuno â ni.  Roedd hefyd yn braf gweld Barbara, a ddaeth yr holl ffordd o’i chartref newydd yn Llandrindod.  Rhwng popeth roedd yn ddigwyddiad hyfryd.

Bydd Davina Watson yn dychwelyd i’r Pafiliwn ym mis Ebrill.  Teitl ei sgwrs bydd “Lights, Camera, Action!” Byddwn hefyd yn cynnal arwerthiant Dewch a Phrynwch ar ôl sgwrs Davina.

Bydd aelodau SyM yn mynd ar daith fws i Farchnad y Fenni ar 10 Mai yn lle cynnal cyfarfod ar 3 Mai.  Diolch i Avis am drefnu’r daith.

Byddwn yn cael taith arall ym mis Mehefin, y tro yma I Felin Wlân Drefach Felindre.  Mae digon i edrych ymlaen ato.

Cynhelir cyfarfodydd Sefydliad y Merched Pencader yn y Pafiliwn am 2pm ar ddydd Mawrth cyntaf y mis.

Os hoffech wybod mwy amdanom, ffoniwch Linda ar 01559 389882 neu e-bostiwch pencaderwi@gmail.com.

 

 

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2022 - Canlyniadau

Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2022

 

Canlyniadau / Results

  

Adran Lenyddiaeth / Literature Section

Y Gadair / The Chair

Hanna Roberts, Caerdydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tlws yr Ifanc / Young People’s Literature Prize

Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Cân Ysgafn / Amusing Poem

John Meurig Edwards, Aberhonddu

Cerdd Rydd / Free Verse

Hanna Roberts, Caerdydd

Englyn

Jo Heyde, Stanmore, Middlesex

 

Limerig / Limerick

John Meurig Edwards, Aberhonddu

Erthygl yn addas i Bapur Bro / Article Suitable for a Local Newspaper

Aled Evans, Trisant

Stori Fer / Short Story

Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

Cwpan Coffa Gwilym Walters am y darn gorau o ryddiaith yn Adran yr Oedolion / Gwilym Walters Memorial Cup for the best piece of writing in the Adult Section

Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-arth

 

  Dysgwyr / Welsh Learners

Gruffudd Thomas, Caerfyrddin

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Brawddeg / Sentence

Gaenor Mai Jones

 

Meithrin a Derbyn – Llun a Brawddeg / Nursery and Reception – Picture and Sentence

  1. Hari Davies, Cynwyl Elfed

 

Stori Blwyddyn 1 a 2 / Stori Years 1 & 2

  1. Non Thomas, Talgarreg

 

Blwyddyn 3 & 4 – Stori / Years 3 & 4 – Story

  1. Elliw Grug Davies, Llanybydder

 

Blwyddyn 7 – 9 – Stori / Years 7 – 9 Story

  1. Alwenna Owen, Ysgol Bro Teifi
  2. Fflur McConnell, Aberaeron
  3. Siân Jenkins, Ysgol Bro Teifi

 

Blwyddyn 10 – 13 – Stori / Years 10 – 13 – Story

  1. Celyn James, Ysgol Bro Teifi

 

Enillydd Tarian Gwenllan am y darn gorau o waith yn Adran Lenyddiaeth y Plant / Winner of the Gwenllan Shield for the best piece of writing in the Children’s Section

 

Celyn James, Ysgol Bro Teifi

 

Llawysgrifen / Handwriting

Lan i Flwyddyn 2 / Up to Year 2

 

  1. Efa Medi James Bl2, Ysgol Bro Teifi

 

  1. Alana Wilcox-Brooke Blwyddyn 1, Ysgol y Ddwylan

 

  1. Alys Powell, Blwyddyn 1, Ysgol Llanllwni

 

 

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

1.Lleucu Horwood, Ysgol Caerfelin

  1. Elliw Jones, Ysgol Llanllwni
  2. Gwenlli Thomas, Ysgol Bro Teifi

 

 

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

 

  1. Grace Ives, Ysgol Bro Teifi

 

  1. Solomon Gilpin, Ysgol Caerfelin

 

  1. Eliza Keyworth, Ysgol Bro Teifi

 

Blwyddyn 7 – 9 / Years 7 – 9

 

  1. Lleucu Mathias, 9R Ysgol Bro Teifi

 

  1. Cerys Davies, 9Y Ysgol Bro Teifi

 

  1. Crystal Ann, Ysgol Bro Teifi

Celf / Art

 

Meithrin a Derbyn / Nursery and Reception

 

  1. Steffan Joyner, Ysgol Caerfelin

 

  1. Soffi Davies, Ysgol Caerfelin

 

  1. Ela Jones, Ysgol Caerfelin

 

Blwyddyn 1 & 2 / Years 1 & 2

 

  1. Tommy Doyle Ysgol Caerfelin

 

  1. Eule Gilpin, Ysgol Caerfelin
  2.  

Mili Davies, Ysgol Caerfelin

 

Blwyddyn 3 & 4 / Years 3 & 4

 

  1. Lili Williams, Ysgol Bro Teifi

 

  1. Ioan Hedd Davies, Ysgol Bro Teifi

 

  1. Sienna Allman, Ysgol Bro Teifi

 

Blwyddyn 5 & 6 / Years 5 & 6

  1. Magw Fflur Thomas, Ysgol Bro Teifi

 

  1. Holly Thomas, Ysgol Caerfelin

 

  1. Lexi Venables Ysgol Caerfelin

 

Cwpan Her er cof am Heledd Griffiths / Winner of The Heledd Griffiths Memorial Cup

Magw Fflur Thomas, Llandysul

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Celf – Agored / Art Open

 

  1. Sharon Williams, Deganwy, Dolgran
  2. Wendy Rhodes, Alltwalis
  3. Sharon Williams, Deganwy, Dolgran

 

Dydd Gwyl Dewi Sant - CAWL A CHLONC

Sesiwn Holi ac Ateb Ynni Lleol Capel Dewi

Os ydych chi wedi cofrestru eich diddordeb ar gyfer Ynni Lleol Capel Dewi, neu os ydych chi’n ystyried cofrestru, mae croeso i chi ymuno ag un o’n cyfarfodydd Zoom.  

Bydd Jane O’Brien, o Ynni Lleol, yn cynnal y sesiwn a bydd yn rhoi cyflwyniad byr ar sut mae Ynni Lleol yn gweithio, ac yna bydd yn ateb cwestiynau.  

Gallwch ymuno drwy fideo neu heb fideo, ac aros am cyn lleied neu gyn hired ag y mynnwch yn ystod y sesiwn.

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod!

Date: Sunday 26th September 2021

Time: 6pm-7pm

Join Zoom Meeting:

https://us02web.zoom.us/j/85233669524?pwd=TWhZbGpPbHVlVTlaMTZ3TUFuWnJJZz09

Meeting ID: 852 3366 9524

Passcode: 995999

One tap mobile

+442080806591,,85233669524#,,,,*995999# United Kingdom

+442080806592,,85233669524#,,,,*995999# United Kingdom

Dial by your location

        +44 208 080 6591 United Kingdom

        +44 208 080 6592 United Kingdom

        +44 330 088 5830 United Kingdom

        +44 131 460 1196 United Kingdom

        +44 203 481 5237 United Kingdom

        +44 203 481 5240 United Kingdom

        +44 203 901 7895 United Kingdom)

Meeting ID: 852 3366 9524

Passcode: 995999

Find your local number: https://us02web.zoom.us/u/ksUJQIak0

2020 Adroddiad Blynyddol Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis

  Mae Adroddiad Blynyddol 2020 y Gronfa Budd Cymunedol a weinyddir gan Statkraft Alltwalis Wind Farm ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n ofynnol i Adobe Reader agor y ffeil PDF.

 

      Get Adobe Acrobat Reader    

 

 

I ddechrau’r lawrlwythiad, CLICIWCH YMA.  

 

Page 1 of 7

Powered by WordPress & Theme by Anders Norén